Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gau'r ddadl heddiw, yn dilyn cyfraniadau manwl ac addysgiadol iawn o bob rhan o'r Siambr. Ac a gaf fi ddweud pa mor wych yw bod yn ôl yn y Siambr, yn gwneud yr hyn y mae ein hetholwyr wedi ein hethol i'w wneud?
Yr hyn a wnaed yn glir y prynhawn yma yw bod gordewdra yn glefyd cronig a achosir gan anghydraddoldebau iechyd, dylanwadau genetig a ffactorau cymdeithasol, ac fel y dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon, mae hon yn broblem y mae'n rhaid i bob Aelod o'r Cabinet fod yn gyfrifol amdani ar draws y Llywodraeth gyfan. Fel y nododd yr Aelod dros Ynys Môn yn gywir, mae gordewdra yn bandemig.
Roedd strategaeth Llywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2019, yn bryderus o amwys, er ei bod yn llawn o fwriadau da, ac fel y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud, roedd yn uchelgeisiol iawn. Ond er gwaethaf hyn, fel llawer o gynlluniau, cafodd ei gwthio o'r neilltu oherwydd pandemig COVID-19. Mae'r pwynt wedi'i wneud ei bod yn hanfodol ein bod yn ei chael yn ôl ar y trywydd cywir ar frys a byddwn yn cadw llygad barcud ar hyn.
Gwnaeth yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed hyn yn glir drwy restru'r afiechydon, yr anhwylderau a'r clefydau y gall gordewdra eu gwaethygu, a thynnodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd sylw at y pwynt am fesurau ataliol i leddfu'r baich ar y GIG. Cyfeiriodd yr Aelod dros Ganol Caerdydd at ansawdd gwael bwyd, ac rwy'n cytuno â hi, felly y cyfan y gallaf ei wneud yw ei hannog hi a'i hetholwyr i gefnogi cynnyrch o Brydain, cefnogi cynnyrch o Gymru, prynu cynnyrch lleol o ansawdd uchel, gan gynnwys cig a llaeth, sydd nid yn unig o ansawdd uchel, ond yn iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy.
Tynnodd yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd sylw hefyd at brinder cyfleusterau o ansawdd uchel, a chyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y cyllid sydd ar gael. Ond cyfeiriwyd at hyn hefyd gan Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar chwaraeon yn ddiweddar, grŵp a gaiff ei gadeirio gan fy nghyd-Aelod, Laura Anne Jones, a wnaeth y pwynt cywir nad problem gosmetig yn unig yw gordewdra; mae'n broblem iechyd hefyd.
Ni cheir un dull sy'n addas i bawb o fynd i'r afael â gordewdra, ac mae pob unigolyn yn wahanol, ond mae themâu cyffredin wedi bod erioed. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn talu sylw i'n dadl heddiw ac yn atgyfnerthu eu hymdrechion i roi blaenoriaeth i ymladd problem gordewdra yng Nghymru. Felly, rwy'n annog yr holl Aelodau i ddangos eu hymrwymiad tuag at frwydr y braster a chefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.