6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:08, 2 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ei hystyried yn fraint cael gwneud y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar, yn ffurfiol ac agor y ddadl hon ar bwnc mor bwysig ond anodd.

Fel llawer ohonom yma yn y Siambr, ymrwymais i gefnogi targed WAVE Trust o 70 y cant ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod erbyn diwedd y degawd hwn. Yn ystod y Senedd ddiwethaf, roedd bron pob Aelod yn cefnogi'r addewid 70/30. Yn wir, yr unig rai nad oeddent yn cefnogi gosod targedau i fynd i'r afael â cham-drin plant oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, er i'r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, ddweud wrth y Siambr ei fod yn cefnogi gwaith WAVE Trust.

Mae gennym gyfle gwirioneddol ger ein bron heddiw. Gallwn gadarnhau ein hymrwymiad i'r targed 70/30 a rhoi Cymru ar lwybr i fod yn un o'r gwledydd blaenllaw o ran mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effeithiau mor ddinistriol ar unigolion. Maent yn codi'r risg o iechyd corfforol a meddyliol gwael, yn cyfrannu at ganlyniadau addysgol gwaeth ac yn arwain at ddisgwyliadau oes byrrach. Rydym i gyd wedi gweld yr ystadegau ac yn credu ein bod yn deall y problemau, ond hyd nes y siaradwch â dioddefwyr a chlywed eu stori, ni allwch lwyr amgyffred maint y problemau sy'n wynebu llawer o blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae'r trawma yn effeithio ar eu bywydau ac yn eu gyrru ar gyfeiliorn.

Rhannodd un dioddefwr ei stori ysgytwol gyda mi. Cafodd ei cham-drin yn rhywiol yn 12 oed. Cafodd y profiad erchyll hwn ei ddwysáu wrth i'r trais rhywiol arwain at feichiogrwydd, a chamesgoriad wedyn. Parhaodd y trawma drwy gydol ei bywyd ifanc. Dilynodd mwy o ymosodiadau rhywiol yn ogystal â dau feichiogrwydd pan oedd yn ei harddegau. Ni orffennodd ei haddysg ffurfiol a throdd at alcohol a chyffuriau. Yn y pen draw, aeth yn gaeth i heroin a dywedodd ei bod wedi ystyried cyflawni hunanladdiad fwy nag unwaith.

Drwy gydol y cyfnod trawmatig hwn, roedd hi'n galw am gymorth. Yr unig gymorth a gafodd oedd gwrth-iselyddion. Pan aeth yn feichiog, unwaith eto, gofynnodd am help gyda dibyniaeth, a rhagnodwyd Subutex iddi heb lawer o ystyriaeth i'r effaith y gallai hyn fod wedi'i chael ar ei phlentyn yn y groth. Drwy'r cyfnod hwn, dros sawl degawd, gofynnodd am gymorth gan lawer o asiantaethau. Bu dros 150 o wahanol adrannau a phobl yn rhyngweithio â hi, ac eto ni wnaeth yr un ohonynt gynnig cymorth heb leisio barn. Aeth un o'i phlant hŷn ymlaen i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

Pan glywodd am WAVE Trust a dysgu am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fe weithredodd i newid ei bywyd. Heb gymorth, rhoddodd y gorau i'w harfer heroin ar ei phen ei hun yn llwyr ac mae'n falch o fod yn sobr ers dwy flynedd bellach. Gwnaeth hyn er mwyn ei phlant, ond rydym yn parhau i wneud cam â hi a'i phlant. Cafodd bresgripsiwn ar gyfer therapi trawma, ond dywedwyd wrthi fod rhestr aros o fwy na dwy flynedd.

Drwy rannu ei stori, mae'n gobeithio y gall helpu i atal rhywun arall rhag byw drwy'r un uffern ag y mae hi wedi byw drwyddo. Syrthiodd drwy'r bylchau, fel y gwnaeth ei phlant. Ni chafodd gymorth i'w phlentyn oherwydd ei bod yn byw yn y cod post anghywir, gan ei bod yn byw mewn ardal ymddangosiadol gefnog nad oedd yn gymwys ar gyfer Dechrau'n Deg na Teuluoedd yn Gyntaf.

Sut y gall hyn ddigwydd yn y Gymru fodern? Nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd, ond rwy'n gwybod bod yn rhaid inni weithredu, ac mae'r daith honno'n dechrau gyda mabwysiadu'r targed o 70/30 yn swyddogol. Ni fydd yn datrys popeth yn wyrthiol, ond bydd yn rhoi ffocws i feddyliau pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i fabwysiadu 70/30 gan nad yw'n ddigon uchelgeisiol a chan nad yw'n llwyr o fewn cwmpas gwaith y Llywodraeth. Ni wnaeth hyn atal Llywodraeth yr Alban, ac ni ddylai ein hatal ni. Ac os ydym am roi diwedd ar y cam-drin a'r trawma sy'n effeithio ar fywydau plant, mae'n rhaid inni gymryd y cam cyntaf.

Mae fy mhlaid yn addo lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod 70 y cant erbyn 2030. A wnewch chi?