Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 2 Chwefror 2022.
Yn ystod pandemig COVID-19, mae mesurau iechyd y cyhoedd fel cyfyngiadau symud a chadw pellter cymdeithasol wedi bod yn hanfodol i atal y feirws a diogelu iechyd y boblogaeth. Fodd bynnag, i rai pobl, mae hyn wedi golygu eu bod yn fwy agored i niwed yn y cartref ac ar-lein, tra'n lleihau mynediad at ofal a chymorth gan wasanaethau. Yn fwyaf arbennig, mae hyn wedi rhoi plant a phobl ifanc mewn perygl, gyda'r perygl o fod yn fwy agored i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrais a allai arwain at ganlyniadau hirdymor.
Mae sawl ffordd y gallai profiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod wedi'u gwaethygu gan yr ynysigrwydd cymdeithasol, colli swyddi, cau ysgolion a mathau eraill o straen a achoswyd gan y pandemig. Yn gyntaf, mae'n bosibl fod y pandemig wedi cynyddu trallod o fewn y teulu, gan wneud plant yn fwy agored i bryderon rhieni, yn enwedig pryderon sy'n gysylltiedig â cholli swydd, ansicrwydd bwyd ac ansicrwydd tai. Gall straen o'r fath aros ym meddwl rhywun am fisoedd neu flynyddoedd. Yn ail, drwy gynyddu straen gwenwynig, gallai trallod teuluol cynyddol amharu ar ddatblygiad ymennydd plant, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd cynnar. Rydym wedi gweld trawma ar ôl colli anwyliaid. Rydym hefyd wedi gweld bod y pandemig a'r ymateb iddo yn effeithio'n anghymesur ar boblogaethau incwm isel a lleiafrifoedd ethnig, sydd eisoes mewn mwy o berygl o fod â chyflyrau cronig yr effeithir arnynt gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fel geni cyn amser, diabetes, gorbwysedd a chlefyd cronig yr ysgyfaint.
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhagweld y bydd dros 1 filiwn o farwolaethau plant y gellir bod wedi eu hatal ar draws y byd o ganlyniad i effaith anuniongyrchol y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae'r rhain yn ystadegau dirdynnol. Rhaid inni weithredu'n gyflym. Rhaid inni weithredu yn awr i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, ac rwy'n gobeithio y gall cyd-Aelodau o bob ochr i'r rhaniad gwleidyddol gefnogi ein gwelliant heddiw fel ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc.