Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 2 Chwefror 2022.
Cefais gyfarfod ddoe, a dweud y gwir, gyda’r tîm profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, lle gwnaethant ddisgrifio'r ymchwil unigol roeddent yn ei chyflawni, ac roedd yn ymddangos i mi eu bod, yn yr ymchwil honno, yn mesur beth oedd effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a pha gynnydd roeddent yn ei wneud. Felly, credaf efallai y dylem edrych ar hynny'n fanylach, gan eu bod yn sicr yn gwneud llawer o ymchwil o'r fath. Ond fel y dywedais, rwy’n cydnabod bod mwy i’w wneud.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 21 Ionawr, yn nodi’r camau nesaf, gan gynnwys datblygu cynllun profiadau niweidiol yn ystod plentyndod newydd. Bydd y cynllun hwn yn nodi’r camau gweithredu pellach y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Bydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau ein rhaglen lywodraethu a’r egwyddorion allweddol sy’n sail i'n holl bolisïau, megis hawliau plant, diogelu, llesiant cenedlaethau’r dyfodol, a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, hiliaeth a gwahaniaethu. Ac rwyf wedi nodi’r sylwadau a wnaed am dlodi yma yn y Siambr heddiw. Bydd yn adeiladu ar ein gwaith presennol i fynd i’r afael â cham-drin ac esgeulustod, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau ac i gefnogi iechyd meddwl gwell.
Gan droi at hawliau plant, rwy’n falch iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru. Ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y DU i ymgorffori hawliau plant yn y gyfraith—crybwyllwyd y Mesur plant yma heddiw—a’r Llywodraeth gyntaf yn y DU i sefydlu comisiynydd plant. Felly rwy'n croesawu ac yn barod i gefnogi’r gwelliant sy’n galw am ddod â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhan lawn o gyfraith Cymru. Fodd bynnag, mae marc cwestiwn o hyd ynglŷn ag a oes gennym y pwerau deddfwriaethol datganoledig angenrheidiol i wneud hynny yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys ar ddatblygiadau yn yr Alban. Felly, rydym yn ystyried goblygiadau’r dyfarniad, a gwn fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn edrych ar y goblygiadau hynny yn awr. Ond rydym yn sicr yn barod i gefnogi’r gwelliant.
Yna, yn olaf, hoffwn roi sylw i fater gosod targed ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Ein nod bob amser yw diogelu pob plentyn rhag niwed. Nid yw unrhyw beth llai na hynny'n dderbyniol. Mae arferion diogelu da yn dibynnu ar ystyried anghenion ac amgylchiadau unigol pob plentyn, nid targedau. Ac felly nid yw'n dderbyniol i'r Llywodraeth hon fabwysiadu targed a allai ymddangos fel pe bai'n awgrymu ei bod yn dderbyniol goddef cam-drin neu esgeuluso rhai plant. Am y rheswm hwn, nid yw’r Llywodraeth yn cefnogi gosod unrhyw darged ar gyfer lleihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nid ydym am i unrhyw blant gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a byddwn yn parhau i ymdrechu tuag at roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru ynghyd â’r cyfleoedd i gyflawni eu potensial, ni waeth beth fo’u hamgylchiadau unigol. Diolch.