Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 2 Chwefror 2022.
Diolch, Llywydd. Mae stelcian yn batrwm o ymddygiadau digroeso, sefydlog, obsesiynol ac ymwthiol gan un person tuag at berson arall sy'n achosi ofn o drais a thrallod i'r unigolyn sy'n cael ei dargedu. Mae'n hawdd meddwl am stelcian fel rhywbeth sydd dim ond yn digwydd i ffigurau cyhoeddus neu enwogion megis sêr pop, ond y gwir amdani heddiw yn y Deyrnas Unedig yw y bydd un ym mhob pump menyw ac un ym mhob 10 dyn yn cael ei stelcian ar ryw bwynt yn eu bywydau. Yn wir, amcangyfrifir bod oddeutu 1.5 miliwn o bobl yn cael eu stelcian yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae'r niferoedd mewn gwirionedd yn debygol o fod yn uwch na'r ffigwr hwn am nifer o resymau, megis: diffyg ymwybyddiaeth o beth yw stelcian; cymhlethdodau ynghylch perthynas yr unigolyn â'r troseddwr; sut mae ymddygiad stelcian fel arfer yn datblygu dros amser; ofn am ddiogelwch personol; diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol; profiadau trawmatig blaenorol; ac ateb anfoddhaol gan yr heddlu pan fo rhywun yn cwyno.
Yn frawychus hefyd, ar gyfartaledd, mae'n cymryd 100 achos o ymddygiadau digroeso gan stelciwr cyn i berson gysylltu gyda'r heddlu ynglŷn â hyn. Cefnogir hyn gan ymchwil a wnaed gan Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a ganfu nad oedd bron i ddwy ran o dair o'r goroeswyr stelcian y buont yn siarad â nhw ers dechrau'r pandemig wedi rhoi gwybod i'r heddlu amdano. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn stelcian dros y degawd diwethaf, ac mae wedi cynyddu hefyd yn sylweddol dros gyfnod y pandemig. Yn wir, yng Nghymru, os ydym yn cymharu ffigurau Ebrill i Fehefin 2020 i ffigurau Ebrill i Fehefin 2021, mae cynnydd o 30 y cant wedi bod yn y nifer o achosion o stelcian ac aflonyddu a gafodd eu recordio. Yn Nyfed-Powys, roedd cynnydd o 102 y cant, 23 y cant yng ngogledd Cymru a 24 y cant yn ne Cymru. Yng Ngwent yn unig bu gostyngiad, sef gostyngiad bychan o 1 y cant.