8. Dadl Plaid Cymru: Stelcio

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 2 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:58, 2 Chwefror 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma ac i’r Gweinidog am ei hymateb cadarn i'r ddadl, a dwi'n cytuno â hi: yn waelodol i’n cynnig ni y prynhawn yma mae’r angen yma i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, sy’n brofiad annerbyniol o gyffredin yn ein cymdeithas. Mae stelcio yn effeithio yn bennaf ar fenywod a merched, gyda dros 80 y cant o’r rhai sy’n cysylltu â’r Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol yn hunan adnabod fel benyw, a’r rhai sy'n cyflawni'r drosedd yn wrywaidd yn bennaf.

Mae’n amlwg bod stelcio yn symptom o broblem gymdeithasol ehangach ac yn rhan o’r trais, aflonyddu a cham-driniaeth sy’n creithio gormod o fywydau menywod a merched yng Nghymru. Rhaid, felly, sicrhau bod y broblem yn cael ei chynnwys a'i hystyried yn llawn yn y strategaeth VAWDASV nesaf.

Weinidog, rwy'n gwybod bod yr awydd a’r uchelgais yno, ond rhaid gwneud mwy; rhaid i bethau wella i ddioddefwyr stelcio. Mae hefyd yn werth nodi natur groesdoriadol stelcio: tra bod elfen rywiol neu rywiaethol bron bob amser ynghlwm wrth stelcio, mae llawer o grwpiau lleiafrifol a bregus yn ein cymdeithas yn fwy tebygol o fod yn dargedau stelcio, er enghraifft, yn sgil eu hil neu rywioldeb. Mae pobl â salwch neu anabledd hirsefydlog hefyd yn fwy tebygol o gael eu stelcio, ac adroddwyd 2,000 o achosion o stelcio gan bobl ifanc dan 18 oed yn 2020 yng Nghymru a Lloegr. Ac fel clywon ni gan Heledd Fychan, fel yn achos pob trosedd yn erbyn menywod a merched, yn anffodus, tybir bod y nifer o achosion nad ydynt yn cael eu hadrodd o gwbl yn uwch o lawer na'r ffigurau hyn.

Er bod y mwyafrif o achosion yn cael eu cyflawni gan rywun y mae'r goroeswr yn ei adnabod, a bod achosion yn medru digwydd o fewn lleoliadau domestig, mae bron i draean o'r achosion yn cael eu cyflawni gan ddieithriaid, ac felly mae ceisio sicrhau bod llefydd cyhoeddus yn ddiogel, yn cael eu cynllunio neu eu haddasu i sicrhau diogelwch menywod a merched yn gwbl hanfodol. Ac fel clywon ni yn y ddadl, mae lleoliadau digidol hefyd angen eu diogelu. 

Mae mynd i'r afael ag atal stelcio yn y lle cyntaf yn ganolog i'n brwydr dros sicrhau Cymru gyfartal. Sut allwn ni oddef sefyllfa lle mae menywod yn dioddef yn y fath fodd a ddisgrifiwyd mor rymus gan Delyth Jewell a Siân Gwenllian yn sgil y drosedd hon? Mae adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dangos bod 71 y cant o fenywod yn y Deyrnas Gyfunol wedi dioddef aflonyddu rhywiol, ac mae hyn yn codi i 86 y cant yn yr oedran 18 i 24. Rydym yn methu ein merched, Dirprwy Lywydd. Ac mae Ymddiriedaeth Suzy Lamplugh wedi canfod bod 97 y cant o fenywod wedi profi aflonyddu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond dim ond 14 y cant oedd wedi adrodd hyn i'r heddlu, ac o'r rheini, dim ond 6 y cant gafodd gynnig unrhyw gefnogaeth. Dim ond 1 y cant o'r rhai a erlynwyd gafodd eu canfod yn euog.

Mae cael diwylliant lle mae pobl yn medru aflonyddu yn gyhoeddus yn amlwg yn arwain at ganiatáu i stelcwyr feddwl bod ganddynt rwydd hynt i ymddwyn yn eu modd obsesiynol ac, yn aml, fygythiol heb i neb sylwi, neu heb unrhyw ganlyniadau cymdeithasol na chyfreithiol. Mae'r broblem o ran diffyg cefnogaeth a diffyg gweithredu o ran y system gyfiawnder a heddlua yn amlwg. Fe amlinellodd Delyth Jewell, Mark Isherwood a Joyce Watson y problemau sydd ynghlwm wrth y sefyllfa bresennol o ran hyn, gan amlinellu sut mae'r ymateb ar hyn o bryd yn aneffeithiol ac yn annerbyniol, yn gadael gormod o bobl i brofi'r drosedd ofnadwy yma. Ac rwy'n diolch i Jenny Rathbone am rannu profiad ofnadwy ei hetholwr.

Mae cyfiawnder a heddlu, wrth gwrs, dan reolaeth Llywodraeth San Steffan, ac er ein bod yn croesawu'r diwygiad yn Nhŷ'r Arglwyddi i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd i wneud casineb at fenywod yn drosedd casineb yng Nghymru a Lloegr, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan wedi awgrymu eisoes na fydd yn cefnogi'r diwygiad hwnnw. A beth bynnag, mae'r Bil yn annigonol o ran mynd i'r afael â'r achosion cymdeithasol ac economaidd ehangach sy'n cyfrannu at drais yn erbyn menywod, sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau ar sail hil, crefydd, statws mewnfudwyr, anabledd, rhywedd, rhywioldeb, dosbarth, oedran, heb sôn am fynediad cyfartal at wasanaethau iechyd, iechyd meddwl, tai a gwaith. 

Mae nifer o'r siaradwyr y prynhawn yma wedi amlinellu camau y gellir eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cefnogaeth i oroeswyr yn cael ei gwella, bod mwy yn cael ei wneud i atal stelcio yn y lle cyntaf, a bod angen gwell hyfforddiant ar yr heddlu a gwasanaethau cefnogi eraill i adnabod, ymateb ac atal y drosedd ofnadwy hon sy'n achosi cymaint o boen meddwl ac yn arwain yn rhy aml at drais. A Mark Isherwood, dyw anfon neges ddim yn ddigonol yn wyneb agwedd Llywodraeth eich plaid yn San Steffan. Does dim dwywaith bod angen datganoli'r grymoedd sydd eu hangen arnom i geisio ymateb yn fwy effeithiol i'r drosedd hon a'r rhai y mae'n ei effeithio, ac, yn y pen draw, ddileu'r agwedd a'r amgylchiadau sy'n arwain at stelcio yn gyfan gwbl. Diolch.