Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch, Llywydd. Dwi ar y cofnod yn dweud y dylid cael gwared ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr oni bai eu bod nhw'n gallu dod yn ôl ar y trywydd cywir, ac mae gen i ofn bod yr adroddiad yma rydyn ni wedi'i weld rŵan yn gwneud dim i roi hyder inni yn nyfodol y bwrdd. Wythnos yn ôl, wrth ateb cwestiwn gan Mabon ap Gwynfor, mi wnaeth y Prif Weinidog fwy neu lai ein cyhuddo ni ar y meinciau yma, ac ymgyrchwyr a staff lleol, o danseilio gwasanaethau fasgwlar yn y gogledd oherwydd y modd rydyn ni wedi gwrthwynebu a chodi cwestiynau am y broses o ganoli gwasanaethau. O fod wedi gweld yr adroddiad damniol arall yma, ydy'r Prif Weinidog rŵan yn gweld mai codi pryderon go iawn am resymau da yr oeddem ni?