Gofal Iechyd yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:18, 8 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Gobeithio, Prif Weinidog, y byddwch yn cytuno â mi y byddai'n beth da canolbwyntio ar y £1.3 biliwn sydd ar y bwrdd ar gyfer ysbyty newydd—y math o fuddsoddiad sydd ei wir angen yn ein hardal. Mae'n arian trawsnewidiol a all arwain at drawsnewid yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Gobeithio y byddwch yn rhannu fy marn bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd wrando ar farn pawb ledled y gorllewin, nid lleisiau'r rhai sy'n gweiddi uchaf yn unig.