Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 8 Chwefror 2022.
Llywydd, ym mis Mawrth eleni, byddwn yn lansio strategaeth fanwerthu i Gymru. Mae'r strategaeth yn ganlyniad i ymgysylltiad agos â'r sector a bydd yn hybu effeithlonrwydd ynni, a bydd yn cynnwys penodi cynrychiolwyr gwyrdd undebau llafur yn y gweithle, un o ymrwymiadau maniffesto'r Llywodraeth hon.