1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2022.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi trigolion a landlordiaid mewn adeiladau sydd â diffygion diogelwch tân posibl yn sgil datganiadau diweddar gan Lywodraeth y DU? OQ57606
Mater i ddatblygwyr a adeiladodd adeiladau â diffygion diogelwch tân yw talu am eu hadfer. Ym mis Medi lansiwyd cam cyntaf cronfa diogelwch adeiladau Cymru. Bydd hyn yn darparu arolygon a ariennir gan grantiau ar gyfer adeiladau lle mae problemau diogelwch tân yn hysbys neu'n cael eu hamau er mwyn nodi'r camau adfer angenrheidiol.
Diolch. Ddiwedd mis Ionawr, cynhaliais gyfarfod cyhoeddus yma ar risiau'r Senedd i wrando ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw ac a gafodd eu dal yng nghanol yr hyn sy'n drasiedi ac yn sgandal. Siaradais â phensiynwraig, Eileen, sy'n talu £511 y mis mewn taliadau gwasanaeth yn unig. Dim ond £800 y mis yw ei hincwm—ei phensiwn misol—. Anfonwyd bil o filoedd o bunnau at un arall a oedd yn bresennol a dim ond 25 diwrnod a gafodd i'w dalu. Mae eraill yn wynebu biliau o £50,000 dros y blynyddoedd nesaf. Gwyddom i gyd y bydd y sgandal hwn yn dinistrio bywydau pobl ddi-rif, heb sôn am y niwed emosiynol ofnadwy y mae hyn yn ei achosi. Rwy'n credu ei bod yn bwysig clywed lleisiau'r bobl hynny. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn camu i'r adwy i helpu'r lesddeiliaid hynny ar hyn o bryd. Mae angen cymryd camau adferol i wneud yr adeiladau hynny'n ddiogel ac i sicrhau bod eu hiechyd emosiynol yn cael ei ddiogelu. Felly, gofynnaf i chi, Brif Weinidog, ailystyried eich safbwynt a sicrhau bod arian ar gael ar gyfer y camau adferol sydd eu hangen ar yr eiddo hynny. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Nid wyf yn hollol siŵr fy mod yn dilyn y pwynt olaf a wnaeth yr Aelod, oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cyllid o'r math hwnnw, ond ei wneud mewn ffordd nad yw'n creu'r perygl moesol pan fo'r pwrs cyhoeddus yn talu am y problemau y mae datblygwyr eu hunain wedi'u creu ac yn gadael i'r datblygwyr hynny fynd yn rhydd heb orfod talu. Rwy'n credu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr, Michael Gove, wedi gwneud y pwynt hwnnw'n union, pan ddywedodd ei fod yn disgwyl i'r diwydiant ddarparu'r £4 biliwn y bydd ei angen i unioni'r camweddau y mae'r diwydiant ei hun wedi'u creu. Os yw'r pwrs cyhoeddus yn camu i mewn ac yn talu'r holl filiau hynny, pa gymhelliant posibl fydd i'r datblygwr nesaf sicrhau nad yw eu hadeiladau'n dioddef o'r un diffygion?
Rwy'n llongyfarch yr Aelod ar y cyfarfod a gynhaliodd. Gwelais rai adroddiadau amdano, ac mae'r rheini'n dystiolaethau pwerus gan y bobl y cyfarfu â nhw y diwrnod hwnnw y mae hi wedi eu hailadrodd. Oherwydd hynny, Llywydd, ar 14 Rhagfyr, gwnaeth y Gweinidog sy'n gyfrifol, Julie James, ddatganiad llafar ar lawr y Senedd, pryd ymrwymodd Lywodraeth Cymru i gynllun cymorth lesddaliad newydd i helpu'r nifer fach honno o lesddeiliaid sy'n cael eu hunain yng nghanol y caledi ariannol sylweddol iawn y mae Jane Dodds wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad pellach cyn toriad y Pasg a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am sut y bydd y cynllun cymorth lesddaliad hwnnw'n gweithredu—y costau y bydd yn eu talu, y ffordd y bydd pobl yn gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw—fel y bydd y rhai a ddioddefodd waethaf yn y sgandal hwn yn cael y cymorth y gallwn ni ei ddarparu heb ganiatáu i'r datblygwyr eu hunain osgoi eu cyfrifoldebau. Maen nhw'n gyfrifol am y diffygion hyn, rhaid iddyn nhw eu cywiro.