– Senedd Cymru am 2:38 pm ar 8 Chwefror 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf i unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, dros y penwythnos roedd tafarndai ledled Cymru gyfan yn llawn pobl yn gwylio'r rygbi. Nid oedd yn brofiad pleserus, rwy'n gwybod, i lawer ohonom ni'r penwythnos hwn, ond dyna yr oedd llawer o bobl yn ei wneud. Yn anffodus, y diwrnod canlynol, ar y Sul, roedd pobl a oedd mewn eglwysi yn dal i orfod gwisgo eu masgiau yn yr eglwys er mwyn cymryd rhan mewn gweithredoedd addoli. Nid wyf i'n credu ei fod yn iawn, ac nid yw llawer o fy etholwyr yn credu ei fod yn iawn, bod modd i bobl weiddi a sgrechian ar sgriniau teledu mewn tafarndai llawn heb fod angen gwisgo masg ac, eto, mae'n ymddangos bod pobl mewn addoldai yn cael eu gwahaniaethu yn eu herbyn fel hyn. A gaf i ofyn i chi am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pam mae addoldai'n dal i wynebu'r cyfyngiadau sylweddol iawn hyn ar adegau pan nad yw lleoliadau eraill, fel lleoliadau lletygarwch?
Diolch. Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yr adolygiad tair wythnos o'r holl ddiogeliadau COVID yn dod i ben yr wythnos hon, ac mae hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried cyn datganiad y Prif Weinidog ddydd Gwener.
Hoffwn i ddatgan buddiant fy mod ar hyn o bryd yn gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich hun yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog materion gwledig ynghylch y cynllun cydweithredu a datblygu'r gadwyn gyflenwi? Fel y gwyddoch chi eisoes, mae'r tîm rhaglenni gwledig yng Nghyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais am gyllid o dan rownd 11 y cynllun am le ar gyfer prosiect cynhyrchu lleol. Mae hyn yn cynnwys nifer o bartneriaid cyflenwi o sir Fynwy a thu hwnt o bob rhan o'r gadwyn cyflenwi bwyd. Cyflwynodd y tîm gais llawn am gyllid ym mis Mai 2021 a dydyn nhw yn dal ddim wedi derbyn unrhyw benderfyniadau ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn er gwaethaf bod penderfyniad fod i ddod gan y Llywodraeth o fewn 90 diwrnod o wneud cais. Rwy'n deall nad dyma'r unig gynllun nad yw wedi cael ymateb eto. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall, Gweinidog, fod oedi o'r fath yn arwain at ansicrwydd i bawb sy'n ymwneud â'r prosiect yn ogystal ag atal manteision y cynllun rhag cael eu teimlo yn yr ardal leol. At hynny, bob mis mae'r prosiect yn cael ei ohirio, mae'r amser cyflawni'n cael ei leihau, sy'n golygu bod yn rhaid i'r tîm gyfrif am danwariant mewn elfennau cyflawni prosiectau ychwanegol. Byddai unrhyw ddiweddariad neu gymorth y gallech chi eu rhoi, Gweinidog, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch.
Diolch. Nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad, ond fe wnaf i yn sicr edrych ar yr achos unigol yr ydych chi newydd ei godi gyda mi ac fe wnaf ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion llawn.
Rwy'n gofyn am ddadl yn ystod amser y Llywodraeth i drafod goblygiadau'r papur 'Codi'r gwastad' i Gymru gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr bod y Trefnydd yn cytuno â mi ein bod ni wedi gweld Llywodraethau olynol San Steffan sydd wedi bod yn gostwng gwastad Llywodraethau—gan dynnu arian oddi wrth Gymru. Er mwyn datrys problem datblygiad anwastad o fewn rhanbarthau Lloegr, mae'r Llywodraeth yn dweud y byddan nhw'n defnyddio cytundeb datganoli, gyda phwerau ar neu'n agosáu at y lefel uchaf o ddatganoli. Yn anffodus, nid yw'r papur hwn yn dweud dim am Gymru o ran y lefel uchaf o ddatganoli. Pan yr ydym ni wedi gofyn am ddatganoli cyfiawnder, ynni, Ystad y Goron, toll teithwyr awyr, mae wedi cael ei wrthod dro ar ôl tro. Mae gan rai rhanbarthau yn Lloegr fwy o bwerau na sydd gennym ni fel gwlad yng Nghymru.
Gan droi at fater arall, hoffwn i gael datganiad cynhwysfawr gan y Gweinidog newid hinsawdd ar ddiogelwch adeiladau i ateb nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, o ystyried bwriad Llywodraeth y DU i ymestyn y cyfnod cyfyngu cyfreithiol i ymdrin ag eiddo diffygiol o chwe blynedd i 30 mlynedd, a wnaiff y Gweinidog gymryd camau cyfreithiol yn erbyn datblygwyr nawr i adennill costau adfer datblygiadau ym Mae Caerdydd? Ac a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda Banc Datblygu Cymru i weld a allan nhw chwarae rhan i ddarparu benthyciadau wedi'u cefnogi'n fasnachol i gefnogi trigolion y datblygiadau hyn i adfer eu hadeiladau diffygiol? Diolch yn fawr.
Diolch. Nid wyf i'n anghytuno â'r rhan fwyaf o'r datganiad gan yr Aelod ynghylch codi'r gwastad a'r Papur Gwyn 'Codi'r gwastad' gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'r Papur Gwyn yn ei wneud, i'r rheini ohonom ni sydd wedi cael y cyfle i gael golwg arno, yn clodfori potensial cytundebau datganoli newydd yn Lloegr, ac eto maen nhw wedi tanseilio datganoli yng Nghymru ar bob achlysur. Maen nhw wedi defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 i dynnu pwerau cyllido a gwneud penderfyniadau oddi ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd. Mae'r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu'n hallt—Llywodraeth y DU—am ei diffyg ymgysylltu strategol â Llywodraeth Cymru ar godi'r gwastad gan bwyllgor dethol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei hun. Rwy'n credu, oni bai bod Llywodraeth y DU yn newid ei dull gweithredu, y byddan nhw'n gwastraffu mwy o adnoddau, yn tangyflawni ac yn camgyfleu'r hyn sydd wir yn digwydd.
Mewn ymateb i'ch ail gwestiwn, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiogelwch adeiladau cyn toriad y Pasg.
Rwy'n galw am ddatganiad ar addysg disgyblion awtistig yng Nghymru. Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd ysgol addysg Prifysgol Abertawe ddatganiad ynghylch ei hadroddiad rhagarweiniol ar addysg disgyblion awtistig yng Nghymru. Mae'r canfyddiadau'n cynnwys bod dros dri chwarter y disgyblion awtistig wedi dweud bod yn yr ysgol yn achosi mwy o bryder, dywedodd tri o bob pedwar eu bod wedi dioddef bwlio, roedd dros hanner yn credu nad oedden nhw'n cael digon o gymorth yn ystod y diwrnod ysgol, ac roedd traean yn teimlo nad oedd eu hathro yn eu deall. Dywedodd un o bob tri rhiant y mae eu plant yn mynychu lleoliadau prif ffrwd eu bod yn anhapus â'r ysgol, o gymharu â phedwar o bob pump o'r rhai mewn darpariaeth arbenigol sy'n hapus â lleoliad eu plentyn. Dywedodd y rhieni wrthyn nhw nad oedd un o bob tri phlentyn â datganiad o angen addysgol yn cael yr holl gymorth na darpariaeth sydd wedi'u nodi yn y ddogfen. Mae gan 90 y cant o addysgwyr brofiad o weithio gyda disgyblion awtistig, ac roedden nhw'n teimlo nad oedd eu hawdurdod lleol wedi bod yn gefnogol ar y cyfan. A dywedodd pedwar o bob pump o rieni a bron i dri chwarter y rhieni y mae gan eu plant ddatganiad ar hyn o bryd nad oedd eu hawdurdod lleol nac ysgol eu plentyn wedi rhoi unrhyw wybodaeth iddyn nhw am gyflwyno'r cod anghenion dysgu ychwanegol newydd a'r hyn y mae'n ei olygu i'w plentyn. Mae hyn yn adlewyrchu fy llwyth achos uchel fy hun yn y maes hwn, gyda'r swyddogion hynny sydd eisoes wedi gwrthod deall awtistiaeth yn parhau i wneud hynny, gan achosi poen a beio'r rhieni. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.
Diolch. Rwy'n gwybod fod gan yr Aelod ddiddordeb agos iawn yn y pwnc hwn, a bydd y Gweinidog addysg a'i swyddogion yn edrych yn fanwl iawn ar yr adroddiad. Mae'n bwysig bod plentyn yn cael yr addysg gywir a phriodol, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Gweinidogion, yn gwrando ar arbenigwyr o'r fath. A bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn amlwg yn ystyried y camau nesaf o'r adroddiad.
Trefnydd, hoffwn i gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ofal cartref, oherwydd mae Cydffederasiwn GIG Cymru wedi datgan mai un o brif ffynonellau tagfeydd y system yw'r trosglwyddo o ryddhau i lwybrau adfer a mynediad ymlaen i becynnau gofal cartref. Rwy'n derbyn fwyfwy o ohebiaeth gan berthnasau'r rhai nad oes modd eu rhyddhau. Mae darparwyr gofal preifat yn rhoi pecynnau gofal yn ôl i awdurdodau lleol oherwydd na allan nhw ddod o hyd i staff gofal. Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud wrthyf i nad ydyn nhw mewn sefyllfa i warantu pecyn gofal ar unwaith i unrhyw un sydd wedi bod yn yr ysbyty yn hwy na 14 diwrnod, oherwydd prinder staff. Ac rwy'n siŵr yr hoffwn i a'r Siambr wybod pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gofal cartref ar gael i'r rhai y mae angen eu rhyddhau, a pha gamau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i recriwtio a chadw mwy o ofalwyr yn y sector gofal yng Nghymru. Diolch, Llywydd.
Yn sicr. Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ar y cyflog byw gwirioneddol. Mae hynny'n rhywbeth cadarnhaol iawn, yn amlwg, y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ond mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn amlwg yn ceisio defnyddio'r ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau cartref i'w poblogaeth leol.
Yn olaf, Gareth Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd cell atal a rheoli heintiau COVID-19 y DU ganllawiau newydd ar ddefnyddio offer diogelu anadlol ar gyfer staff gofal iechyd rheng flaen. Arweiniodd hyn at Lywodraeth y DU yn gwneud y penderfyniad i ganiatáu i holl staff gofal iechyd yn Lloegr fanteisio ar lefelau uwch o gyfarpar diogelu personol, sef masgiau FFP2 a FFP3, er mwyn sicrhau bod staff a chleifion yn cael eu cadw'n ddiogel rhag amrywiolyn omicron COVID-19. Mae'r canllawiau newydd hyn yn berthnasol nid yn unig i'r GIG yn Lloegr ond i Lywodraeth Cymru hefyd. A gawn ni felly ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn esbonio pam y mae wedi dewis anwybyddu'r canllawiau newydd hyn—efallai y byddai hi eisiau ei gwneud nawr, o gofio ei bod yn y Siambr; mae'n ymddangos braidd yn rhyfedd fy mod i'n gofyn am ddatganiad gan y Trefnydd pan ei bod hi yn yr ystafell, ond rwy'n crwydro—a pham ei bod hi yn hytrach yn parhau i adael penderfyniadau ar lefelau uwch o gyfarpar diogelu personol wrth ddrws byrddau iechyd a rheolwyr unigol, pan y gallai ddangos arweiniad a sicrhau bod staff a chleifion ledled Cymru gyfan yn cael eu diogelu'n llawn? [Torri ar draws.] Cyfle euraidd.
Rwy'n credu bod y Gweinidog bron wedi cael ei themtio i wneud y datganiad ar yr adeg honno—
Roeddwn i ond yn mynd i ddweud—
—ond rwy'n credu bod angen i ni ganiatáu i'r Trefnydd ymateb yn ffurfiol. [Torri ar draws.]
Nid wyf i eisiau cyfnewid swyddi, os mai dyna'r hyn yr ydych chi'n ei olygu.
Roeddwn i ond yn mynd i ddweud wrth yr Aelod nad dyna'r ffordd y mae'r datganiad busnes yn gweithio. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi gwneud datganiad ysgrifenedig. Mae masgiau FFP3 ar gael i'r holl staff lle mae asesiad risg lleol yn dangos risg barhaus o drosglwyddo er gwaethaf mesurau atal a rheoli heintiau eraill sydd ar waith.
Diolch i'r Trefnydd. Pwynt o drefn ar ddatgan diddordeb, Cefin Campbell.
Ie, ymddiheuriadau mawr, Llywydd—fe wnes i anghofio datgan diddordeb, sef fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Gaerfyrddin, cyn gofyn y cwestiwn i'r Prif Weinidog. Felly, ymddiheuriadau.
Diolch am yr ymddiheuriad. Dyna ni, dwi wedi galw un aelod o bob grŵp dros y tair wythnos ddiwethaf yma nawr sydd wedi gwneud yr un camgymeriad o beidio datgan diddordeb. A gaf i ofyn i'r rhai ohonoch sy'n gynghorwyr neu'n piau busnes, neu beth bynnag yw'ch diddordeb chi, geisio cofio hynny pan fyddwch chi'n gwneud eich cyfraniad yn hytrach na'n bod ni'n galw hyn yn hwyrach yn y sesiwn? Fyddaf i ddim yn caniatáu hynna ymhellach; mae pob un grŵp wedi cael one strike, and you're out.