– Senedd Cymru am 2:50 pm ar 8 Chwefror 2022.
Felly, fe wnawn ni symud ymlaen nawr i'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar COVID hir—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fis Mehefin y llynedd, fe wnes i lansio rhaglen Adferiad sef pecyn gwerth £5 miliwn o wasanaethau i bobl sy'n gwella o effeithiau hirdymor COVID-19 yng Nghymru, gan gynnwys COVID hir. Yn rhan o'r cyhoeddiad hwnnw, fe ddywedais i y byddem ni'n adolygu cynnydd y rhaglen bob chwe mis. Mae'r adolygiad cyntaf wedi ystyried adroddiadau gan bob un o'r byrddau iechyd ac adborth gan gannoedd o bobl sydd wedi derbyn gofal yn rhan o'r gwasanaeth drwy gyfrwng gwerthusiad o'r gwasanaeth ledled Cymru, a gynhaliwyd gan ganolfan ymchwil Cedar.
Cyn i mi droi at ganlyniadau'r adolygiad, fe hoffwn i ddweud rhywbeth am sut y caiff gwasanaethau i bobl â COVID hir eu strwythuro yng Nghymru. Rydym ni'n dymuno i'r gofal hwn ddiwallu anghenion arbennig pobl drwy gyfrwng gwasanaethau a ddarperir mor agos â phosibl i'w cartrefi nhw. Os caiff rhywun drafferthion yn sgil effeithiau hirdymor COVID-19, eu pwynt cyswllt cyntaf yw eu meddyg teulu, a all eu cyfeirio nhw'n gyflym ac yn rhwydd at wasanaethau lleol, gan gynnwys y gwasanaethau adsefydlu. Mae rhai pobl wedi cael eu cyfeirio at y system mewn rhannau eraill o'r GIG hefyd. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi treulio wythnosau lawer neu fisoedd hyd yn oed yn yr ysbyty yn cael triniaeth COVID-19, er ei bod hi'n ddiddorol nodi nad oedd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael eu trin am COVID hir fod yn gleifion mewnol mewn ysbytai oherwydd eu salwch COVID-19 gwreiddiol.
Mae rhaglen Adferiad wedi ariannu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol estynedig ac uwch ym mhob bwrdd iechyd, ac rydym ni wedi datblygu llwybr clir i wella argaeledd a chyflymu'r broses atgyfeirio ar gyfer triniaeth lle mae angen gofal mwy arbenigol ar bobl. Fe ddarperir yr holl wasanaethau yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Fe gefais i'r fraint o gwrdd â rhai o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau yn ogystal â rhai o'r bobl sy'n derbyn gwasanaethau pan ymwelais i â thîm hir COVID ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'r wythnos diwethaf.
Y wybodaeth sydd gennym ni oddi wrth fyrddau iechyd yw mai'r amser aros cyfartalog i bobl gael eu gweld gan wasanaethau COVID hir yw 23 diwrnod. Mae hyn yn cymharu â'r amser aros o 15 wythnos ar hyn o bryd ar gyfer mynediad i'r clinigau COVID hir arbenigol a sefydlwyd mewn ardaloedd yn Lloegr. Mae data gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dangos bod ychydig dros 2,400 o bobl, erbyn mis Ionawr, wedi cael diagnosis o COVID hir gan eu meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru, a bod 2,226 o bobl wedi cael eu cyfeirio at ein gwasanaethau adsefydlu COVID hir yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r rhif hwn yn llai nag amcangyfrifon hunanadrodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol o niferoedd y bobl sydd â COVID hir yng Nghymru, ac nid ydym ni'n gwybod eto beth fydd effaith hirdymor omicron, yr amrywiolyn sy'n gyffredin iawn ar hyn o bryd yn ein cymunedau ni ac wedi effeithio ar gymaint o bobl, ar niferoedd y rhai sy'n dioddef symptomau COVID hir.
Mae ap adfer COVID, sy'n cefnogi pobl i reoli eu symptomau eu hunain, wedi cael ei lawrlwytho dros 10,000 o weithiau. Mae hi'n bosibl fod llawer o bobl wedi canfod bod yr ap yn eu helpu nhw i reoli eu symptomau o ddydd i ddydd. Serch hynny, fe wyddom ni fod rhai pobl, yn enwedig y rhai a ddatblygodd COVID-19 ar ddechrau'r pandemig ac sy'n byw gydag effeithiau hirdymor eu salwch cychwynnol, wedi cael trafferth wrth gael gafael ar y cymorth yr oedd ei angen arnyn nhw. Fe fyddwn i'n eu hannog nhw i ofyn am help os yw eu symptomau nhw'n effeithio ar ansawdd eu bywydau.
Llywydd, rwyf i eisiau troi yn nawr at yr hyn y mae'r adolygiad cyntaf o raglen Adferiad yn ei ddweud wrthym ni. Mae'r gwerthusiad yn awgrymu bod y gwasanaethau yn cefnogi'r bobl hynny sydd wedi cael eu gweld ac sy'n cael triniaeth i wella eu canlyniadau o ran iechyd. Mae hi'n ymddangos bod y model adsefydlu integredig ac amlbroffesiwn a ddarperir yn lleol yn ateb anghenion ein poblogaeth ni. Ond nid ydym ni'n hunanfodlon, ac fe fyddwn ni'n parhau i fonitro, dysgu, a gwella gwasanaethau, gan sicrhau ein bod ni'n ymateb i adborth gan bobl y mae angen y gwasanaethau hyn arnyn nhw ac sy'n eu defnyddio nhw.
Mae ein gwasanaethau COVID hir yn cynnig asesiadau a mynediad at ystod eang o weithwyr iechyd proffesiynol, triniaethau, ac adsefydlu.
Rŷn ni'n gwybod, ymhlith nifer fach o bobl, fod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau, a bod angen asesiadau, ymchwiliadau a thriniaethau arbenigol parhaus arnyn nhw. Mae nifer y plant sydd â COVID hir yng Nghymru hefyd yn parhau i fod yn isel, diolch byth. Mae byrddau iechyd yn trin pob plentyn yn unol â'i anghenion penodol.
Mae ein gweithlu'n gweithio'n galed iawn i helpu'r boblogaeth gyfan i wella'n effeithiol ac yn gyfartal. Maen nhw'n cydweithio â phobl ledled y byd i sicrhau bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn sail i'n penderfyniadau ni a'n hymatebion.
Llywydd, yn ychwanegol at y gwasanaeth Adferiad, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ledled y Deyrnas Unedig i COVID hir, a fydd yn helpu i gynyddu ein gwybodaeth am driniaethau a diagnosis. Hoffwn ddiolch i'r holl bobl yng Nghymru sydd hefyd yn cymryd rhan yn yr astudiaethau ymchwil pwysig iawn hyn.
Dwi hefyd wedi sefydlu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae rhan o raglen waith y ganolfan hon yn canolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â materion sy'n berthnasol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan COVID hir ac i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae rhai pobl wedi dioddef symptomau COVID hir mor ddifrifol neu barhaol nes eu bod wedi effeithio ar eu gallu i weithio. Dwi'n falch o ddweud bod cyflogwyr y gwasanaeth iechyd ac undebau llafur wedi cydweithio i adolygu polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth i sicrhau bod staff gofal iechyd yn cael eu cefnogi cymaint â phosibl.
Mae gwasanaethau adferiad ar gyfer COVID hir y gwasanaeth iechyd yn cynnwys cymorth i bobl o ran eu gallu i weithio, er bod budd-daliadau cysylltiedig â gwaith yn parhau'n gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi wnes i hefyd ofyn i Gomisiwn Bevan lunio adroddiad ar y potensial ar gyfer datblygu cofrestr o bobl sydd â COVID hir yma yng Nghymru. Ar hyn o bryd dwi'n ystyried ei adroddiad.
Mae byrddau iechyd wedi dweud wrthym ni eu bod yn credu y bydd ehangu'r gwasanaeth COVID hir presennol a'i gyfuno â gwasanaeth i bobl â chyflyrau hirdymor a gwasanaethau adsefydlu cymunedol yn sicrhau triniaeth ac arbenigedd clinigol o'r ansawdd gorau ar gyfer y tymor hir.
Dwi bellach yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf, fel y gall y gwasanaeth iechyd ddal ati i ddatblygu arbenigedd ein gweithlu, addasu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein poblogaeth, a sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn rhan o'n cynlluniau ehangach ar gyfer adfer yn dilyn COVID. Diolch yn fawr.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Mae gennyf i ddiddordeb yn eich honiad ynglŷn â'r wybodaeth a gawsoch chi gan y byrddau iechyd—mai'r amser aros cyfartalog i bobl gael eu gweld gan wasanaethau COVID hir yw 23 diwrnod. Fe ewch chi ymlaen hefyd i gymharu hyn ag amser aros o 15 wythnos ar gyfer mynediad at glinigau COVID hir arbenigol a sefydliwyd mewn rhannau o Loegr. A gaf i ofyn i chi: a yw'r ddwy gymhariaeth a wnewch ar sail gyffelyb i'w gilydd, ac os nad ydyn nhw, a wnewch chi nodi'r gwahaniaethau?
Un o'r prif straeon heddiw, Gweinidog, ar y BBC, fel gwelsoch chi, mae'n siŵr, yw stori Siân Griffiths, sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi talu i gael gweld ymgynghorydd yn Stoke-on-Trent yn hytrach nag aros 12 mis—sef yr hawliad yn yr achos hwn—yn GIG Cymru. Felly, a wnewch chi esbonio'r gwrthgyferbyniad, efallai, rhwng profiad a stori Siân a'r honiad mai 23 diwrnod yw'r amser aros cyfartalog am driniaeth ar gyfer COVID hir? Pa gamau, tybed, yn hyn o beth, y byddech chi'n eu cymryd, Gweinidog, i sicrhau nad oes yn rhaid i gleifion Cymru deithio yn bell na theithio i Loegr mewn achosion fel yr un a nodir yn y stori benodol hon?
Nawr, nid wyf i'n ymwybodol bod y data yr ydych chi'n sôn amdano oddi wrth y byrddau iechyd wedi cael eu cyhoeddi o gwbl, Gweinidog, felly tybed a wnewch chi gytuno i gyhoeddi'r data hyn er mwyn i ni allu ymchwilio i hynny ein hunain ar draws y Senedd.
Wrth gwrs, mae llawer o bobl sy'n dioddef oherwydd COVID hir, neu wedi gwneud hynny'n flaenorol, yn sôn am eu rhwystredigaethau a'u brwydrau nhw, o orfod mynd am sawl prawf ar wahanol amseroedd ac mewn gwahanol leoedd. Maen nhw'n sôn bod y profiad yn un blinedig, ac rwy'n siŵr y gallech chi a minnau ddeall hynny. Mae'r bobl sy'n dioddef oherwydd hyn eu hunain yn dadlau bod angen clinigau arbenigol, oherwydd fe all pobl fod yn sâl iawn ac yn analluog i negodi system gymhleth o atgyfeiriadau i wahanol leoedd. Felly, tybed a fyddech chi'n cytuno y byddai hi'n well i'r rhai sy'n dioddef yn y sefyllfaoedd penodol hyn allu mynd i un lle ar gyfer eu triniaeth.
Roedd gennyf i ddiddordeb mewn menter sy'n digwydd yn Essex ar gyfer rhai sy'n dioddef oherwydd COVID hir neu gyflyrau eraill yr ysgyfaint, lle mae cerbyd symudol ar gael i gael cymorth i gleifion sydd mewn perygl—rwy'n cymryd bod y cerbyd symudol yn gallu parcio yn agos iawn at gartref rhywun—am fod pobl yn ei chael hi'n anodd mynd i weld meddyg teulu neu i'r ysbyty eu hunain, ac mae'r fenter honno'n darganfod cyflyrau amrywiol, fel COVID hir, wrth gwrs. Yr hyn a oedd yn fy nharo i oedd y gallai menter fel honno gael ei chyflwyno, o bosibl, mewn ardaloedd yng Nghymru, ac mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, lle mae'n rhaid i bobl deithio ffordd bell am eu hapwyntiadau ysbyty ac ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu.
Canolfannau arbenigol, wrth gwrs—. Un o'r dadleuon a ddefnyddir i gefnogi canolfannau arbenigol yw y gall meddygon ddatblygu arbenigedd drwy gyfuno meddyliau ac adnoddau ar gyfer deall y cyflwr yn well. Felly, a gaf i ofyn sut mae profiad arbenigol yn cael ei ddatblygu yma yng Nghymru, Gweinidog?
Yn eich datganiad, rydych chi'n dweud bod rhai pobl wedi dioddef symptomau COVID mor ddifrifol neu hirhoedlog fel bod hynny wedi cael effaith ar eu gallu nhw i weithio, ac fe aethoch chi ymlaen wedyn i fynegi eich balchder oherwydd bod y GIG, cyflogwyr, ac undebau llafur wedi gweithio gyda'i gilydd i adolygu polisïau a gweithdrefnau cyflogaeth i sicrhau bod staff gofal iechyd yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl. Wrth gwrs, am staff gofal iechyd yr ydych chi'n sôn, ond a yw'r cymorth hwn yn ymestyn at nyrsys mewn cartrefi gofal nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi gan y GIG?
Ac wrth gwrs, y mater arall, Gweinidog, yr wyf i'n siŵr ei bod chi'n ei ddeall hefyd, yw nad ydym ni'n llawn ddeall COVID hir eto, wrth gwrs, ac yn anffodus mae'r diffiniadau yn amrywio drwy'r byd. Felly, mae'r mesurau o pa mor gyffredin ydyw, neu pa mor gyffredin yw'r symptomau, yn amlwg yn amrywio llawer, ac fe all hi fod yn anodd i feddygon teulu roi'r gofal a'r cyngor cywir i gleifion. Felly, a gaf i ofyn pa sgyrsiau a gawsoch chi gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ddiffinio symptomau COVID hir i allu rhoi cefnogaeth i feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol?
Ac yn olaf, Gweinidog, rwy'n ymwybodol bod y rhai sy'n dioddef o COVID hir yn gymwys i gael taliadau oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fe fydd y sawl sy'n eu derbyn yn cael taliadau drwy gyfrwng taliadau annibyniaeth bersonol a gynllunnir i helpu'r rhai, wrth gwrs, sy'n dioddef o gyflyrau hirdymor neu anabledd sy'n effeithio ar eu gallu nhw i gyflawni tasgau bob dydd neu symud o gwmpas. Felly, tybed, yn olaf: sut mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod y cyrff perthnasol yng Nghymru sy'n cefnogi pobl â COVID hir yn gwneud pobl yn ymwybodol o'r taliadau arbennig hyn?
Diolch yn fawr, Russell. Rwyf yn credu ei bod hi'n werth tynnu sylw at y ffaith bod y gwasanaethau i'w cael yn gynt yng Nghymru. Yr hyn a wyddoch chi yw bod pethau wedi mynd i gyfeiriad ychydig yn wahanol yn Lloegr, yn wahanol i'r ffordd yr ydym ni wedi mynd yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Yr hyn a olygodd hynny, mewn gwirionedd, oedd bod pobl yn cael eu gweld yn fwy cyflym yng Nghymru, ac mae llawer mwy o aros am y clinigau hyn yn Lloegr, y clinigau COVID hyn. Gadewch i ni gofio, tua 90 ohonyn nhw sydd yna rwy'n credu, nad yw hynny'n gymaint felly, os ydych chi'n ystyried maint a phoblogaeth Lloegr. Felly, rwyf i o'r farn mai'r hyn sy'n bwysig i gleifion yw pa mor gyflym y daw eu hapwyntiadau nhw a sicrhau eu bod nhw'n cael asesiad sy'n eu cyfeirio nhw wedyn at y cymorth priodol. Dyna'r system y gwnaethom ni ei sefydlu yng Nghymru, ac mae hi'n ymddangos bod llawer o bobl yn fodlon ar y system honno.
Rwy'n amharod, yn amlwg, i fynegi barn ar unrhyw achosion unigol, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, ar ddechrau COVID, wrth gwrs, dysgu oeddem ni i gyd, ac nid oeddem ni'n gwybod fawr o ddim am COVID hir, ac rydym ni'n parhau i ddysgu am COVID hir, ond, yn amlwg, mae'r gwasanaeth a oedd ar gael bryd hynny'n wahanol dros ben i'r gwasanaeth sydd ar gael nawr, a bod y £5 miliwn a aeth i mewn i'r system ym mis Gorffennaf yn dwyn ffrwyth yn barod. Felly, yn amlwg, mae yna bobl a allai fod yn rhwystredig iawn am eu bod nhw wedi teimlo felly cyn i'r rhaglen hon ddechrau, ond, yn amlwg, mae'r system hon ar gael iddyn nhw hefyd.
Rwyf i'n hapus iawn i gyhoeddi'r adroddiad, sydd, wrth gwrs, yn asesiad annibynnol o'r hyn y gwnaethom ni ei gyflwyno.FootnoteLink Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn, rwy'n credu, oherwydd, yn amlwg, rydym ni i gyd yn clywed adroddiadau anecdotaidd, ond, mewn gwirionedd, yr hyn sy'n bwysicach i mi yw gwrando ar ddata sy'n fwy eang, ond, wedi dweud hynny, rwy'n credu ei bod hi'n werth gwrando ar brofiad uniongyrchol pobl. Dyna'r hyn yr oeddwn i'n gallu ei wneud yr wythnos diwethaf yn Abertawe, lle mae'n rhaid i mi ddweud bod yr ymateb gan y bobl a oedd yn derbyn y gwasanaeth yn gadarnhaol iawn.
Mae'r dull amlbroffesiynol, amlddisgyblaethol yn un sy'n gweithio yn dda iawn yma yng Nghymru, yn ein barn ni, a dim ond tua 3.5 y cant o'r bobl sy'n dod i mewn i'r system sy'n cael eu cyfeirio at ofal eilaidd. Felly, dyna'r perygl gyda'r dull o gynnal clinigau fel hyn, eich bod chi'n gwahodd pobl i fynd i weld arbenigwyr, mewn gwirionedd, heb wir angen iddyn nhw, o reidrwydd, fod yn gweld arbenigwr o'r fath a'r cwestiwn yw pa fath o arbenigwr y mae angen iddyn nhw ei weld. Gan fod y symptomau ar gyfer COVID yn amrywio yn fawr iawn, iawn ym mhob unigolyn; mae gan rai broblemau gyda blinder ac maen nhw'n methu ag arogli pethau, mae gan rai drafferthion wrth anadlu, yn bendant, a rhai'n ei chael hi'n anodd canolbwyntio, ond mae gan rai broblemau llawer mwy cymhleth sy'n ymwneud â materion ynglŷn â'r galon neu faterion ynglŷn â'r ysgyfaint ac mae hi'n amlwg bod angen gwasanaethau llawer mwy arbenigol ar bobl fel hynny.
O ran staff iechyd a gofal, mae hi'n amlwg bod canolbwyntio pendant iawn wedi bod ar hynny oherwydd yr ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at y rhai sydd efallai wedi cael COVID yn ystod eu cyflogaeth, yn arbennig. Rwy'n falch o ddweud bod yr undebau a'r GIG yn cydweithio i wneud yn siŵr o hynny.
A dim ond o ran diffinio symptomau, mae hi'n anodd, oherwydd mae'r symptomau yn gallu amrywiol llawer iawn i lawer iawn o bobl. Rydym ni'n dal i ddysgu, ond yr hyn a wnaethom ni'n gynnar iawn yn y rhaglen oedd rhoi hyfforddiant i feddygon teulu i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r hyn i gadw llygad amdano a'r mannau y gallen nhw gyfeirio pobl atyn nhw.
Diolch am y datganiad, Weinidog. Heb os, mae llawer o gleifion sy’n dioddef y symptomau ofnadwy yma yn gallu cael cefnogaeth gan eu meddygon teulu, ac mae rôl meddygon teulu wrth gwrs yn hanfodol yn hyn, ond rŷn ni yn gwybod dyw rhai ddim yn gallu cael eu cyfeirio; maen nhw'n dod nôl at eu meddygon dro ar ôl tro a dydyn nhw ddim yn cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei angen arnyn nhw.
Roeddech chi'n sôn am ddysgu; wrth gwrs mae wedi bod yn broses o ddysgu i’r proffesiwn meddygol, ond mae’n amlwg dyw'r arbenigedd ddim yno, a dyw'r gefnogaeth ddim yno, ar gyfer rhai o'r cleifion hyn sy’n mynd at eu meddygon teulu. Felly, pa adolygiadau fydd yna i'r rheini sydd wedi trio tro ar ôl tro i gael y gefnogaeth arbenigol yma? A beth am y rheini, wrth gwrs, fel y clywon ni yn achos Sian Griffiths o Ynys Môn, sydd wedi bod yn y newyddion heddiw ac wedi cael ei gorfodi i dalu i fynd yn breifat? Mae hi, fel nifer o staff eraill sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd, wedi gorfod mynd yn breifat. Oni ddylen nhw, yn syml iawn, gael ad-daliad? A beth am y staff hynny wedyn sy’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd sydd yn wynebu colli eu cyflog nawr, a nhw yn dal i fethu gweithio? Maen nhw'n haeddu parhad i gefnogaeth ariannol; gobeithio y byddwch chi'n cytuno â hynny. Ond fel pwynt canolog, yn sgil eich datganiad heddiw, onid ydym ni yn dal i fod yn brin o’r math o dimau arbenigol byddai yn gallu rhoi diagnosis cywir, yn medru rhoi triniaethau addas, ac yn rhoi y gefnogaeth yna yn gynt na'r hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd ar gyfer cleifion sy’n dioddef o COVID hir? Diolch.
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod, yn amlwg, rôl bwysig i feddygon teulu. Dyna yw'r drws ffrynt ar gyfer y ffordd rŷn ni'n gweithredu gydag iechyd yn y wlad yma. Ac, wrth gwrs, wedyn, maen nhw yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau yma sydd nawr ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Dyna yw'r adborth rŷn ni wedi'i gael o'r adroddiad yma.
Felly, dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig gofyn pryd mae pobl wedi ceisio am y gwasanaethau yma. Os oedden nhw wedi ceisio cyn mis Gorffennaf, mae'n bwysig eu bod nhw'n mynd yn ôl nawr achos mae'r gwasanaethau ar gael nawr, lle nad oedden nhw ar gael cyn mis Gorffennaf diwethaf, achos ein bod ni wedi dysgu. Dim ond ym mis Gorffennaf daeth y £5 miliwn yma ar gael. Felly, os oes yna bobl sydd efallai ddim wedi cael yr help cyn hynny—. Ac roedd e'n ddiddorol cwrdd â nifer o bobl yn Abertawe ddydd Gwener, nifer wedi dal COVID yn Rhagfyr 2020. Wrth gwrs, doedd y gwasanaeth ddim ar gael yr adeg yna, ond maen nhw'n hapus nawr eu bod nhw wedi cael y driniaeth ers i'r rhaglen yma ddod. So, mae'n rili bwysig bod pobl yn mynd yn ôl os oedden nhw wedi ceisio yn y lle cyntaf, achos mae'r system, yn amlwg, wedi newid.
Beth sy'n digwydd, wrth gwrs, yw bod yna dimau arbenigol. Dyna beth sy'n digwydd nawr. Mae yna dimau, mae'r GPs yn cyfeirio at y timau arbenigol yna ac maen nhw'n cyfeirio pobl i sicrhau—. Efallai bod yna iechyd meddwl; efallai fod issues yn ymwneud â blinder. Mae pob math o bethau ac mae'r arbenigwyr i gyd yna yn helpu allan. Felly, mae'r driniaeth nawr yn gwbl wahanol i beth oedd ar gael o'r blaen. Ac yn sicr, nid jest oedden ni'n barod i ddysgu yr adeg honno, ond rŷn ni'n awyddus i gario ymlaen i ddysgu, achos, fel dwi'n dweud, mae hwn yn rhywbeth newydd a dŷn ni ddim eto'n gwybod sut mae omicron yn mynd i gael effaith ar COVID hir chwaith.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Yr hyn yr wyf i am ganolbwyntio arno yw'r effaith a gaiff hyn ar bobl, ar gleifion ac ar deuluoedd. Fe hoffwn i wybod beth yn union yw'r gwasanaethau hyn y mae'r Gweinidog am wneud yn siŵr eu bod nhw ar gael ym mhob un o'n byrddau iechyd ni. Beth yw disgwyliadau'r Llywodraeth ar gyfer y gwasanaethau hyn? Fel hithau, nid wyf i wedi fy argyhoeddi mai uned arbenigol heb adnoddau digonol yw'r ffordd orau o ddarparu gofal, ond fe hoffwn innau hefyd fod wedi fy argyhoeddi bod y system bresennol yn gwneud ei gwaith yn iawn. Pa gyfarwyddiadau a roddodd Llywodraeth Cymru i'r byrddau iechyd? Pa nodau neu amcanion a bennwyd ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn?
Ac yn ail, Llywydd, fe hoffwn i ystyried y GIG yn benodol a'r staff rheng flaen sydd, drwy gydol y pandemig, wedi eu rhoi eu hunain mewn perygl ac a allai fod yn dioddef o COVID hir eu hunain erbyn hyn. Mae dyletswydd ar bob yr un ohonom ni i sicrhau bod gan y bobl a gafodd eu heintio wrth gynnal y gwasanaethau gofal er ein mwyn ni i gyd ofal sylfaenol ar eu cyfer nawr a swyddogaeth bwysig—swyddogaeth sylfaenol—y Llywodraeth hon yw anrhydeddu'r ddyletswydd honno o ran gofal. A gawn ni sicrhau, Gweinidog, fod pawb yn y GIG a'r gwasanaethau cysylltiedig sy'n dioddef oherwydd COVID hir heddiw yn cael eu trin fel pobl sydd wedi dioddef anaf diwydiannol ac yn derbyn y ddyletswydd honno i ofalu amdanyn nhw y mae angen i ni i gyd sylweddoli ei maint hi oherwydd eu gwasanaeth nhw er ein mwyn ni?
Diolch yn fawr. Rwy'n gallu sôn wrthych chi am rai o'r pethau y gwnaethom ni ganolbwyntio arnyn nhw o ran ein disgwyliadau ni. Yn sicr, rydym ni'n disgwyl gweld amser yn cael ei roi i staff, hyfforddiant, ac offer therapiwtig a thechnegol yn cael eu prynu, a phwyslais gwirioneddol yn cael ei roi ar adnoddau digidol. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 10,000 o bobl wedi lawrlwytho'r ap hunangymorth. Fe wnes i ei lawrlwytho neithiwr a chael golwg iawn arno. Mae'n un hawdd iawn ei ddefnyddio, ac mae hi'n amlwg bod llawer o bobl yn gallu cael y cymorth hwnnw sy'n addas iddyn nhw. Felly, mae'r ap hefyd yn rhoi cymorth unigol sydd wedi ei deilwra.
Y gofyniad arall oedd ein bod ni, mewn gwirionedd, yn disgwyl gweld cymorth priodol i bob unigolyn. Felly, nid oes unrhyw gymorth sy'n addas i bawb; mae'n rhaid i hwnnw ymateb i'r bobl sy'n cerdded i mewn i'r gwasanaethau hynny. Yn sicr, o ran y bobl sydd wedi cael eu heintio â COVID, yn enwedig os ydyn nhw wedi bod yn weithwyr yn y GIG, rydych chi yn llygad eich lle, fe geir dyletswydd o ran gofal. Roedd hi'n ddiddorol iawn clywed gan fwrdd iechyd Abertawe yn benodol yr wythnos diwethaf am sut y maen nhw'n canolbwyntio llawer ar gefnogi'r bobl hynny sydd wedi ei chael hi'n anodd mynd yn ôl i'r gwaith, gyda therapyddion galwedigaethol yn cael eu rhoi ar waith yn benodol i roi cymorth iddyn nhw a sicrhau nad yw pobl yn cael eu gwthio nôl i'w gwaith cyn iddyn nhw fod yn barod. Mae yna ddealltwriaeth arbennig, mewn gwirionedd, fod dyletswydd o ran gofal yn rhywbeth y mae angen ei deall ac, wrth weithio gyda'r undebau llafur, ein bod ni'n sicrhau bod y parch dyledus hwnnw'n cael ei roi i'r bobl hynny sydd, fel rydych chi'n dweud, wedi rhoi popeth sydd ganddyn nhw yn ystod y pandemig hwn ac sydd wedi talu pris mawr am hynny mewn rhai achosion.
Diolch i chi am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Gweinidog. Rwyf i o'r farn nad ydym ni wedi deall yn llawn eto pa mor fawr yw effaith hirdymor heintiad COVID ar rai pobl. Yr hyn a wyddom ni yw bod llawer gormod o bobl, yn anffodus, yn teimlo yn wanllyd iawn ymhell wedi i'r feirws adael eu system. Gweinidog, mae yna dystiolaeth yn dod i'r amlwg sy'n tynnu sylw at debygrwydd rhwng sganiau o'r ymennydd mewn rhai cleifion COVID a'r rhai sy'n dioddef rhai mathau o glefyd Alzheimer. Pa ymchwil a wnaethpwyd yng Nghymru i ddeall achosion a'r meddyginiaethau posibl ar gyfer COVID hir?
Mae adsefydlu yn allweddol i adferiad tymor hwy, felly pa asesiad a wnaethoch chi o allu gwasanaethau o'r fath yng Nghymru, gan ystyried y gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig—ffisios, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith? Sut fydd y GIG yng Nghymru yn rheoli atgyfeiriadau i'r gwasanaethau hyn? Mae rhai byrddau iechyd fel fy un i, Betsi Cadwaladr, yn caniatáu hunanatgyfeiriadau, ond mae angen ymyriadau gan feddygon teulu ar rai eraill. Felly, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i osgoi'r posibilrwydd o loteri cod post o ran gofal? A gydag amcangyfrifiad o 2 y cant o'r boblogaeth y credir eu bod nhw'n dioddef COVID hir, pa asesiad a wnaeth Llywodraeth Cymru o'r pwysau ychwanegol y gallai hynny ei roi ar y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru? Ac yn olaf, Gweinidog, wrth i ni symud oddi wrth y pandemig at gyfnod pan fo'r clefyd hwn ar gam endemig, pa broses a gaiff ei rhoi ar waith i fonitro effeithiau tymor hwy heintiadau COVID ar unigolion ac ar ein systemau ni o ofal iechyd?
Diolch yn fawr iawn. Nid wyf i wedi gweld yr ymchwil hwnnw sy'n awgrymu ei fod yn cael effaith debyg i Glefyd Alzheimer, felly pe byddech chi'n anfon copi o hwnnw i mi, fe fyddai hynny o gymorth mawr. Yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw dysgu am COVID hir bob dydd. Rydym ni wedi buddsoddi cyllid sylweddol mewn ymchwil, fel y nodais i yn fy natganiad i, yn gweithio yn benodol ar hyn.
Mae yna bobl fel therapyddion yn arbennig, yr ydych chi'n ymwybodol iawn ohonyn nhw, a all fod o gymorth mawr yn yr amgylchiadau hyn, gan roi'r cymorth angenrheidiol a rhoi hyder o'r newydd i bobl. Dyna ddaeth yn amlwg iawn i mi wrth gwrdd â rhai o'r bobl hyn sef eu bod nhw, mewn gwirionedd, yn falch iawn bod eu problem nhw wedi cael ei chydnabod, ac roedd llawer ohonyn nhw'n teimlo bod pobl yr oedden nhw'n eu hadnabod—. Gan fod llawer ohonyn nhw wedi dioddef COVID hefyd, ond heb ymateb i'r heintiad yn y ffordd honno, fel y clywsoch chi, fe ddywedwyd wrth rai mai pobl ddiog oedden nhw ac mae hynny ymhell iawn o fod yn wir. Yr hyn a oedd yn rhagorol yw bod y bobl hyn mor falch o gael gwrandawiad, a'u clywed, ond i allu cael y cymorth ymarferol yr oedd ei angen arnyn nhw hefyd, felly, i ailadeiladu eu hiechyd a'u bywydau nhw.
Ac yn sicr, o ran loteri cod post, wel, rwy'n falch iawn o ddweud bod y gwasanaeth amlddisgyblaethol hwn wedi cael ei sefydlu ym mhob bwrdd iechyd erbyn hyn, felly ni ddylem ni fod yn gweld hynny. Ac yn amlwg, mae'r effaith hirdymor yn rhywbeth y mae angen i ni gadw llygad arno, a dyna pam y dywedais i fy mod i am weld ailasesiad yn digwydd bob chwe mis, o ran COVID hir, ar gyfer gwirio, 'A ydym ni'n gwneud y peth iawn? Beth sydd angen i ni ei newid? Sut mae angen i ni ailwerthuso'r gwasanaethau a roddwn ni?'
Ac yn olaf, Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog ac rwy'n croesawu'r ymateb i Alun Davies hefyd o ran dyletswydd gofal i'r rhai sydd wedi cael eu heintio â'r coronafeirws yn y GIG a'r gwasanaethau cysylltiedig. Ond rwy'n teimlo bod darn o waith i'w wneud yn hynny o beth ar gyfer deall yn iawn pwy yn union a gafodd coronafeirws wrth weithio o fewn y gwasanaethau hynny. Fe wn i fod gan fy nghyd-Aelod Sarah Murphy angerdd arbennig ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu bod cyfle yn hynny o beth i weithio gyda'n cydweithwyr ni yn yr undebau llafur.
Yn ogystal â hynny, Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad yn arbennig, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i ni siarad am helpu pobl sydd â COVID hir. Ychydig wythnosau nôl, am yr eildro, fe ystyriodd Pwyllgor Deisebau'r Senedd ddeiseb yn galw am glinigau COVID hir—clinigau un stop. Nawr, mae hi'n bwysig i'r cleifion ledled Cymru a fydd yn defnyddio'r gwasanaethau hyn fod â rhan wrth lunio'r gwasanaethau hyn. A wnewch chi nodi heddiw, Gweinidog, sut y caiff gwasanaethau COVID hir eu darparu yn y dyfodol, a sut y gellir clywed lleisiau'r cleifion yn y cynllun cyflawni hwn?
Diolch yn fawr iawn, Jack. Ac fe wn i fod yna lawer o bobl sy'n canolbwyntio llawer iawn ar y mater hwn, a phan welwch chi salwch sydd mor wanychol â hwn, mae hi'n amlwg bod angen i ni ymateb i hynny. Nid ydym ni wedi dilyn y trywydd o fod â chlinigau COVID hir, ond rydym ni'n dilyn canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ac fe wnaf ddarllen i chi'r hyn y mae canllawiau NICE yn ei ddweud mewn gwirionedd. Maen nhw'n dweud y dylem ni:
'Roi gwasanaethau amlddisgyblaethol ar gael, os ydynt ar waith...ar gyfer asesu symptomau iechyd corfforol a meddyliol a chynnal profion ac ymchwiliadau pellach' a
'gallai'r rhain fod yn glinigau "un stop" '.
Wel, yr hyn a wnawn ni yw bod y tîm amlddisgyblaethol hwn ar gael drwy gyfrwng y meddygon teulu. Os ydych chi am alw hwnnw beth bynnag yr ydych chi'n ei alw, y ffaith yw ein bod ni'n dilyn canllawiau NICE, ac rydym ni'n hyderus iawn ein bod ni'n gwneud felly. Mae hi'n bwysig, yn fy marn i, ein bod ni'n parhau i ddysgu oddi wrth leisiau'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau ac yn gwrando arnyn nhw, a dyna pam mae hi'n bwysig, yn fy marn i, fod y rhai sydd wedi ceisio defnyddio'r gwasanaeth yn gynharach yng nghwrs y pandemig yn cydnabod bod y gwasanaeth wedi newid yn sylweddol ac yn sylfaenol yn ystod y chwe mis diwethaf. Ac mae hi'n bwysig iawn, os yw pobl wedi gofyn am ofal fel hyn ar y dechrau a heb ei gael, eu bod nhw'n gwybod ei fod ar gael nawr ac y dylen nhw fynd i ofyn am y cymorth hwnnw.
Diolch i'r Gweinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelod sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.