Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, fel rydyn ni newydd ei glywed, bydd miliynau o bobl ledled y DU yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o straen anhygoel oherwydd y cap prisiau ar filiau sy'n codi 54 y cant. Bydd rhannau o Gymru ymhlith y rhannau fydd yn cael eu taro waethaf yn y DU gyfan. Bydd ardaloedd awdurdodau lleol, gan gynnwys Ceredigion, yn edrych ar £972, Gwynedd £904, sir Gaerfyrddin £853, Powys £848. Ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini. Bydd 14 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn cael eu heffeithio'n waeth na'r cynnydd cyfartalog mewn prisiau o £693. Mae rhai o'r ardaloedd hynny eisoes yn ardaloedd sydd â rhai o'r cyflogau isaf yn y DU hefyd ac, yn amlwg, fel rydyn ni’n ei drafod yn aml, y tu ôl i'r holl ffigurau hynny, bydd sefyllfaoedd gwirioneddol frawychus i unigolion ac i deuluoedd.
Daw hyn ar adeg, wrth gwrs, pan fydd miliynau eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, i roi bwyd ar y bwrdd, i dalu biliau ffôn, biliau band eang, costau trafnidiaeth, costau tai, costau sy'n gysylltiedig ag addysg—mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen, on’d ydy? Un cam mae angen i Lywodraeth Cymru ei gymryd, rwy’n credu, yw lleihau costau byw cyffredinol er mwyn lleddfu rhywfaint o’r cynnydd mewn prisiau mwy serth. Gwn eich bod chi wedi bod yn cyfeirio at hyn ychydig yn barod. Rwy'n falch iawn o glywed y bydd yr uwchgynhadledd yn mynd yn ei blaen ar 17 Chwefror. Wrth gwrs, daw hynny o ganlyniad i’r Senedd yn pleidleisio o blaid cynnig diweddar Plaid Cymru yn galw am gynllun argyfwng. Rwy’n croesawu hyn yn fawr. A gaf i ofyn i chi pa fathau o fesurau fydd yn cael eu trafod yn yr uwchgynhadledd hon? Fe wnaethoch chi ddweud y bydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda gwasanaethau rheng flaen a grwpiau allweddol, ac rwy’n croesawu hynny'n fawr, ond a allech chi gynnig rhywfaint o sicrwydd i ni, os gwelwch yn dda, y bydd yr uwchgynhadledd hon yn cynnwys lleisiau pobl sy'n mynd i gael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr argyfwng costau byw hwn, a sut y gellid clywed eu lleisiau fel rhan o hynny?
Nid yw tlodi tanwydd, wrth gwrs, yn broblem newydd. Mae pobl eisoes yn ei chael hi'n anodd cadw'n gynnes ac yn iach, ac mae'r cynnydd mewn capiau prisiau yn mynd i'w gwthio'n ddyfnach i drafferthion. Fel mae Gofal a Thrwsio Cymru wedi'i fynegi, mae pobl yn newid eu hymddygiad, ac mae hyn yn mynd i effeithio ar eu hiechyd. Maen nhw'n mynd i dorri'n ôl ar wresogi a defnyddio llai o drydan allan o ofn mynd i ddyled ynni. Mae'r oerfel yn gyfrifol am lawer o gyflyrau iechyd. Mae'n achosi derbyniadau i'r ysbyty a mwy o farwolaethau. A gaf i ofyn i chi, Gweinidog, pa fesurau wedi'u targedu y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n mynd i fod fwyaf agored i'r cynnydd hwn? Byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed beth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran atal ac ymateb i ddyled o ran biliau ynni, yn ogystal â'r hyn rydych chi eisoes wedi'i nodi, wrth gwrs. Rwy'n awyddus iawn, a gwn fy mod wedi siarad am hyn o'r blaen, i glywed mwy am sut y bydd pobl ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu cefnogi, oherwydd gallent wynebu eu ynni yn cael ei ddiffodd os byddan nhw'n rhedeg allan o arian. Felly, a oes mesur penodol rydych chi’n ei archwilio a allai helpu pobl yn y sefyllfa wirioneddol enbyd honno, os gwelwch chi’n dda?
Ac yn olaf, mae hwn yn faes sydd eisoes wedi codi yn eich sgwrs â Janet, wrth gwrs, i droi at dai. Fel rydyn ni wedi bod yn ei glywed, mae gennym y stoc dai hynaf yn y DU a rhai o'r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon hefyd. Mae'r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru eisoes yn 12 y cant, sy'n un ym mhob 10 cartref neu rywbeth, ac rwy’n credu bod yr amcangyfrif hwnnw o 2019, felly gallai hynny danbrisio'r broblem yn sicr. Mae cydweithiwr i mi yn San Steffan wedi bod yn sôn am sut mae 275,000 o gartrefi yng Nghymru—bron i un rhan o bump o'r holl aelwydydd—nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â'r grid nwy. Rwy’n credu bod y ffigur hwnnw o 2020. Ac mewn ardaloedd gwledig, fel Ceredigion, mae'r ffigur hwnnw'n codi cymaint ag i 80 y cant. Yng Nghymru, mae'n ymddangos bod gennym ni gyfres o heriau unigryw sy'n mynd i wneud yr argyfwng hwn, neu'r argyfyngau hyn sy’n ymdoddi, hyd yn oed yn fwy difrifol, o ran tai, o ran gwresogi, ac mae gwir angen i ni fynd i'r afael â hynny'n awr yn fwy nag erioed.
Rwy’n cydnabod bod y cwestiynau eisoes wedi'u hateb yn y sesiwn hon, ond yn eich datganiad fe wnaethoch chi gyfeirio at y sefyllfa hon. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ystod tymor y Senedd a rhoi gwybod i'r Senedd am unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i wneud stoc tai Cymru'n fwy effeithlon o ran ynni, yn enwedig, efallai, pan fyddwn ni’n sôn am gartrefi oddi ar y grid? Diolch yn fawr iawn.