Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 8 Chwefror 2022.
Ie, fe wnaf i nawr—i Flaenau Gwent drwy'r rhaglen Byw'n Gall i ddatblygu math o ficrogrid ar ystad ddiwydiannol a fyddai'n ein helpu i symud i ynni adnewyddadwy a chreu a dosbarthu ynni glanach yn lleol. Felly, o gofio, Gweinidog, fod strategaeth ynni y gogledd yn cynnwys datblygiad microgrid fel maes blaenoriaeth, a wnewch chi sefydlu treial microgrid yn y gogledd? Mae'n bryd i'r gogledd elwa ar rywfaint o arloesedd gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.