– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 8 Chwefror 2022.
Eitem 5 sydd nesaf, cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig. Mick Antoniw.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol.
Mae'r rhan fwyaf o'r Bil hwn y tu allan i gymhwysedd datganoledig. Mae'r darpariaethau yr ydym yn eu trafod heddiw yn ymwneud dim ond â chynyddu'r oedran ymddeol gorfodol ar gyfer aelodau o'n tribiwnlysoedd datganoledig hyd at 75 oed, a threfniadau ar gyfer eistedd ar ôl ymddeol. Mae'r rhain yn bethau yr ydym wedi dod i'r casgliad, o dan y setliad presennol o leiaf, ei bod yn gwneud synnwyr bod cydraddoldeb parhaus rhwng Cymru a Lloegr.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ill dau wedi craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Rwy'n diolch iddyn nhw am ystyried y memorandwm ac am eu hadroddiadau ar y mater hwn. Cytunodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad â'n hasesiad o'r darpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd.
Daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i'r casgliad nad oedd gan fwyafrif y pwyllgor unrhyw wrthwynebiad i gytuno i'r cynnig, gan nodi bod un Aelod wedi mynegi pryder ynghylch yr egwyddor o ddeddfwriaeth a fydd yn berthnasol i Gymru yn cael ei deddfu trwy Fil Llywodraeth y DU yn hytrach na Bil Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n anghytuno â'r safbwynt hwn. Yn gyffredinol, dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd. Ein dull ni o ddeddfu yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl y gellir eu cyflawni trwy'r gallu sydd gennym ni i gyflwyno ein deddfwriaeth ein hunain a thrwy fanteisio ar y cyfleoedd priodol sydd ar gael i ni yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Yn yr achos hwn, bwriad y darpariaethau yw darparu mwy o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion busnes ar draws llysoedd a thribiwnlysoedd. Byddai Cymru o dan anfantais pe bai deiliaid swyddi barnwrol yn wynebu gyrfa farnwrol fyrrach a llai hyblyg o bosibl yng Nghymru o'i chymharu â'r hyn y gallen nhw ei dilyn yn Lloegr.
Ym mis Rhagfyr, fe wnes i groesawu cyhoeddiad adroddiad Comisiwn y Gyfraith, a oedd yn adolygu'r gyfraith sy'n llywodraethu'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Yn fy natganiad ysgrifenedig, roeddwn i'n glir ein bod ni'n cefnogi'n gryf egwyddor sylfaenol argymhellion Comisiwn y Gyfraith ar gyfer un system dribiwnlys unedig, annibynnol yng Nghymru. Rydym yn gweithio ar fanylion argymhellion Comisiwn y Gyfraith wrth i ni ddatblygu ein polisi unigryw i Gymru sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd Cymru, gan gynnwys swyddi barnwrol.
Wrth gwrs, bydd angen deddfwriaeth sylfaenol ar weithredu ein polisi ar gyfer diwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig. Fodd bynnag, gellir gwneud a gweithredu'r darpariaethau yn y Bil yr ydym yn ei drafod heddiw a'r newidiadau i'r oedran ymddeol gorfodol a threfniadau eistedd ar ôl ymddeol ar gyfer deiliaid swyddi barnwrol yn gynt nag a fyddai'n wir pe baem yn gohirio'r newidiadau i'n deddfwriaeth ni yn y dyfodol mewn ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Rwyf i o'r farn bod darpariaethau'r Bil sy'n destun y memorandwm yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac, yn unol â hynny, rwy'n argymell bod yr Aelodau yn cytuno i'r cynnig ac yn rhoi cydsyniad y Senedd i'r darpariaethau Bil hynny.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i i'w gwneud, a hynny dim ond oherwydd bod hwn yn un eithaf diddorol sydd o'n blaenau ni yma. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm hwn ar 3 Tachwedd 2021, ac nid oes gennym ni unrhyw argymhellion yn ein hadroddiad, ond dau sylw a ddylai fod o ddiddordeb i'r Senedd o ran cymhwysedd deddfwriaethol.
Felly, rydym yn nodi ac yn cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd. Rydym hefyd yn nodi bod y Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond mewn ffordd—fel y disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol—sydd y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd mewn gwirionedd, ac felly—ac mae o ddiddordeb i ni fel pwyllgor—nid oes angen cydsyniad ar gyfer y cymalau hynny. Yn hytrach, mae Rheol Sefydlog 30 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod datganiad ysgrifenedig gerbron y Senedd. Mae hyn ychydig yn anarferol a gallwch chi weld pam ein bod wedi cyffroi fel pwyllgor bod hyn yn ymddangos yma ar lawr y Senedd.
Felly, rydym ni yn nodi yn nodiadau ein hadroddiad fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi gosod datganiad o'r fath ar 12 Awst 2021 mewn cysylltiad â'r Bil, ac ers i ni adrodd, rydym yn nodi bod rhagor o ddatganiadau wedi eu gosod yn unol â Rheol Sefydlog 30, fel y nododd y Cwnsler Cyffredinol.
Felly, diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd; mae'n rhywbeth i'w nodi ar gyfer yr Aelodau eraill.
Nid oes unrhyw siaradwyr eraill. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu hystyriaeth fanwl o'r hyn sy'n ddarn technegol iawn o ddeddfwriaeth ac, wrth gwrs, roedd y cyfeiriad a wnaeth o ran rhai newidiadau a gwelliannau a wnaed sy'n berthnasol i ddarpariaethau pensiwn y diffoddwyr tân, a oedd yn ganlyniad i weithredu deddfwriaethol, a ddaeth i ben yn y Goruchaf Lys, rwy'n credu, o ran rhai materion cydraddoldeb.
I gloi, mewn gwirionedd: mae darpariaethau'r Bil yno yn ymwneud â darparu hyblygrwydd i ddiwallu anghenion busnes y llysoedd a'r tribiwnlysoedd, ac rwy'n credu eu bod yn arwain yn adeiladol at yr hyn a fydd, gobeithio, yn ddeddfwriaeth yn y dyfodol o ran gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn cysylltiad â thribiwnlysoedd Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.