Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 8 Chwefror 2022.
Mae ein trafodaeth heddiw ar y gyllideb ddrafft yn digwydd o dan amgylchiadau eithriadol iawn, amgylchiadau sy'n galw am weithredu radical ac uchelgais nas gwelwyd ei thebyg, os ydym fel cenedl am sicrhau adferiad sy'n deg ac yn effeithiol. Ydy, mae'r pandemig wedi rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r argyfwng costau byw sy'n taro ein cymunedau yn dwysáu'r pwysau hynny, yn enwedig wrth i Lywodraeth San Steffan fynnu gwasgu mor drwm ar ein haelwydydd drwy'r penderfyniad creulon i dorri'r credyd cynhwysol, drwy gynyddu lefelau yswiriant gwladol. A nawr, yn wyneb y cynnydd syfrdanol ym mhris ynni, maent wedi cynnig mesurau cwbl annigonol i gefnogi teuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Ond roedd y sefyllfa cyn COVID o ran anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a lefelau ac effaith tlodi yn gywilyddus, yn rhannol wedi ei achosi, wrth gwrs, gan ddegawd o bolisïau llymder Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, sy'n poeni dim am Gymru na phobl gyffredin. Yn rhy aml, yn hytrach na medru cynllunio'n flaengar i drawsnewid ein dyfodol fel cenedl, i atal y tlodi a'r anghydraddoldeb a oedd yn broblem ymhell cyn COVID, i wireddu gweledigaeth, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei throi i mewn i darian, yn gorfod amddiffyn pobl Cymru gymaint ag sy'n bosib rhag camau didostur y Torïaid yn Llundain a'u hawydd gwaelodol i amddiffyn eu buddion eu hunain. Ond rhaid tanlinellu hefyd ddiffyg Llywodraeth Cymru i gymryd y camau polisi breision oedd eu hangen dros 20 mlynedd a mwy i sicrhau bod yna Gymru deg a llewyrchus yn cael ei chreu.
Er ei bod hi'n anodd iawn, felly, i Lywodraeth Cymru a ninnau fel Senedd heddiw o fewn undeb anghyfartal a threfn gyllido annheg wireddu ein dymuniad a'n hangen sylfaenol i fedru cynllunio ymlaen i'r tymor hirach, rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru wedi llwyddo i wthio'r rhaglen lywodraethu mewn cyfeiriad mwy radical, fel soniodd Llyr Gruffydd, sy'n dipyn o gamp o ystyried yr heriau presennol a ffiniau pwerau'r Senedd. Yn y ddadl hon y llynedd, fe ddefnyddiodd Plaid Cymru'r cyfle i sôn am ein cynlluniau ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob plentyn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddadleuon y gyllideb sydd i ddod dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod hynny'n troi'n realiti.
Er bod y cytundeb cydweithio mewn lle, nid ein cyllideb ddrafft ni yw hon, wrth gwrs, sy'n cael ei thrafod heddiw—cyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru yw hi, ac rydym o'r farn bod yna sawl cyfle yn cael ei golli i flaenoriaethu atal mwy o deuluoedd Cymru rhag syrthio i dlodi a rhag effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw. O dan yr amgylchiadau, rwy'n meddwl bod yna achos cryf i ystyried cadw'r hyblygrwydd yn y gronfa cymorth dewisol, gostwng y cap cynnydd rhent ar dai cymdeithasol i ddim mwy na chwyddiant yn barhaol, ac atal prisiau tocynnau trên rhag cynyddu.
Rhaid croesawu'r cynnydd i ddyraniad awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft, ond pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r awdurdodau yma o ran cael coelcerth dyledion i'r rhai sydd ag ôl-ddyledion treth cyngor, er enghraifft—rhywbeth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r miloedd o aelwydydd sydd eisoes mewn dyled, ac i'r miloedd yn fwy sy'n cael eu gwthio i ddyled ar hyn o bryd? A beth am sicrhau bod y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael ei ymestyn fel bod pawb sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn ei dderbyn, nid yn unig y rheini sy'n derbyn budd-dal prawf modd?
Rwy'n gwybod o'm gwaith ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod craffu wedi bod yn anodd iawn o ystyried y ffenestr fer o amser fu gennym i asesu'r gyllideb ddrafft—ffenestr sydd wedi bod yn culhau, fel rŷn ni wedi clywed, yn raddol dros y tair blynedd diwethaf. Gobeithio bydd y setliad aml-flwyddyn hon yn golygu y bydd mwy o gyfle i'r Senedd ac i eraill y tu hwnt i'r Senedd fedru ymgymryd â'r dasg o graffu yn fwy trwyadl mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r pwyllgor hefyd wedi argymell bod angen adolygiadau asesiadau effaith y gyllideb, ac rwy'n gobeithio bod mesur a chadw golwg ofalus o effeithiau'r argyfwng costau byw yn gallu bod yn rhan o hynny. Mae hyn yn gwbl hanfodol os yw'r Llywodraeth am wireddu nod ei rhaglen lywodraethu o greu Cymru gyfartal.
Ydy, mae pob penderfyniad cyllidebol yn digwydd mewn cyfnod arbennig o anodd ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod hynny, ond rhaid pwysleisio cyfrifoldeb y Llywodraeth i liniaru effeithiau erchyll y trychineb costau byw. Rwy'n obeithiol ac yn grediniol bod cyfnod o'n blaenau lle gallwn adael esgeuluster San Steffan a'r undeb anghyfartal y tu ôl i ni. Ac wrth i ni ddod trwy lanast Brexit ac argyfwng COVID, gallwn gyrraedd at fan lle y gallwn fod yn fwy uchelgeisiol a blaengar o ran yr hyn rydym eisiau ei gyflawni fel cenedl, dros ein pobl, fel bod newid gwirioneddol yn digwydd, a bod pobl Cymru yn cael y cyfiawnder economaidd a chymdeithasol y maen nhw'n ei haeddu. Diolch.