Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 8 Chwefror 2022.
Diolch am y cyfraniad, Mike Hedges. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato yn amlwg yn awydd i drethu rhai ardaloedd yn llawer mwy sylweddol nag eraill. Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw setliad teg er budd trigolion ledled Cymru. Mae'r gwahaniaeth hwnnw i mi yn gyfle nad ymdriniwyd ag ef.
Rwyf i hefyd yn siomedig o weld nad oes unrhyw sôn o hyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch adolygiad annibynnol o'r dull presennol o ddosbarthu cyllid ar gyfer cynghorau. Mae'n dal yn glir nawr bod y system bresennol yn rhoi llawer o gynghorau gwledig dan anfantais, sydd, yn fy marn i, yn bwynt arall y cyfeiriodd Peter Fox ato, ac nid yw'n gyfredol ar nifer o fetrigau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd yn rhannu fy mhryder, er gwaethaf cynnydd swmpus yn y setliad llywodraeth leol, y bydd y rhan fwyaf o gynghorau'n dal i gynyddu'r dreth gyngor, a nhw sy'n sefyll yn y siambrau cyngor hynny ac yn cymryd y feirniadaeth am hynny gan eu hetholwyr, pan fyddan nhw, mewn gwirionedd, yn gorfod ymdrin â chyllidebau heriol iawn eu hunain.
Pryder arall a ddaeth gan arweinwyr cynghorau yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y gyllideb fu gostyngiad yn y cyllid cyfalaf hefyd. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu tua £150 miliwn o gyllid cyfalaf i gynghorau, tua £50 miliwn yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn peri pryder sylweddol—rwy'n credu bod Cadeirydd y pwyllgor wedi tynnu sylw at hyn—o ran ceisio ffyrdd eraill y byddai modd dosbarthu'r cyllid cyfalaf hwnnw i ganiatáu i gynghorau gyflawni'r pethau y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w gweld yn digwydd yng Nghymru.
Cyfle arall sydd wedi'i golli, yn fy marn i, yw yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol, ac mae hynny eisoes wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er eu bod yn croesawu'r £500 o daliadau ychwanegol yn ystod y pandemig, nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â heriau hirdymor y sector, ac yn arbennig y pryderon ynghylch recriwtio a chadw staff yn yr ardal honno. Nid yw'n ymddangos bod y gyllideb hon yn ymdrin â'r mater hwn.
Fel plaid leoliaeth yma—ac yr wyf i wedi sôn amdani nifer o weithiau o ran y gefnogaeth honno a'r penderfyniadau sy'n digwydd mor agos at lawr gwlad â phosibl, Gweinidog—byddwch chi eisoes yn ymwybodol iawn o fy mhryderon i ynghylch cyflwyno'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, ac, yng nghyd-destun y gyllideb, yr effaith niweidiol y gallai hyn ei chael ar effaith cyllid cynghorau. Rwy'n cydnabod bod arian wedi'i ddarparu i gynghorau i'w weithredu yn y flwyddyn gyntaf, ond rwy'n pryderu ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddwn i'n erfyn, pa benderfyniadau bynnag sy'n cael eu gwneud yn hyn o beth, nad ydyn nhw ar draul y gofynion a'r cyllidebau presennol o fewn llywodraeth leol.
Dof i ben, Llywydd, oherwydd rwy'n gwybod y byddwch chi'n awyddus i mi wneud hynny. O ran llywodraeth leol, mae rhannau o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi cynghorau i wneud y gwelliant hwnnw, ond yn fy marn i mae gormod o gyfleoedd yn cael eu colli a allent fod wedi caniatáu i gynghorau ffynnu hyd yn oed ymhellach a bod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy. Ond hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymgysylltu'n barhaus ag aelodau'r pwyllgor, y mae'r Cadeirydd John Griffiths yn ei gadeirio, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i graffu a chynnig dewisiadau eraill i'n hochr ni o'r gyllideb. Diolch.