6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 8 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:57, 8 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Hoffwn i ganolbwyntio ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar fusnesau a bywoliaethau ledled Cymru, ac mae'r gyllideb hon yn gyfle i ychwanegu adnoddau a chymorth y mae mawr eu hangen ar fusnesau a'u gosod nhw ar y trywydd iawn ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mae nifer o bryderon ynglŷn â'r gyllideb ddrafft, gan gynnwys pryderon ynghylch y pecyn cymorth i fusnesau yr effeithwyd arnyn nhw gan y cyfyngiadau diweddar, yn ogystal â phryderon ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer yr economi ymwelwyr, ymchwil ac arloesi, sgiliau a sawl maes rhaglen arall. Felly, os oes un neges neu ddatganiad yn cael ei gymryd o fy nghyfraniad y prynhawn yma, yna hwnnw yw bod rhaid egluro'r dyraniadau cyllid yn fwy penodol, a bod yn rhaid i lefel y manylion sy'n gysylltiedig â rhaglenni'r Llywodraeth gael ei hegluro'n well. 

Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi clywed tystiolaeth gan Weinidog yr economi, ac rwy'n ddiolchgar iddo am ei amser, ac am y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor. Yn ein sesiwn dystiolaeth, holodd y pwyllgor y Gweinidog yn benodol ynghylch lefel y cymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y cyfyngiadau diweddar, a bydd yr Aelodau'n gweld o'n hadroddiad ein bod ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu pecyn o gymorth wedi'i dargedu i gefnogi adferiad economaidd yn y sectorau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y cyfyngiadau diweddar. Mae gwaith gan gomisiwn Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru yn datgelu bod busnesau, ar gyfartaledd, yn ystod y pandemig, yn wynebu lefelau dyled presennol o tua £184,000, a bod traean o fusnesau'n ofni cau neu fethu o fewn mis heb gymorth cymesur brys gan y Llywodraeth. Bydd yr Aelodau'n cofio sylwadau REKOM UK, sydd â thri chlwb nos yng Nghymru; roedden nhw'n teimlo bod y sector yn cael ei neilltuo eto ar ôl penderfyniad Llywodraeth Cymru i gau'r sector. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd Gweinidogion yn myfyrio ar yr argymhellion wedi'u hamlygu yn adroddiad y pwyllgor ac yn gweithio gyda'r sector i ddiogelu ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol a rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arno i fynd yn ôl ar ei draed.

Nawr, ystyriodd y pwyllgor hefyd effaith y gyllideb ddrafft ar yr economi ymwelwyr, ac rwyf i eisiau ailadrodd galwadau Cynghrair Twristiaeth Cymru am ddadansoddiad cynhwysfawr o wariant uniongyrchol ac anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar yr economi ymwelwyr ac asesiad cywir o'r hyn a gafodd ei wario ar dwf gwirioneddol. Gwnaethon nhw hi'n glir hefyd, yn wahanol i Awdurdod Twristiaeth Prydain, VisitScotland a Thwristiaeth Iwerddon, sy'n gyrff twristiaeth cenedlaethol hyd braich, nad yw Croeso Cymru yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a set o gyfrifon safonol sydd ar gael i'r cyhoedd, ac felly mae deall ei gyllideb yn anodd iawn i randdeiliaid. Felly, efallai wrth ymateb i'r ddadl hon, bydd y Gweinidog cyllid yn dweud wrthym ni pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i wneud cyllid y Llywodraeth ar dwristiaeth yn fwy tryloyw fel y gallwn ni i gyd ddeall ei effaith yn well a sicrhau bod rhywfaint o atebolrwydd priodol, yn y ffordd y mae sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn ei wneud.

Nawr, wrth i ni ailgodi, ar ôl y pandemig, mae gennym ni gyfle i wneud pethau'n wahanol, ac wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru dylai fod yna ymrwymiad i'r agenda sgiliau. Ym mis Hydref, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad difrifol iawn ar addysg uwch ac addysg bellach, ac rwyf i eisiau tynnu sylw'r Aelodau at y casgliad y bydd yn heriol i Lywodraeth Cymru ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed a gwarant i bobl ifanc mewn cyd-destun economaidd anodd. Rwy'n ategu barn Archwilio Cymru, ac mae'n rhywbeth yr wyf i wedi'i godi gyda Gweinidog yr economi fy hun: mae'n hanfodol ein bod ni'n gallu gweld yn union sut y caiff y prentisiaethau gradd a'r warant i bobl ifanc eu hariannu, a gobeithio y bydd y Gweinidog cyllid yn ymrwymo i ddarparu'r lefel honno o dryloywder. Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn argymell yn benodol bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n bwriadu gwario'r dyraniad ar gyfer prentisiaethau gradd a'i chynlluniau ar gyfer ehangu'r cyrsiau a chynyddu amrywiaeth prentisiaid gradd, yn unol ag adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2020. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad penodol hwnnw. 

Yn olaf, Llywydd, rwyf i eisiau sôn yn fyr am ymchwil ac arloesi ac ailadrodd fy ngalwadau blaenorol i weithredu argymhellion heb eu gwireddu yn adolygiadau Diamond a Reid. Darparodd yr Athro Reid ddwy set o argymhellion gwariant, un pe bai gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros gyllid newydd, ac un pe na fyddai ganddyn nhw hynny. Ac felly nid oes rheswm pam nad oes modd gweithredu'r olaf nawr. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynghylch pum blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, ond ni fydd y blaenoriaethau hynny'n cael eu gwireddu heb fod yr argymhellion hynny'n cael eu gweithredu. Felly, unwaith eto, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion hynny, yn enwedig o gofio bod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi adnoddau i Lywodraeth Cymru gyflawni'r argymhellion hynny.

Ac felly wrth gloi, Llywydd, rwy'n credu mai'r gofyniad mwyaf ar Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft hon yw tryloywder. Yn y rhan fwyaf o feysydd rhaglenni, mae manylion niwlog ond dim arwyddion clir o sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu, ac oherwydd hynny, mae craffu'n gyfyngedig ac mae'n anodd pennu effeithiolrwydd a gwerth am arian yn gywir. Ac felly, rwy'n annog y Gweinidog i ddarparu'r manylion hynny a sicrhau bod holl adrannau'r Llywodraeth yn darparu gwybodaeth mor agored a thryloyw â phosibl. Diolch yn fawr.