Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd. Wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i baratoi strategaeth hygyrchedd, a hynny, mewn gwirionedd, ar gyfer yr ystâd addysgol gyfan. Rwy’n sylweddoli eich bod hefyd yn cyfeirio at feysydd chwarae yn y gymuned hefyd, sy’n gyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Ond dyna lle y mae’r cyfrifoldebau statudol a nodir yn ein Mesur hawliau plant a phobl ifanc mor bwysig i ni yma yng Nghymru. Ond yn sicr, byddaf yn mynd i’r afael â hyn ac yn archwilio'r mater, yn enwedig gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc. A thynnaf sylw hefyd at y cyllid a roddwyd i Gwaith Chwarae a’r Haf o Hwyl y llynedd, a oedd hefyd yn estyn allan gan ymgysylltu'n gynhwysol â phlant a phobl ifanc, ac i sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol yn gynhwysol yn hynny o beth.