1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
1. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch hawliau disgyblion ysgol anabl? OQ57596
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tegwch a chynhwysiant mewn addysg. Mae ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn hyrwyddo mynediad i bawb. Mae'n rhaid i ysgolion a sefydliadau addysg bellach a gefnogir drwy'r rhaglen sicrhau bod eu hadeiladau yn caniatáu mynediad i ddisgyblion, myfyrwyr, staff ac ymwelwyr anabl.
Diolch, Weinidog. Ysgrifennais at y Gweinidog addysg y llynedd i fynegi pryderon am y diffyg gweithredu o sylwedd i fynd i’r afael â’r tarfu ar addysg disgyblion anabl a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn ystod y pandemig. Mae Mark Edwards yn un o lawer o etholwyr sydd wedi cysylltu â mi ynghylch y mater hwn. Mae'n teimlo bod ei fab, sy’n ddisgybl anghenion dysgu ychwanegol yn Ysgol Maes y Coed, Bryncoch, yn cael ei drin yn anghyfartal, er nad oes unrhyw fai ar yr ysgol ei hun, gan ei fod yn parhau i golli cyfnodau hanfodol ac estynedig o'i addysg. Mae diffyg darpariaeth profion COVID anymwthiol yn gorfodi llawer o ddisgyblion, fel mab Mark, i orfod ynysu am gyfnod bob tro y bydd ganddynt symptomau posibl. Rhai enghreifftiau yn unig o’r angen i’r Llywodraeth weithredu yw’r diffyg cronfeydd addysgu arbenigol digonol i liniaru effaith heintiau ar staffio. Mae dosbarth mab Mark wedi bod ar gau am wythnosau ar y tro ar brydiau dros y misoedd diwethaf, gyda llai na diwrnod o rybudd weithiau. Dywedodd Mark wrthyf, 'Mae fel pe bai plant fel fy mab a'u haddysg yn llai gwerthfawr.' Sut y bydd y Gweinidog yn cynnal hawliau pob plentyn i addysg gyfartal yn ystod y cyfnod hwn, a beth y bydd y Gweinidog yn ei wneud i sicrhau na cheir gwahaniaethu yn erbyn plant ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol yn y modd hwn?
Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich cwestiwn hynod bwysig ac am fwydo’r dystiolaeth honno’n ôl. Rydym yn mynd i’r afael ag anghenion dysgu ychwanegol o ganlyniad i’n hymrwymiad i hawliau plant a’n hymrwymiad i hawliau plant anabl, mewn gwirionedd, sydd wedi’u hymgorffori'n bendant iawn ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Felly, rydym yn buddsoddi ym mywydau plant anabl drwy ein hymrwymiad ariannol. Mae hynny'n hollbwysig o ran adnoddau—£21 miliwn i gyflwyno'r Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018 (Cymru)yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023. Ond, yn amlwg, mae'n rhaid inni oresgyn rhwystrau i ddysgu fel y gall plant anabl gyflawni eu potensial llawn. Cyhoeddodd y Gweinidog addysg £10 miliwn yn ychwanegol eleni i ddarparu cymorth wedi’i deilwra i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys llawer o blant anabl—yn bwysig iawn, mewn ymateb i’ch cwestiwn—y mae’r pandemig wedi cael effaith andwyol arnynt. Ac wrth gwrs, caiff hyn ei gydnabod hefyd yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Felly, fis diwethaf, unwaith eto, credaf fod y Gweinidog addysg wedi cyhoeddi £100 miliwn mewn cyllid ychwanegol i wneud ysgolion a cholegau yn ddiogel rhag COVID, a bydd £50 miliwn hefyd yn helpu i sicrhau mynediad i adeiladau. Felly, mae’n amlwg mai dyma’r ymrwymiad a’r prif amcan, nid yn unig i mi fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ond hefyd i Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
Mae gan bob plentyn hawl i chwarae, fel y'i hymgorfforwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae Erthygl 31 o’r confensiwn yn nodi bod gan bob plentyn hawl:
'i orffwys a chael hamdden, chwarae ac ymroi i weithgareddau adloniadol sy’n briodol i oedran y plentyn a chymryd rhan ddirwystr mewn bywyd diwylliannol a’r celfyddydau.'
Mae adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i anghenion plant sy’n bobl anabl mewn perthynas â digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn yr ardal y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdani. Er gwaethaf y cyfrifoldeb hwn i roi sylw i anghenion plant, mae llawer o feysydd chwarae ledled Cymru nad oes ganddynt unrhyw gyfleuster addas ar gyfer plentyn ag anabledd. Yn fy etholaeth i, Aberconwy, mae rhieni wedi dweud wrthyf fod yn rhaid iddynt eistedd a gwylio eu plant yn gwylio plant eraill yn chwarae. Rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Weinidog, fod hyn yn hynod o drist ac na ddylai fod yn digwydd yn yr oes sydd ohoni. Felly, a wnewch chi drafod y mater gyda’r Prif Weinidog, ac edrych i weld a oes unrhyw fwriad i greu cyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu cyllid digonol i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod gan bob maes chwarae, ym mhob cymuned, o leiaf un cyfleuster ar gyfer plant ag anableddau? Diolch.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd. Wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i baratoi strategaeth hygyrchedd, a hynny, mewn gwirionedd, ar gyfer yr ystâd addysgol gyfan. Rwy’n sylweddoli eich bod hefyd yn cyfeirio at feysydd chwarae yn y gymuned hefyd, sy’n gyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Ond dyna lle y mae’r cyfrifoldebau statudol a nodir yn ein Mesur hawliau plant a phobl ifanc mor bwysig i ni yma yng Nghymru. Ond yn sicr, byddaf yn mynd i’r afael â hyn ac yn archwilio'r mater, yn enwedig gyda’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n gyfrifol am blant a phobl ifanc. A thynnaf sylw hefyd at y cyllid a roddwyd i Gwaith Chwarae a’r Haf o Hwyl y llynedd, a oedd hefyd yn estyn allan gan ymgysylltu'n gynhwysol â phlant a phobl ifanc, ac i sicrhau bod yr amgylchedd ffisegol yn gynhwysol yn hynny o beth.