Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:50, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae pobl hŷn wedi dioddef cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi golygu bod llawer ohonynt yn pryderu am y dyfodol. Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu’n sylweddol at y pryderon hyn, yn enwedig gan fod biliau tanwydd eisoes yn debygol o fod yn uwch oherwydd y gofynion ynysu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cyfrifodd cyhoeddiad y Llywodraeth ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf fod oddeutu 350,000 o ddeiliaid tai yn gymwys i wneud cais am daliad o £200 o dan y cynllun. Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ni hawliwyd dros £200 miliwn o gredyd pensiwn yng Nghymru y llynedd. Gan gofio bod risgiau iechyd yn cynyddu oherwydd cartrefi oer i bobl dros 55 oed, a bod mynediad at fand eang aneffeithlon a’r rhyngrwyd yn anodd i lawer, a allwch ddweud wrthym faint o aelwydydd cymwys sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yn hyn, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r terfyn amser estynedig i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael, yn enwedig i bobl hŷn?