1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Chwefror 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Yn gyntaf, llefarydd y Ceidwadwyr, Joel James.
Diolch, Lywydd. Weinidog, bron i flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd adroddiad 'Caffael Llesiant yng Nghymru’, ac mae’n dangos yn glir, ar ôl bron i saith mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fod y Llywodraeth hon yn esgeuluso’i chyfrifoldebau i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith yn gywir ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru, a sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru yn y modd a’r ysbryd y bwriadwyd iddi wneud. Un darn o’r adroddiad llesiant caffael a oedd yn anghyfforddus i’w ddarllen oedd ymateb y Llywodraeth i’r argymhellion ynghylch newid hinsawdd. Fel y gŵyr y Gweinidog, mynegodd y comisiynydd bryder nad oedd arian cyhoeddus, yn enwedig o ystyried caffael, yn cael ei wario yn unol â’r argyfwng hinsawdd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatgan, ac argymhellodd,
'Er mwyn cyflawni targedau allyriadau carbon dylai pob corff cyhoeddus ddatgan yn glir sut y maent wedi ystyried effaith carbon eu penderfyniadau caffael'.
Yn siomedig, ymateb Llywodraeth Cymru oedd y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) arfaethedig yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i lunio strategaeth gaffael ac adrodd ar gydymffurfiaeth. Nawr, er y gallai’r Bil hwn osod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, ni fydd yn cyflawni unrhyw beth o fewn yr amserlenni sydd eu hangen. Nid yw’n ddim mwy na gohirio, oherwydd nid yw’r Bil wedi’i gyflwyno eto, ac ni ddaw'n gyfraith ac yn weithredol am sawl blwyddyn. Mae angen pendant a digynsail i wneud popeth a allwn i gyflawni ein targedau allyriadau carbon, ond mae bron fel pe bai’r Llywodraeth yn ystyried y Bil partneriaeth gymdeithasol yn ateb a fydd yn datrys pob un o’u problemau, pan nad yw'n ddim byd ond dos o’r meddylfryd sosialaidd sy’n rhagnodi mai’r unig ffordd o ymdrin â methiant deddfwriaethol yw creu mwy o ddeddfwriaeth. O ystyried bod rhwng 50 y cant a 70 y cant o holl allyriadau carbon cyrff cyhoeddus yn dod o gaffael, ac o ystyried yr angen digynsail i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn deall yr ôl troed carbon, a all y Gweinidog ymrwymo i roi argymhellion eich comisiynydd, sy’n gwneud adrodd ar effaith carbon mewn penderfyniadau caffael cyhoeddus yn orfodol, ar waith ar unwaith? Diolch.
Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn go gynhwysfawr a meddylgar, ac yna disgynnodd i’r lefel isel honno unwaith eto drwy roi cic hawdd i'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus. Mae'n cyfeirio at ateb i bob problem. Mae’n ddeddfwriaeth arwyddocaol, ac yn bendant, nid yw’n cael ei ohirio; disgwylir iddi ddod gerbron y Senedd hon ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, ond rwy’n teimlo, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn methu’r pwynt, oherwydd yn hytrach na chyflwyno deddfwriaeth newydd, mae angen ichi sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio yn gyntaf. Os yw Deddf cenedlaethau’r dyfodol wedi’i beirniadu mor hallt am nad yw'n gweithio, pam y dylem ddisgwyl i’r Bil partneriaeth gymdeithasol weithio? Fel y crybwyllwyd yn y ddadl ar y gyllideb ddoe, mae comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi datgan yn gyhoeddus iawn mai ei chyllideb hi yw’r lleiaf o gyllidebau’r holl gomisiynwyr ac nad yw’n ddigon mawr iddi roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar waith yn llawn. Mae’r comisiynydd wedi cwyno ymhellach fod 43 y cant o’i hamser yn cael ei dreulio’n rhoi cyfarwyddyd i Lywodraeth Cymru ar sut i roi polisi ar waith o fewn ei sefydliad ei hun. O ganlyniad, mae’r comisiynydd wedi gofyn i’w chyllideb gael ei chynyddu i £1.592 miliwn ar gyfer 2022 a 2023, fel y gall ei swyddfa, ac rwy'n dyfynnu,
'gynllunio ar gyfer a diwallu gofynion gwaith statudol hysbys ar ddiwedd 2021-22 a dechrau 2022-23.'
Mae’r comisiynydd wedi datgan bod y tanariannu llinell wastad ar gyfer ei swyddfa yn golygu, yn ei geiriau ei hun,
'y gallaf wneud llai mewn termau real tra bod disgwyliadau a galwadau am gefnogaeth a chyngor ar draws 44 o gyrff cyhoeddus yn tyfu', a bod
'lefel y gefnogaeth a'r cyngor a gynigir i Gyrff Cyhoeddus a Gweinidogion yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.'
Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yr wythnos hon, dywedodd y comisiynydd, ac rwy'n dyfynnu eto, nad oedd yn cael yn agos at ddigon o adnoddau, sy’n golygu bod y comisiynydd yn nodi na fyddai ei swyddfa’n gallu bodloni gofynion gwaith statudol fel y’u gorfodir gan y Llywodraeth hon os nad yw'n cael mwy o arian.
Os yw’r comisiynydd yn cwyno nad oes ganddi adnoddau ariannol i gyflawni ei dyletswyddau cyffredinol, Ddirprwy Weinidog, sut y gallai'r comisiynydd fod wedi gwastraffu swm sylweddol o’i harian a’i chyllideb ar logi corff allanol i ymgymryd ag astudiaeth ddichonoldeb o incwm sylfaenol cyffredinol a chynnal ymchwil i wythnos waith fyrrach, sydd ill dau'n faterion a gedwir yn ôl nad oes gan ei swyddfa na’r Llywodraeth hon unrhyw reolaeth drostynt?
Ddirprwy Weinidog, rhaid eich bod yn cytuno bod y comisiynydd yn gwastraffu arian cyhoeddus ar ymchwil o’r fath, yn enwedig gan nad yw incwm sylfaenol cyffredinol erioed wedi’i roi ar waith yn gyfan gwbl, er gwaethaf treialon ledled y byd, ac er eu bod yn dangos dro ar ôl tro nad yw ymddygiad pobl yn cyd-fynd â’r model sosialaidd o sut y mae’r byd yn gweithio. O ystyried y feirniadaeth helaeth—
Credaf y bydd yn rhaid imi dynnu eich sylw at y ffaith eich bod wedi bod dros ddwy funud bellach. Byddwn yn ddiolchgar os gallwch ofyn eich cwestiwn yn awr.
Iawn, perffaith. O ystyried y feirniadaeth helaeth gan gomisiynydd y Llywodraeth hon, yn enwedig fod Llywodraeth Cymru wedi methu dangos arweinyddiaeth glir, gydgysylltiedig a bod cyfathrebu ac integreiddio gwael rhwng gwahanol flaenoriaethau Cymreig, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar lawer o’i hargymhellion, a ydych yn credu bod hyn yn cyfiawnhau ailfeddwl am y ffordd orau o weithredu Deddf cenedlaethau’r dyfodol, ac, yn hytrach na chomisiynydd, efallai y byddai’r Ddeddf yn cael ei gweithredu’n well yn fewnol gan Lywodraeth Cymru? Diolch.
Lywydd, fel nifer o bobl yma, credaf imi golli golwg ar y cwestiwn yng nghyfraniad yr Aelod. A hoffwn wneud y pwynt mai cyfrifoldeb y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw hyn, felly ysgrifennwch ati hi ynghylch y materion hyn. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod ar y pwynt hwn ein bod mewn trafodaethau gyda swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ynghylch ystod o opsiynau i liniaru'r pwysau cyllidebol a wynebir gan y comisiynydd, ac mae hyn yn cynnwys opsiynau mewn perthynas â'r ymarfer alinio a'r cronfeydd wrth gefn y mae’n rhaid i’r comisiynydd eu defnyddio i drefnu ei gwaith. Rydym yn cydnabod y gwaith y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei wneud yn hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn cynghori cyrff ar sut y gallant weithio mewn ffordd gynaliadwy, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, oherwydd ar hyn o bryd, ymddengys bod y comisiynydd yn rhydd i wastraffu arian cyhoeddus yn ôl ei disgresiwn ac ar ei phrosiectau amherthnasol ei hun. Ond ers cael fy ethol, rwyf wedi darllen a chlywed am sefydliadau dirifedi yn cwyno nad yw Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar weithredu polisi—
A gaf fi dorri ar draws? Mae angen imi gael tawelwch. Rwy’n cael trafferth clywed yr Aelodau a’r Dirprwy Weinidog hefyd. Felly, os gallwn gael tawelwch ar y meinciau cefn, ac os gallwch gadw eich cwestiwn mor gryno â phosibl, diolch.
Ie, diolch, Lywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar roi polisi ar waith, ac mae yna hinsawdd o eiriau ac addewidion sy'n swnio'n gefnogol, ond diffyg gweithredu amlwg. Mewn cyfarfod diweddar ag un o’r comisiynwyr, codwyd mater gweithredu polisi unwaith eto, ynghyd â phwynt diddorol iawn arall. Maent yn credu bod y broblem weithredu sydd gan y Llywodraeth hon yn deillio o’r ffaith bod cyfrifoldebau portffolio Gweinidogion wedi’u halinio’n wael o’u cymharu â’r meysydd polisi y maent yn ymdrin â hwy.
O’r hyn a ddeallaf, mae hyn wedi’i godi eisoes yng nghyfarfodydd y Llywodraeth, ac er y bydd Gweinidogion yn siŵr o gydweithio’n agos, mae natur adweithiol llywodraeth yn golygu bod llawer o feysydd yn cael eu hesgeuluso. Mae'n hawdd bwrw golwg dros y rhestr o gyfrifoldebau gweinidogol a gweld sut nad yw portffolios yn alinio â'i gilydd. Er enghraifft, mae rôl peillwyr mewn amaethyddiaeth, a ddylai berthyn i faterion gwledig, yn dod o dan gyfrifoldebau’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ac yn eich portffolio chi, Ddirprwy Weinidog, mae llawer o’r cyfrifoldebau sydd gan y comisiynydd plant, er enghraifft, yn dod o dan gylch gwaith y Gweinidog addysg, yn hytrach na chi.
Er na fyddwn byth yn disgwyl i’r Dirprwy Weinidog gyfaddef yn gyhoeddus fod y broblem hon yn bodoli, mewn ysbryd o geisio sicrhau'r gorau i bobl Cymru, a wnaiff y Dirprwy Weinidog neu’r Gweinidog ymrwymo i godi mater alinio polisi a rôl fel eitem o fusnes pan fydd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod nesaf? Diolch.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn olaf. Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod a’r Aelodau yma ein bod, fel Llywodraeth gyfrifol, yn gweithio ar sail drawslywodraethol. Nid ydym yn gweithredu mewn seilos ac rydym yn cydnabod ein bod yn gweithio ar y cyd, boed hynny gyda’r Gweinidog addysg, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gyda fy nghyd-Aelodau ym maes iechyd, ac ar draws Llywodraeth Cymru yn gyffredinol i sicrhau ein bod yn gweithio fel Llywodraeth, yn gyfunol, i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru nawr, Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae pobl hŷn wedi dioddef cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig, ac mae hynny wedi golygu bod llawer ohonynt yn pryderu am y dyfodol. Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu’n sylweddol at y pryderon hyn, yn enwedig gan fod biliau tanwydd eisoes yn debygol o fod yn uwch oherwydd y gofynion ynysu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cyfrifodd cyhoeddiad y Llywodraeth ar y cynllun cymorth tanwydd gaeaf fod oddeutu 350,000 o ddeiliaid tai yn gymwys i wneud cais am daliad o £200 o dan y cynllun. Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ni hawliwyd dros £200 miliwn o gredyd pensiwn yng Nghymru y llynedd. Gan gofio bod risgiau iechyd yn cynyddu oherwydd cartrefi oer i bobl dros 55 oed, a bod mynediad at fand eang aneffeithlon a’r rhyngrwyd yn anodd i lawer, a allwch ddweud wrthym faint o aelwydydd cymwys sydd wedi gwneud cais llwyddiannus hyd yn hyn, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r terfyn amser estynedig i hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael, yn enwedig i bobl hŷn?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig ar yr argyfwng costau byw, ac yn benodol ar ein pryderon ynghylch trechu tlodi tanwydd. Gallaf ddweud wrth yr Aelod a'r Aelodau ar draws y Siambr, fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, rwy'n credu, y dylai 350,000 o bobl fod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf; mae'r £100 wedi dyblu yn y pythefnos diwethaf i £200; rydym wedi cael 146,000 o geisiadau hyd yn hyn, ac mae dros 105,000 o daliadau wedi’u gwneud.
Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yma yn cysylltu â phawb y maent yn eu hystyried yn gymwys ar gyfer ein cynllun cymorth taliadau tanwydd gaeaf. Mae'n bwysig iawn hefyd—. Mae wedi’i ymestyn hyd at ddiwedd mis Chwefror, felly rwyf hefyd yn annog pawb yma ar draws y Siambr, gan fy mod yn siŵr y bydd pob un ohonoch yn awyddus i sicrhau y bydd eich etholwyr sy’n gymwys yn gwneud cais am y cynllun cymorth tanwydd.
Ond mae hefyd yn bwysig iawn cydnabod anghenion pensiynwyr, ac rwy'n falch eich bod wedi codi'r mater nad yw dau o bob pump o bobl sy'n gymwys i gael credyd pensiwn yn ei hawlio. Felly, rwy'n croesawu ymrwymiad y comisiynydd pobl hŷn, ac Age Cymru yn wir, a phawb sy’n cynrychioli pobl hŷn a phensiynwyr, i gefnogi ein hawliadau gwneud y gorau o incwm, ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’, ac i sicrhau eu bod yn gwneud ceisiadau am y cynllun credyd pensiwn.
Ond rhaid imi ddweud mai neges arall, sydd ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd mewn gwirionedd, yw y gallai'r ad-daliadau biliau ynni i bobl hŷn ac aelwydydd agored i niwed drwy'r gostyngiad cartref cynnes a'r taliad tanwydd gaeaf, yn ogystal â'r cynllun taliadau tanwydd gaeaf, gael eu hehangu’n hawdd gan Lywodraeth y DU i gynnig cymorth pellach, felly rwy’n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i alw am hynny ar ôl y cynnydd gwarthus, yn fy marn i, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf mewn perthynas â'r gostyngiad cartref cynnes. Ac a gaf fi achub ar y cyfle i ddweud, wrth gwrs, fod pensiynwyr hefyd yn gymwys i wneud cais i'r gronfa cymorth dewisol? Ac rydym yn buddsoddi, drwy raglen Cartrefi Clyd, mewn mesurau effeithlonrwydd ynni.
Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi am raglen Cartrefi Clyd. Er gwaethaf targed gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i ddileu tlodi tanwydd cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol ym mhob cartref erbyn 2018, gostyngiad o 6 y cant yn unig a gafwyd mewn tlodi tanwydd ym mhob cartref rhwng 2012 a 2016. Mae’r Llywodraeth hon yn ymgynghori ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd, a lansiwyd gyntaf yn 2009. Mae llawer, gan gynnwys Sefydliad Bevan, wedi dadlau na all un rhaglen gael nod deuol o leihau tlodi tanwydd a datgarboneiddio cartrefi. Methodd rhaglen Cartrefi Clyd fodloni'r naill amcan na'r llall yn ddigonol, oherwydd ei nodau deuol. I fynd i’r afael â hyn, dylid sefydlu dwy raglen ar wahân, un i ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio cartrefi ac un ar dlodi tanwydd.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn cwestiwn ynghylch pa un o'r ddau amcan, trechu tlodi tanwydd a mynd i'r afael â newid hinsawdd, a ddylai gael blaenoriaeth dros y llall mewn rhaglen newydd. Ni ddylai'r ddau amcan orfod cystadlu. Onid yw'n bryd inni fynd at wraidd y materion hyn gyda dwy raglen ar wahân, ond sy'n rhaglenni â ffocws, sy'n cydweithio â'i gilydd? Diolch.
Diolch. Unwaith eto, cyfraniad defnyddiol iawn, oherwydd, fel y dywedwch, Peredur, rydym yn ymgynghori ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd. Fe ddechreuodd ym mis Rhagfyr ac mae’r ymgynghoriad yn parhau tan 1 Ebrill, ac mae gennym banel cynghori ar dlodi tanwydd. Mae’r pwyntiau a wnewch yn bwysig iawn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried y ddau yn amcanion y dylem fod yn anelu tuag atynt yn ein rhaglen Cartrefi Clyd. Ond o ran gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy raglen Cartrefi Clyd, hyd at ddiwedd mis Mawrth y llynedd, dylwn ddweud bod £394 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref, a mwy na 168,000 o bobl wedi cael cyngor effeithlonrwydd ynni drwy raglen Cartrefi Clyd hefyd. Felly, oes, mae angen inni sicrhau bod hyn yn cefnogi'r gwaith o ddatgarboneiddio cartrefi Cymru ac yn cefnogi twf cynaliadwy yn y sector ynni adnewyddadwy ac ôl-osod tai. Felly, gadewch inni weld sut y gall y rhaglenni newydd ddiwallu'r anghenion, ni waeth sut y byddant yn datblygu mewn perthynas â'r amcanion.