Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 9 Chwefror 2022.
Iawn, perffaith. O ystyried y feirniadaeth helaeth gan gomisiynydd y Llywodraeth hon, yn enwedig fod Llywodraeth Cymru wedi methu dangos arweinyddiaeth glir, gydgysylltiedig a bod cyfathrebu ac integreiddio gwael rhwng gwahanol flaenoriaethau Cymreig, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrando ar lawer o’i hargymhellion, a ydych yn credu bod hyn yn cyfiawnhau ailfeddwl am y ffordd orau o weithredu Deddf cenedlaethau’r dyfodol, ac, yn hytrach na chomisiynydd, efallai y byddai’r Ddeddf yn cael ei gweithredu’n well yn fewnol gan Lywodraeth Cymru? Diolch.