Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch, Ddirprwy Weinidog, oherwydd ar hyn o bryd, ymddengys bod y comisiynydd yn rhydd i wastraffu arian cyhoeddus yn ôl ei disgresiwn ac ar ei phrosiectau amherthnasol ei hun. Ond ers cael fy ethol, rwyf wedi darllen a chlywed am sefydliadau dirifedi yn cwyno nad yw Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar weithredu polisi—