Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae cynaliadwyedd y sector gwirfoddol wedi cael ei daro'n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae angen cefnogi'r sector yn gyflym gan ei fod yn wynebu heriau sylweddol wrth symud ymlaen. Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, gallai fod cynnydd serth yn y galw am wasanaethau elusennau ar adeg pan fo llawer o elusennau heb wella eu cynaliadwyedd yn sgil y pandemig. Weinidog, gwn fod cyngor partneriaeth y trydydd sector wedi cytuno ar gynllun adfer y llynedd, sy'n mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi, ond a allwch ddweud wrthym pa waith ychwanegol sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y sector gwirfoddol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac yn gallu darparu gwasanaethau mawr eu hangen i bobl yn eu cymunedau?