Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 9 Chwefror 2022.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n gyfarwydd â'r ymgyrch 'get me home safely' y mae'n cyfeirio ati gan Unite, oherwydd roeddwn yn yr un sesiwn pan glywsom gan bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw yn awr a'u straeon real iawn—yn enwedig menywod hefyd, unwaith eto, o dan yr amgylchiadau hyn, sydd wedi cael eu gadael i weithio'n hirach ar eu shifft pan nad oeddent wedi cynllunio i wneud hynny, a phan nad oes trafnidiaeth gyhoeddus, neu eu bod yn cloi'r safle ar eu pen eu hunain. Credaf ei bod yn ymgyrch bwysig iawn, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth, ond i ddangos y camau pendant y gallwn eu cymryd, gan fynd yn ôl at y cwestiwn blaenorol ynghylch y cyfleoedd, rwy'n meddwl, gyda thrwyddedu i edrych ar y pethau hyn. Rwyf wedi eu gwahodd, yn sgil y cyfarfod hwnnw, i gysylltu â mi a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i weld beth y gallwn ei wneud ar y cyd i weithredu rhai o'r galwadau yn yr ymgyrch honno.