Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Yn ystod y pandemig, comisiynodd y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl ymchwil ar yr effaith ar bobl anabl, gan gynnwys y rheini sydd â nam ar eu golwg. O ganlyniad, mae’r tasglu hawliau pobl anabl wedi cael ei sefydlu i edrych ar effaith y pandemig, ac un o’r blaenoriaethau cyntaf fydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.