Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch am yr ateb. Mae bron i 5,000 o bobl yng Ngwynedd yn byw efo problemau golwg, ac wrth i'r defnydd o brofion llif unffordd fod yn rhan o'n bywydau ni am gyfnod eto, mae angen sicrhau bod cymorth ar gael iddyn nhw o ran cymryd y profion a hefyd o ran deall y canlyniadau. Dwi'n ymwybodol o'r cynllun i gynnig cymorth drwy ap o'r enw Be My Eyes, ond dydy o ddim wedi bod yn llwyddiannus i bawb, efo llawer yn gorfod dibynnu ar gymorth gan bobl eraill, ac, wrth gwrs, nid pawb sydd â mynediad at ddyfeisiau digidol. Fedrwch chi roi diweddariad inni o ba gamau eraill sydd yn cael eu rhoi ar waith yn sgil canfyddiadau'r peilot penodol yma?