Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 9 Chwefror 2022.
Wel, wrth gwrs, mae dylanwad cyfreitheg—dylanwad penderfyniadau o Ewrop, gan Lys Ewrop, yn amlwg yn rhai pwysig, sy'n dal i gael eu hystyried, ac wrth gwrs, fel y mae Aelodau o bob plaid wedi'i nodi, mae gennym gyfraith yr UE a ddargedwir. Credaf y bydd y rhagdybiaeth, rywsut—gwnaethpwyd rhagdybiaeth gan y siaradwr cyntaf—fod yr holl bethau hyn rywsut yn ddrwg, fod y cyfan rywsut yn rhywbeth negyddol, yn cael eu profi'n anghywir yn y pen draw, ond eto, tan y bydd yr adolygiad yn dechrau—. Nawr, y broblem yw, hyd nes y byddwn yn ymgysylltu'n iawn, ni fyddwn yn gwybod yn fanwl i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth y DU yn dymuno mynd, ond rwy'n gobeithio mai'r hyn a ddaw ohono yw y byddwn yn cydnabod bod sawl agwedd ar gyfraith bresennol yr UE yr ydym nid yn unig am eu cadw, ond y gallem fod yn dymuno'u gwella hefyd, a lle y bydd hynny'n digwydd, rwy'n gobeithio na fydd ymgais i negyddu'r holl bethau cadarnhaol sy'n bodoli.