2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
1. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â diwygio neu ddileu cyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57594
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith eraill y DU ynghylch yr effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU i newid statws cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir? OQ57622
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth ar gyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57599
4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda llywodraethau eraill y DU mewn perthynas â chyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57604
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth y DU wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu ymgysylltu'n llawn â'r Llywodraethau datganoledig wrth gynnal ei hadolygiad o gyfraith yr UE a ddargedwir. Rydym yn pwyso am ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn y bydd yr adolygiad yn ei wneud, y cynigion a allai ddilyn a'r goblygiadau i Gymru.
Diolch. Lywydd, roeddwn wrth fy modd yn darllen ar yr agenda y bydd cynifer o Aelodau'n holi'r Cwnsler Cyffredinol heddiw am gyfraith yr UE a ddargedwir. Ac rwy'n siŵr fod nifer, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, wrth eu boddau fod Llywodraeth y DU yn nodi dwy flynedd ers Brexit drwy barhau i gyflawni ewyllys ddemocrataidd pobl y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Er ein bod wedi gadael y bloc, mae cyfraith yr UE a wnaed cyn 1 Ionawr 2020 yn parhau i gael blaenoriaeth yn ein fframwaith domestig. Mae hynny'n warthus mewn gwirionedd ac nid yw'n gydnaws â'n statws fel gwlad annibynnol sofran. Ar hyn o bryd mae swyddogion ar draws y Llywodraeth yn adolygu holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir i benderfynu a ydynt o fudd i'r DU. Nawr, rydych wedi datgan yn gyhoeddus eich bod am ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU. A fyddwch chi, felly, yn cydweithredu mewn ffordd gadarnhaol drwy wneud argymhellion ynghylch pa gyfraith yr UE yr hoffech ei gweld yn cael ei diwygio neu ei dileu, a dywedwch wrthym beth ydynt os gwelwch yn dda? Diolch.
Wel, diolch i'r Aelod am y sylw hwnnw. Hoffwn atgoffa'r Aelodau—efallai eu bod wedi darllen amdano eisoes—am y pryderon sydd gennym ynglŷn â'r ffordd y mae hyn yn cael ei brosesu a'i ruthro yn ei flaen yn sydyn heb unrhyw reswm clir. Ym mis Rhagfyr cawsom lythyr gan yr Arglwydd Frost yn tynnu ein sylw at ddatganiad ysgrifenedig yn nodi mwy o fanylion am yr adolygiad, lle y cynigiodd drafod yr adolygiad hefyd mewn cyfarfod o grŵp rhyngweinidogol newydd y DU-UE yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni chafodd Gweinidogion y Llywodraethau datganoledig wybod am fwriad Llywodraeth y DU i gyhoeddi ei dogfen bolisi 'The Benefits of Brexit' tan alwad a wnaed ar 29 Ionawr. Fe'i cyhoeddwyd ddeuddydd yn ddiweddarach. Yn wir, credaf imi ei weld pan gafodd ei gyhoeddi ar 31 Ionawr. Mae manylion am y cynigion polisi sy'n cael eu datblygu fel rhan o'r adolygiad wedi bod yn gyfyngedig iawn hyd yma, ac mae'r ddogfen bolisi i raddau helaeth yn ailadrodd datganiad ysgrifenedig yr Arglwydd Frost. Mae fy swyddogion polisi yn pwyso am eglurder yn hyn o beth, ac maent wedi gofyn am gyfarfod y mis hwn i gael diweddariad pellach ar gynlluniau Llywodraeth y DU, sy'n dal i fod yn aneglur iawn.
Cytunais i gais gan y Cwnsler Cyffredinol i grwpio cwestiynau 1, 2, 3 a 4, ac felly gofynnaf i Rhys ab Owen ofyn ei gwestiwn atodol yn awr.
Diolch yn fawr iawn i chi, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mae'n debyg eich bod yn ymwybodol o dystiolaeth Philip Rycroft y bore yma i bwyllgor dethol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Disgrifiodd Brexit fel sioc i'r system, a bod un o'r cynseiliau yr adeiladwyd datganoli arni—confensiwn Sewel—wedi methu oherwydd Brexit. Efallai nad yw'r rheini'n eiriau arferol gan was sifil, ond ei eiriau ef oeddent, nid fy ngeiriau i. Pan roesoch chi dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fis diwethaf, fe wnaethoch ddisgrifio sefyllfa'r Bil ynysu Brexit, fel rwy'n hoff o'i alw, fel un sy'n cael effaith enfawr ar y setliad datganoli mewn meysydd datganoledig. Rwy'n gwybod mai dim ond ar y dydd Sadwrn y cawsoch wybod amdano, ac rwy'n siŵr fod gennych bethau gwell i'w gwneud ar ddydd Sadwrn na bod yn rhan o'r alwad ffôn honno, ond ni allech roi llawer o fanylion i ni bryd hynny am lefel yr ymgysylltu. Rwy'n falch o glywed bod sicrwydd wedi'i roi y bydd mwy o lefelau ymgysylltu ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o fanylion am hynny. A ydych o'r farn ei bod yn briodol i randdeiliaid Cymreig a'r Senedd hon gymryd rhan yn y broses honno hefyd? Diolch yn fawr.
Diolch am y cwestiwn. Mae'r pwyntiau a godwch yn gwbl gywir—mae cyfraith yr UE a ddargedwir ac adolygu'r gyfraith yn rhywbeth sy'n peri pryder sylweddol i ni, nid fel mater cyfansoddiadol yn unig, ond yn sgil y datganiadau a wnaed ar draws y Siambr hon gan bob plaid ynghylch pwysigrwydd safonau ym meysydd bwyd, yr amgylchedd ac yn y blaen. Felly, nid yw'n glir beth yn union ydyw. Rhaid imi ddweud, darllenais y ddogfen, ac o ystyried y ddadl gynharach a wnaed—. Sam Rowlands, gallwch gael copi o fy—[Anghlywadwy.]—bydd yn sicr yn gwella eich insomnia. [Chwerthin.] Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n cynnwys rhywbeth y credaf y bydd ar wefusau pob dinesydd yng Nghymru pan fyddant yn edrych ar y rhyfeddodau a gaiff eu datgan ynghylch cyflawniad. Gwrandewch: ailgyflwyno ein pasbortau glas eiconig, sy'n cael eu hargraffu gan gwmni yn Ffrainc. Ond nid yw hynny'n ddigon—mae'n rhagori ar hynny mewn gwirionedd, oherwydd rydym yn adolygu gwaharddiad ar farchnata a gwerthiannau imperial yr UE i roi mwy o ddewis i fusnesau a defnyddwyr ynghylch y mesuriadau a ddefnyddir. Ond mae'n mynd yn well na hynny hyd yn oed, oherwydd byddwn yn caniatáu i fusnesau ddefnyddio symbol stamp y Goron ar wydr peint. Felly, credaf y gallaf ddweud wrth yr Aelod fod gennym lawer i edrych ymlaen ato yn sicr. Ond o ddifrif, mae hon yn ddogfen arwyddocaol a phwysig iawn, a byddwn yn ymgysylltu'n llawn, a byddwn yn ei thrafod yn llawn gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU.
Ategaf y pwyntiau a wnaeth Rhys ynghylch ymgysylltu priodol ac ymagwedd adeiladol y Gweinidog, ond a gaf fi ddweud, roedd dinasyddion ledled y wlad yn chwifio'r baneri dros y penwythnos. Roeddent yn falch iawn o glywed y newyddion hwn, a hefyd am benodi dyn y bobl, Jacob Rees-Mogg, yn Weinidog dros gyfleoedd Brexit, ac y byddai coelcerth o reoliadau'n cael ei chreu wrth i'r Bil Brexit rhif 2 hwn â'r teitl mawreddog, fynd rhagddo ar y gyfraith a ddargedwir. Rydym ymhell y tu hwnt i barodi nawr, wrth gwrs, gan fod hyn yn cyd-daro ag adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus trawsbleidiol fod Brexit a biwrocratiaeth gynyddol symudiadau masnach trawsffiniol wedi llesteirio masnach â'r UE bob dydd ers i ni adael. Gwelwn yr effaith wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ac Éire bob dydd. Mae cludwyr nwyddau'n dewis osgoi porthladdoedd Cymru a'r DU i deithio'n uniongyrchol i'r cyfandir, ac o fewn y 24 awr ddiwethaf dysgasom fod allforion i'r Almaen o'r DU wedi gostwng 8.5 y cant yn ystod 2021, a chyn i feinciau'r gwrthbleidiau ddweud, 'Wel, mae hynny wedi bod yr un fath i bawb', mae hynny o'i gymharu â chynnydd o 16.8 y cant mewn mewnforion o aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd. Weinidog, Gwnsler Cyffredinol—. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn credu y bydd yr iteriad newydd o Fil Brexit rhif 2 yn adeiladu ar y llwyddiannau rhyfeddol hyn?
Os caf ymateb efallai i sylw cyntaf yr Aelod, a oedd yn ymwneud â chreu teitlau gweinidogol newydd disgrifiadol propagandaidd rhyfeddol—y Gweinidog dros gyfleoedd Brexit—mae bron yn eich atgoffa, onid yw, o Lywodraeth yr Undeb Sofietaidd flaenorol a'r 'Gweinidog dros or-gyflawniad y cynllun pum-mlynedd'? [Chwerthin.] Ond mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, oherwydd mae'r ddogfen sydd gennym yn ddogfen bropagandaidd iawn; mae'n llawn dyheadau llac iawn. Byddwn yn amlwg am eu hystyried ac archwilio'r hyn y maent yn ei olygu, ond hefyd byddwn am gael gwarantau ynghylch yr uniondeb cyfansoddiadol. Yn y cyfarfod a gefais ar y dydd Sadwrn y cyfeiriais ato, nodais yn benodol iawn nid yn unig fod y broses yn annerbyniol, ein galw yn y modd hwnnw, ond nad oedd yn ymgysylltiad parchus, ond yn yr un modd, ein bod am gael sicrwydd—a gwn fod eraill wedi gofyn am yr un peth—ynghylch uniondeb datganoli. Rwy'n dal i fod heb fy argyhoeddi ein bod wedi cael hynny, ond fe gawn weld beth sy'n digwydd mewn gwirionedd. Ond y pwynt y mae'n ei godi wrth gwrs, yw, os edrychwch ar gyfraith yr UE a ddargedwir, os ydych am edrych ar bob agwedd ohoni, rhaid ichi edrych ar bob ffactor, nid dim ond y rhai propagandaidd rydych am eu cael, ond y goblygiadau difrifol sydd i fasnach yn sgil rhai o'r pethau sydd naill ai wedi'u dileu neu y bwriedir eu dileu, a'r goblygiadau difrifol a allai fod i'r safonau rydym am eu cynnal mewn bwyd, amaethyddiaeth, yr amgylchedd ac yn y blaen.
Gwnsler Cyffredinol, mae'n hanfodol gweithio ar y cyd â Llywodraethau datganoledig eraill y DU. Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn cefnogi datganoli ac wedi pleidleisio drosto ddwywaith mewn refferenda. Ni ddylai gadael yr UE olygu bod datganoli'n cael ei wanhau gan Lywodraeth y DU. Rhaid diogelu ein pwerau datganoledig. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod pob gwlad yn cydweithio i amddiffyn eu buddiannau datganoledig?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn yn cydweithio â holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio y bydd y trafodaethau a'r negodiadau'n cydymffurfio â'r egwyddorion y cytunwyd arnynt eisoes yn awr mewn perthynas â'r adolygiad rhynglywodraethol, sef parch at y Llywodraethau datganoledig, parch ar y ddwy ochr, ac egwyddorion uniondeb yn y ffordd y mae'r trafodaethau i'w cynnal mewn gwirionedd. Nawr, os bydd hynny'n digwydd, gallwn gael trafodaeth gadarnhaol ac adeiladol, ond rwy'n ei gwneud yn glir iawn na fyddwn yn ildio, ni fyddwn yn cyfaddawdu, os mai dim ond ymgais i gyflwyno Bil marchnad fewnol rhif 2 arall yw hyn.
Wrth symud ymlaen, beth yw sefyllfa cyfraith achosion o Lys Ewrop, megis dyfarniad enwog Bosman? A fyddant yn dal i fod yn berthnasol a ninnau wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac os felly, am ba mor hir? Mae hwn yn fater o gryn ddiddordeb a chanddo sgil-effeithiau enfawr, ac nid yn unig i bêl-droed.
Wel, wrth gwrs, mae dylanwad cyfreitheg—dylanwad penderfyniadau o Ewrop, gan Lys Ewrop, yn amlwg yn rhai pwysig, sy'n dal i gael eu hystyried, ac wrth gwrs, fel y mae Aelodau o bob plaid wedi'i nodi, mae gennym gyfraith yr UE a ddargedwir. Credaf y bydd y rhagdybiaeth, rywsut—gwnaethpwyd rhagdybiaeth gan y siaradwr cyntaf—fod yr holl bethau hyn rywsut yn ddrwg, fod y cyfan rywsut yn rhywbeth negyddol, yn cael eu profi'n anghywir yn y pen draw, ond eto, tan y bydd yr adolygiad yn dechrau—. Nawr, y broblem yw, hyd nes y byddwn yn ymgysylltu'n iawn, ni fyddwn yn gwybod yn fanwl i ba gyfeiriad y mae Llywodraeth y DU yn dymuno mynd, ond rwy'n gobeithio mai'r hyn a ddaw ohono yw y byddwn yn cydnabod bod sawl agwedd ar gyfraith bresennol yr UE yr ydym nid yn unig am eu cadw, ond y gallem fod yn dymuno'u gwella hefyd, a lle y bydd hynny'n digwydd, rwy'n gobeithio na fydd ymgais i negyddu'r holl bethau cadarnhaol sy'n bodoli.