Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch. Lywydd, roeddwn wrth fy modd yn darllen ar yr agenda y bydd cynifer o Aelodau'n holi'r Cwnsler Cyffredinol heddiw am gyfraith yr UE a ddargedwir. Ac rwy'n siŵr fod nifer, gan gynnwys fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, wrth eu boddau fod Llywodraeth y DU yn nodi dwy flynedd ers Brexit drwy barhau i gyflawni ewyllys ddemocrataidd pobl y Deyrnas Unedig yng Nghymru. Er ein bod wedi gadael y bloc, mae cyfraith yr UE a wnaed cyn 1 Ionawr 2020 yn parhau i gael blaenoriaeth yn ein fframwaith domestig. Mae hynny'n warthus mewn gwirionedd ac nid yw'n gydnaws â'n statws fel gwlad annibynnol sofran. Ar hyn o bryd mae swyddogion ar draws y Llywodraeth yn adolygu holl gyfreithiau'r UE a ddargedwir i benderfynu a ydynt o fudd i'r DU. Nawr, rydych wedi datgan yn gyhoeddus eich bod am ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU. A fyddwch chi, felly, yn cydweithredu mewn ffordd gadarnhaol drwy wneud argymhellion ynghylch pa gyfraith yr UE yr hoffech ei gweld yn cael ei diwygio neu ei dileu, a dywedwch wrthym beth ydynt os gwelwch yn dda? Diolch.