Cyfraith yr UE a Ddargedwir

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:22, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, mae'n debyg eich bod yn ymwybodol o dystiolaeth Philip Rycroft y bore yma i bwyllgor dethol Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Disgrifiodd Brexit fel sioc i'r system, a bod un o'r cynseiliau yr adeiladwyd datganoli arni—confensiwn Sewel—wedi methu oherwydd Brexit. Efallai nad yw'r rheini'n eiriau arferol gan was sifil, ond ei eiriau ef oeddent, nid fy ngeiriau i. Pan roesoch chi dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fis diwethaf, fe wnaethoch ddisgrifio sefyllfa'r Bil ynysu Brexit, fel rwy'n hoff o'i alw, fel un sy'n cael effaith enfawr ar y setliad datganoli mewn meysydd datganoledig. Rwy'n gwybod mai dim ond ar y dydd Sadwrn y cawsoch wybod amdano, ac rwy'n siŵr fod gennych bethau gwell i'w gwneud ar ddydd Sadwrn na bod yn rhan o'r alwad ffôn honno, ond ni allech roi llawer o fanylion i ni bryd hynny am lefel yr ymgysylltu. Rwy'n falch o glywed bod sicrwydd wedi'i roi y bydd mwy o lefelau ymgysylltu ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o fanylion am hynny. A ydych o'r farn ei bod yn briodol i randdeiliaid Cymreig a'r Senedd hon gymryd rhan yn y broses honno hefyd? Diolch yn fawr.