Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Y Swyddfa Farnwrol, nid Llywodraeth y DU, sy’n penodi ynadon lleyg. Yn bersonol nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am ynadon yn benodol, ond mae’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried gyda phartneriaid wrth inni fwrw ymlaen â chynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru.