2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynyddu amrywiaeth ynadon lleyg yng Nghymru? OQ57592
Diolch am eich cwestiwn. Y Swyddfa Farnwrol, nid Llywodraeth y DU, sy’n penodi ynadon lleyg. Yn bersonol nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau am ynadon yn benodol, ond mae’n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried gyda phartneriaid wrth inni fwrw ymlaen â chynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru.
Mae'n dda clywed hynny. Fe fyddwch yn gwybod bod Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ar hyn o bryd yn cynnal yr ymdrech recriwtio fwyaf yn ei hanes 650 mlynedd i ddod o hyd i 4,000 o ynadon lleyg newydd. Cymerwyd y cam hwn i fynd i'r afael â'r ffaith bod nifer yr ynadon wedi gostwng dros y degawd diwethaf o 25,170 yn 2012 i 12,651 y llynedd. Felly, wrth gwrs, swydd wirfoddol yw ynad lleyg yn dechnegol, lle y disgwylir i unigolion roi o leiaf 13 diwrnod y flwyddyn o'u hamser, sy'n golygu y gall nifer ohonynt gyflawni'r rôl hollbwysig hon ochr yn ochr â'u gwaith a'u cyfrifoldebau gofalu eu hunain. Daw’r ymgyrch recriwtio ar adeg hynod o enbyd, gan fod ystadegau ar gyfer mis Tachwedd 2021 yn dangos bod 372,000 o achosion heb eu clywed yn y llysoedd ynadon. Mae hefyd yn darparu cyfle yn awr i amrywio’r ynadaeth, o gofio, fis Ebrill diwethaf, fod ychydig dros wyth o bob 10 ohonynt dros 50 oed. Gwnsler Cyffredinol, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i hyrwyddo’r cyfle gwirfoddol hwn ymhlith ein pobl ifanc, ac yn arbennig felly yn ein cymunedau Cymraeg iaith gyntaf, i sicrhau bod y rheini sy'n gwneud y penderfyniadau hyn yn dod yn fwy cynrychioliadol o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu?
Diolch. Mae'n gwestiwn pwysig. Mae'n codi'r cwestiwn pam, mewn 10 mlynedd, gyda nifer yr ynadon bron wedi haneru, mai yn awr y rhoddir camau ar waith, a hithau mor hwyr yn y dydd, ac mewn ffordd mor gyfyngedig. Pam fod cymaint yn llai o ynadon nag o'r blaen? Ond rwy'n croesawu'r cam i recriwtio 4,000 o ynadon ychwanegol, ac wrth gwrs, o ganlyniad i COVID, mae camau’n cael eu cymryd hefyd i ehangu capasiti ynadon i ymdrin â mwy o achosion.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod ynadon yn cyflawni rôl hanfodol yn caniatáu i’n system gyfiawnder, sydd wedi'i thanariannu, weithredu? Ac mae arnom ddyled i'r holl bobl sy'n rhoi o'u hamser a'u harbenigedd. Credaf mai un ffactor a allai fod wedi cyfrannu at y gostyngiad hefyd yw cau cymaint o lysoedd ynadon. Mae pobl yn uniaethu â’u cymunedau, â’u llysoedd lleol, ac mae system y llysoedd ynadon bob amser wedi bod yn rhan o system gyfiawnder leol. Mae’r cysylltiad hwnnw rhwng cyfiawnder a’r gymuned wedi’i dorri.
Un peth y gallaf ei ddweud ynghylch un o'r pethau y credaf y gallwn eu gwneud a lle y gallwn weithio gyda Llywodraeth y DU—ac unwaith eto, mae'n fater y mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a minnau wedi bod yn gweithio arno ac yn ei drafod—yw dadgyfuno data fel ein bod yn gallu ei ddadansoddi. Nawr, gwyddom beth yw'r proffil oedran. Gwyddom hefyd fod oddeutu 55 y cant o ynadon yng Nghymru yn fenywod yn hytrach na dynion. Gwyddom hefyd fod oddeutu 5 y cant o gefndir lleiafrifol, ond nid oes gennym lawer mwy o fanylion na hynny. Nid ydym yn gwybod a yw rhai grwpiau ethnig wedi'u tangynrychioli. Nid ydym yn gwybod lle, yn benodol, y maent wedi’u lleoli, ac nid oes gennym y data sydd ei angen arnom yn fy marn i ar y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg. A chan ein bod yn awyddus i annog a gweld mwy o ddefnydd o'r Gymraeg yn ein system llysoedd, credaf ei bod yn bwysig gwybod hynny.
Gallaf ddweud bod y trafodaethau a gawsom wedi cael croeso mawr. Byddwn yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i nodi meini prawf y data angenrheidiol, a chredaf fod hynny’n enghraifft o'r cydweithredu cadarnhaol ac adeiladol sy’n mynd rhagddo ac y buom yn ei ddatblygu.