Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn dal i fynd drwy fanylion y Papur Gwyn ar godi'r gwastad, ond drwy eu defnydd o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, mae Gweinidogion y DU yn parhau i ddiystyru’r setliadau datganoli a throsolwg democrataidd y Senedd hon.