Pwerau Trethiant

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:03, 9 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Gwnsler Cyffredinol, ar ymweliad diweddar â Chymru, dywedodd Prif Weinidog y DU

'rhaid i lywodraethau datganoledig gymryd mwy o gyfrifoldeb dros godi eu cyllid eu hunain.'

A allech ddweud wrthym felly pa bwerau trethu newydd y mae Llywodraeth y DU wedi'u cynnig i Lywodraeth Cymru? Ac os na chynigiwyd unrhyw bwerau newydd, Gwnsler Cyffredinol, yn eich barn chi, beth a olygai'r Prif Weinidog pan ddywedodd y dylai Llywodraeth Cymru gymryd mwy o gyfrifoldeb dros godi ei chyllid ei hun?