Senedd Ieuenctid Cymru

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:05, 9 Chwefror 2022

Diolch am y cwestiwn. Mae’r Senedd Ieuenctid yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Senedd. Roeddem yn falch iawn gyda llwyddiant tymor cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru, a gyda brwdfrydedd ac angerdd y grŵp cyntaf o Aelodau Senedd Ieuenctid. Rydym newydd ethol yr ail garfan o Aelodau ac rwy'n edrych ymlaen at gadeirio'r cyfarfod llawn cyntaf ar 19 Chwefror. Yn rhithiol fydd y cyfarfod hwnnw, ond dwi'n gobeithio'n fawr y bydd yna gyfarfod o'r Senedd Ieuenctid yn cwrdd yn fuan iawn wedi hynny yn y Siambr yma.