Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac edrychaf ymlaen at y canlyniad a'r diweddariad o gyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid sydd newydd ei hethol. Fel llawer ohonom yma, rwy'n awyddus iawn i Aelodau ein Senedd Ieuenctid gael cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol barhaol, i adael eu marc ar wleidyddiaeth Cymru ac i adael eu marc a'u newid cadarnhaol ar fywyd cyhoeddus Cymru. Un o'r materion y mae pobl ifanc yn eu dwyn i fy sylw yn barhaus yn fy nghymuned yn Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r defnydd o blastig untro. A gaf fi ofyn i'r Comisiwn pa ystyriaeth y maent wedi'i rhoi i hwyluso'r gwaith o drosglwyddo'r maes polisi pwysig hwn fel y gall yr unigolion angerddol hyn wneud cynnydd ar ran pobl Cymru?