6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) — Rheolaethau rhent

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:24, 9 Chwefror 2022

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. [Torri ar draws.] Diolch am y croeso. Rhaid imi ddatgan diddordeb ar gychwyn y ddadl fel rhywun sydd ag eiddo arall gyda thenant yn byw ynddo fo. Felly, pam fy mod  i, o bawb, yn cyflwyno cynnig i reoli rhent? Yn syml, oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Mae yna argyfyngau enbyd yn digwydd ar hyd hanes ac maen nhw'n arwain at wasgfa ariannol sydd yn ei thro yn arwain at dlodi enbyd. Mae hyn yn wir yn ddieithriad, ac mae hanes yn dyst i’r ffaith. Ar adegau o argyfwng enbyd, mae llywodraethau yn gweithredu i ddangos eu bod nhw yno i amddiffyn ac i helpu drwy gynnig tarian yn erbyn yr elfennau gwaethaf.