Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 9 Chwefror 2022.
Gadewch inni gymryd un enghraifft amlwg o hanes. Yn dilyn yr ail ryfel byd, beth wnaeth Clement Attlee ac Aneurin Bevan? Fe aethon nhw ati i weithredu argymhellion adroddiad Ridley a chryfhau y rheolaethau rhent a dechrau ar raglen anferthol o adeiladu tai cyhoeddus. Fe soniodd Aneurin Bevan ei hun am yr angen i warchod tenantiaid. Ac mae pobl Cymru yn edrych arnom ni yma heddiw i wneud beth fedrwn ni i’w hamddiffyn rhag disgyn i dlodi yn wyneb heriau anferthol ar ôl-COVID. Dydyn ni ddim yn gwybod impact llawn COVID eto—fe ddaw yn gliriach wrth i amser fynd yn ei flaen—ond rydym ni’n dechrau gweld ei effaith andwyol yn barod, a hyn ar ben dros 10 mlynedd o lymder llethol. Mae cyflogau wedi methu â chadw i fyny efo chwyddiant, mae chwyddiant ar fin bwrw ei lefel uchaf ers 30 mlynedd, ac mae costau byw ar gynnydd. Ond, ar ben hyn, mae rhent wedi cynyddu yn fwy yng Nghymru nag yn yr un ardal arall o’r Deyrnas Gyfunol, gan weld cynnydd o bron i 13 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Mae dros hanner y plant sy’n byw mewn tai rhent yn byw mewn tlodi. Mae’r canran o bobl sy’n byw mewn tlodi yn y sector rhent yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Gyfunol. Mae Caerdydd yn ei chael hi'n arbennig o wael, efo’r Joseph Rowntree Foundation yn amcangyfrif fod nifer yn gwario 35 y cant o’u hincwm ar rent yn unig. Gall pobl ifanc ddim fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac mae rhestrau aros tai cymdeithasol yn hirfaith. Felly, yr unig ddewis ydy rhentu yn breifat neu, i rai, yn anffodus, byw efo mam a dad. Does dim syndod bod ffigurau’r ONS yn dangos bod treian o bobl rhwng 20 a 30 oed yn byw efo’u rhieni yma yng Nghymru. Mae Shelter Cymru wedi gweld rhenti yn dyblu mewn mis mewn rhai achosion, ac Acorn yng Nghaerdydd yn sôn am landlordiaid yn cynyddu rhent dros £100 y mis i rai tenantiaid. Heb gamau ymyrraeth, yna byddwn yn gweld mwy a mwy o bobl yn canfod eu hun yn byw mewn tlodi neu hyd yn oed yn ddigartref.
Gwn y bydd rhai yn cael braw o ddarllen y cynnig, ac yn reddfol yn gwrthwynebu, gan gyfeirio at enghreifftiau ble mae polisi o dan y teitl 'rheolaethau rhent' wedi methu. Ac mae hynny’n wir; mae yna arbrofion wedi methu. Ond pan eu bod nhw wedi eu llunio yn gywir, wedi cael eu targedu ac wedi cael eu cyplysu a'u cyd-blethu â pholisïau eraill llwyddiannus, yna mae rheolaethau rhent yn bolisi sydd yn llwyddo ac yn boblogaidd. Ac mae'n boblogaidd heddiw, efo dros dwy ran o dair o bobl yn cefnogi cyflwyno polisi o’r fath yn y Deyrnas Gyfunol, yn ôl pôl piniwn diweddar gan YouGov. Noder nad ydy’r cynnig yn cyflwyno math arbennig o system reoli rhent, ond mae o yn nodi yr angen i osod rheolaeth ar renti i lefelau sy’n ateb y gallu i dalu.
Gadewch inni edrych ar rai enghreifftiau. Dydy Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon ddim yn nodedig am fod yn un arbennig o adain chwith; yn wir, mae'n Llywodraeth mwy adain dde. Ond yno, maen nhw wedi cyflwyno camau i reoli rhent, efo adolygiad rhent heb fod yn llai na bob dwy flynedd a chyfnod 90 niwrnod o notis o’r newid hwnnw. Mae yna barthau pwysau rhent yno ar gyfer ardaloedd ble mae pwysau yn arbennig o uchel ac yn golygu na all rhent gynyddu yn uwch na chwyddiant yn y parthau hynny. Yng Nghatalunya, mae'r Llywodraeth yno wedi cyflwyno trefn sy’n cyfyngu ar y rhent i garfan benodol o bobl, er enghraifft os ydy’r rhent yn gydradd i 30 y cant neu'n fwy o’r incwm. Ac, wrth gwrs, mae rheolau rhentu mewn bodolaeth mewn gwahanol daleithiau ar draws yr Unol Daleithiau, ac maen nhw wedi cael eu cyflwyno mewn modd sydd wedi eu targedu yn bwrpasol.
Mae’n amlwg felly fod cynnal gwaith paratoadol a pharatoi manwl yn gwbl allweddol i sicrhau llwyddiant polisi o'r fath. Dyna pam fy mod i’n hynod o falch fod y Llywodraeth yma heddiw wedi dod i gytundeb â ni ym Mhlaid Cymru i edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno rheolaethau rhent fel rhan o becyn ehangach mewn Papur Gwyn ar dai. Dyma fydd y cam cyntaf tuag at ddeddfu a sicrhau bod yna dai tecach yma yng Nghymru i'n pobl ni.
Mae’r cynnig yma felly yn gyfle cychwynnol i ddechrau gwyntyllu’r potensial ar gyfer system deg o reoli rhent, a'r cyfraniad y gallai wneud i'n nod ehangach o warantu hawliau tenantiaid—hawliau pobl i fyw efo to uwch eu pennau heb y bygythiad o ddigartrefedd yn lluchio cysgod dros eu bywydau. Mae o hefyd yn ddatganiad o egwyddor sylfaenol—bod yna anghyfiawnder sylfaenol yn nhrefniadaeth bresennol ein cyfundrefn dai, sef bod pobl yn byw mewn tlodi tra bod carfan fach iawn o bobl yn gwneud elw ar eu cefnau.
Dwi'n gofyn i Aelodau o'r Senedd, felly, gefnogi'r cynnig yma heddiw, a grymuso'r Llywodraeth i fwrw ati â'r gwaith paratoadol, er mwyn rhoi'r seiliau mewn lle ar gyfer galluogi cyflwyno system o reoli rhent, law yn llaw â gwaith ehangach i sicrhau bod gan bawb yr hawl i gartref yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.