7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau canser

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:01, 9 Chwefror 2022

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch iawn o gael cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ac i gyflwyno'n ffurfiol ein gwelliant ni. O ran y prif gynnig, mi fyddwn ni'n cefnogi'r prif gynnig heddiw, wrth gwrs. Yn ogystal â bod yn ddatganiad o bryder go iawn am gyflwr gwasanaethau iechyd yn gyffredinol ar ôl dwy flynedd o bandemig, mae yna elfennau yn y cynnig dwi yn sicr wedi rhoi sylw iddyn nhw dros gyfnod o flynyddoedd bellach: mor annigonol yw'r datganiad safon fel modd o yrru gwelliannau i wasanaethau canser, a'r angen i fuddsoddi yn y gweithlu canser i gefnogi cleifion drwy eu triniaeth, ac ati.

Mae yna ddau beth dwi am roi sylw iddyn nhw yn yr ychydig funudau nesaf. Yn gyntaf, ein gwelliant ni a'r angen i gwblhau'r gwaith yna, ar frys, o sefydlu canolfannau diagnosis cyflym ar draws Cymru er mwyn gwneud yn siŵr bod yr isadeiledd yna yn ei le ar gyfer adnabod a thrin canser yn y ffordd fwyaf cyflym posibl. Allwn ni ddim gor-bwysleisio'r angen am ddiagnosis cyflym a'r budd sy'n dod o sicrhau diagnosis cyflym, ac wrth gwrs mae'r pandemig yr ydym ni wedi byw drwyddo wedi creu argyfwng ehangach, o bosibl. Yn ôl yr ystadegau, mae rhyw 1,700 yn llai o bobl nag y byddem ni wedi'u disgwyl wedi dechrau triniaeth canser yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

Cymru oedd y wlad gyntaf—mi allwn ni ymfalchïo yn hynny—y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i dreialu canolfannau diagnostig brys. Mae yna rai yn bodoli eisoes, mae eraill ar y gweill, a dwy ardal wedyn—Powys a Chaerdydd a'r Fro—lle nad oes yna ddim cynlluniau mewn lle. Mi fyddwn i'n gwerthfawrogi diweddariad gan y Gweinidog heddiw ar y gwaith i sicrhau bod canolfannau yn mynd i fod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru. Does yna ddim lle i unrhyw fath o loteri cod post pan ddaw hi at wasanaethau canser, a dyna fyrdwn ein gwelliant ni heddiw.

Yr ail elfen dwi am wneud sylwadau arni hi—ac mae yna gyfeiriad ato fo ddwywaith yn y cynnig gwreiddiol—ydy'r diffyg amlwg iawn yma o gynllun canser, neu ddiffyg strategaeth canser cenedlaethol, a allai sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn adeiladu'r mathau o wasanaethau canser rydyn ni eu hangen yng Nghymru. Mae'n rhaid cofio ein bod ni'n wynebu heriau enfawr yma yng Nghymru. Mae rhyw 20,000 o bobl, rhywbeth felly, yn cael diagnosis canser yng Nghymru yn flynyddol, mae o bosibl rhyw 170,000 yn byw efo canser, ac mae'r lefel o anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol—rhywbeth rydyn ni wedi'i drafod yn y Siambr yma yn ddiweddar—yn golygu bod cyfraddau goroesi ar gyfer rhai mathau o ganser yn salach yng Nghymru nag yng ngweddill yr ynysoedd yma, ac ar draws Ewrop.

Ac yn yr Alban a Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon yn fuan, mae yna gynlluniau canser, cynlluniau sy'n gosod targedau clir, yn rhoi ffocws clir ar gyfer datblygu a chefnogi gwasanaethau. Rhyw gasgliad o wahanol raglenni a fframweithiau sydd gennym ni yma yng Nghymru, a dydy o ddim yn ddigon da. Os ydyn ni o ddifrif am fynd i'r afael â chanser, yna mae angen strategaeth. Beth gawson ni gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth y llynedd, ar ôl i'r cynllun cyflawni canser ddod i ben ychydig fisoedd cyn hynny, oedd datganiad ansawdd ar gyfer canser. Nid cynllun a strategaeth i wella diagnosis, triniaeth, ymchwil canser yng Nghymru, ond rhywbeth heb y manylder sydd ei angen, sydd ddim yn cynnig yr atebolrwydd sydd ei angen, na'r camau gweithredu, na'r amcanion, na'r amserlen sydd eu hangen, ac sydd heb y weledigaeth dwi'n meddwl roedden ni ei hangen beth bynnag, heb sôn am y weledigaeth sydd ei hangen rŵan i adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig.

Dirprwy Lywydd, gair yn sydyn gen i am welliant y Llywodraeth. Pleidleisio yn erbyn a fyddwn ni. Dydy o'n gwneud dim i gynnig atebion i'r creisis canser rydyn ni'n ei wynebu yng Nghymru—rhyw restr o beth mae'r Llywodraeth yn dweud maen nhw wedi ei wneud sydd gennym ni. Ac, er mai dim ond gofyn i ni nodi'r rhestr honno mae'r Llywodraeth, sut allwn ni ei gefnogi pan mai'r cyfan ydy o yw rhestr o bethau sy'n osgoi mynd i'r afael â'r sefyllfa o roi cynllun o sylwedd mewn lle? Dwi'n reit siŵr bod y Gweinidog eisiau i'n gwasanaethau canser ni fod y gorau y gallan nhw fod. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn dymuno gweld hynny, ond mae gen i ofn na welwn ni hynny heb strategaeth gadarn mewn lle. Felly, dwi'n gofyn eto iddi heddiw i wrando ar y dros 20 o elusennau a sefydliadau sy'n rhan o Gynghrair Canser Cymru sy'n annog Llywodraeth Cymru yn gryf i lunio strategaeth ganser gynhwysfawr i Gymru.