Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 9 Chwefror 2022.
Hoffwn ddiolch i Russell George a fy nghyd-Aelodau Ceidwadol am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn i'w drafod heddiw. Mae canser yn rhywbeth sydd, yn anffodus, yn cyffwrdd â phawb mewn cymdeithas, boed hynny drwy aelod o'r teulu, ffrind, rhywun lle'r ydym yn byw, mae gan bob un ohonom stori ynglŷn â sut y mae canser wedi effeithio arnom ni neu rywun rydym yn ei garu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Effeithiwyd ar fy nheulu i gan ganser y fron a chanser y croen, a chollodd fy nwy ffrind gorau eu tadau i ganser y prostad. Felly, rwyf i, fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon ac yng Nghymru, yn gwybod yn rhy dda am y niwed y mae'n ei achosi i deulu a pha mor hanfodol yw cael diagnosis yn gynnar fel bod pawb yn cael y cyfle gorau i oroesi.
Canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, gyda thua 19,600 o bobl, yn drasig iawn, yn cael diagnosis o ganser bob blwyddyn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sefyll dros ein hetholwyr a sicrhau bod gwasanaethau canser Cymru cystal ag y gallant fod. Er bod cyfraddau goroesi wedi gwella'n fawr dros y degawdau diwethaf, mae'r DU yn dal i lusgo ar ôl gwledydd cymharol yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Gellir dweud yr un peth yma yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi wedi gwella yn ystod y degawdau diwethaf, ond nid ydynt yn ddigon da o hyd, gyda chyfraddau goroesi un flwyddyn ar gyfer canserau'r stumog, y colon, y pancreas, yr ysgyfaint a'r ofari yn llawer is na chyfartaledd y DU. Mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng Nghymru, wrth gwrs, wedi'u dwysáu a'u gwaethygu gan y pandemig, ond gwyddom bellach, yn y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021, fel y dywedwyd, fod 1,700 yn llai o bobl wedi dechrau triniaeth ar gyfer canser yng Nghymru.
Mae'r heriau y mae gwasanaethau canser yn eu hwynebu yn golygu bod angen i'r Llywodraeth hon weithredu ar frys ac yn bendant, nid yn unig i ddod â gwasanaethau yn ôl i lle'r oeddent cyn y pandemig, ond i drawsnewid ein gwasanaethau canser yn llwyr fel eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain—gwasanaethau ymatebol a hygyrch wedi'u digidoli, ac ar-lein lle y bo hynny'n bosibl—er mwyn gwella canlyniadau canser a chyfraddau goroesi yn y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, wrth i ganser esblygu, mae angen i ni esblygu hefyd ac mae angen i ni fuddsoddi'n helaeth mewn technolegau a thriniaethau newydd. Mae angen i ni sicrhau mai Cymru, o bosibl, sy'n arwain yn rhai o'r meysydd hyn, mai ni yw'r rhai sy'n datblygu'r triniaethau a thechnolegau newydd hyn. Mae arloesi'n gwbl allweddol wrth fynd i'r afael â chanser a gwella canlyniadau, ac mae angen inni fuddsoddi'n briodol hefyd mewn cyllido ac ehangu'r gronfa mynediad at driniaethau yma yng Nghymru. Mae'r pandemig wedi dangos i ni beth y gallwn ei gyflawni. Rhaid inni sicrhau ein bod yn meddwl yn fwy uchelgeisiol er mwyn ymladd y lladdwr mawr hwn.
Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, gwelwn ffigurau aros am driniaeth canser gwaeth nag erioed. Mae fy etholwyr yn teimlo eu bod yn cael cam. Rwy'n falch o weld y cyhoeddiad yn fy rhanbarth, serch hynny, ynglŷn â chanolfan ragoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, cyhoeddiad sydd i'w groesawu'n fawr. Bydd hwn yn gam hollbwysig gan ein bod i gyd yn gwybod na fydd canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru yn gwella heb gael diagnosis amserol a'r defnydd o'r triniaethau diweddaraf a mwyaf effeithiol. Mae hygyrchedd yn allweddol, felly mae angen inni weld mwy o gyhoeddiadau fel hyn, gyda chanolfannau wedi'u gwasgaru'n gyfartal ledled Cymru, fel y dywedwyd eisoes o'r meinciau eraill, ond teimlaf fod angen ailadrodd: mae arnom angen mynediad at driniaeth yn gyfartal ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, sy'n cael eu hesgeuluso mor aml.
Yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr Arlywydd Biden y gallwn roi diwedd ar ganser fel y gwyddom amdano. Fe wnaeth Sajid Javid ddatgan rhyfel ar ganser. Weinidog, mae'n gwneud imi ofyn: beth yw ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru? Pryd y gwelwn strategaeth ganser gynhwysfawr i Gymru? Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'n gyson am gynllun cyflawni neu strategaeth newydd ar gyfer canser, cynllun gweithlu ar gyfer y gweithlu canser gyda thargedau y gellir eu cyflawni, cyflwyno canolfannau diagnosis cyflym ar gyfer canser ar fyrder, ehangu'r gronfa mynediad at driniaethau, cefnogi cleifion mewn ffyrdd fel darparu gofal deintyddol am ddim, fel y dywedwyd. Mae arnom angen strategaeth, Weinidog. Yn syml iawn, mae angen inni weld llawer mwy o fanylion ac uchelgais gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, ac mae angen inni wella mesurau ataliol hefyd—gordewdra, alcohol, ysmygu, ac yn y blaen. Mae arnom angen polisïau sy'n symud o'r diwedd tuag at agenda ataliol yn ogystal ag un adweithiol. Diolch yn fawr.