Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar bosibilrwydd, ar faint o botensial sydd wedi'i wreiddio yn ein cenedl a'n hadnoddau naturiol, ond potensial a gedwir allan o'n cyrraedd. Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau, wrth agor ein dadl, ar y camau y gallem eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a chyflawni ein potensial ynni.
Gadewch i ni ystyried Ystâd y Goron. Mae yna thema a fydd yn codi dro ar ôl tro yn y ddadl hon fod pethau'n wahanol yn yr Alban. Yn y wlad honno, cafodd Ystâd y Goron ei datganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2017. Pe baem yn dilyn yr un llwybr, byddai refeniw proffidiol o brydlesi Ystâd y Goron yn mynd i Drysorlys Cymru yn hytrach na San Steffan, a choffrau'r Frenhines yn wir. Yn hytrach, mae rheolaeth Ystâd y Goron dros ein gwely môr a darnau mawr o dir yn golygu y gallai Cymru fod yn colli cyfle i elwa ar y rhuthr am aur gwyrdd sy'n creu budd i'r Alban ar hyn o bryd. Mae rhai amcangyfrifon yn dangos y gallai Llywodraeth y DU godi hyd at £9 biliwn dros y degawd nesaf yn unig o werthu lleiniau gwely môr i ddatblygwyr ffermydd gwynt—y cyfan yn botensial, yn arian na allwn ni fanteisio arno. Cynhyrchodd tiroedd Ystâd y Goron £8.7 miliwn mewn refeniw y llynedd, ac mae prisiad portffolio morol Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Mae hwn yn arian a fyddai'n galluogi Cymru i adeiladu a datblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy ein hunain yng Nghymru a chadw cyfoeth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na gwerthu ein hasedau gwerthfawr i'r cynigydd tramor uchaf. Mae'n warthus fod yr adnoddau hyn wedi'u cloi rhagom ac o fudd i eraill yn lle hynny, oherwydd nid yn unig y mae Ystâd y Goron yn atal perchnogaeth leol ar dir Cymru ac yn mynd â refeniw allan o Gymru, mae hefyd yn cefnogi economïau eraill i elwa ar asedau Cymru.
Talodd Ystâd y Goron £345 miliwn i Lywodraeth y DU yn 2019-20. Gostyngodd refeniw net yr ystâd 29.9 y cant yn 2020 oherwydd y pandemig, er na welodd y frenhines ostyngiad yn y grant sofran, gan nad yw'r grant yn gostwng pan fydd elw'n gostwng, er ei fod yn codi pan fydd elw'n cynyddu. A thrwy'r amser, y bobl sy'n dioddef o ganlyniad yw pobl Cymru. Mae'n dilyn, Ddirprwy Lywydd, y dylem adnewyddu galwadau am ddatganoli pwerau ynni'n llawn, gan ein bod ar hyn o bryd yn cael ein llyffetheirio gan seilwaith grid annigonol a threfn reoleiddio sy'n galw am feddwl mwy strategol. Mae angen inni reoli ac elwa o adnoddau naturiol ein gwlad a chael gallu i ddatblygu prosiectau mwy os ydym am gyrraedd sero net a chyflawni dros ein pobl a'n cymunedau. Oherwydd bydd hyd yn oed yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn cael ei waethygu yng Nghymru gan y ffaith nad oes gennym bwerau dros adnoddau naturiol. Un eironi sylfaenol am farchnad ynni ryddfrydig newydd y DU yw ei bod yn gweld cwmnïau ynni a gefnogir gan wladwriaethau o bob rhan o dir mawr Ewrop yn ennill refeniw trwy ddefnyddio adnoddau Cymru, sydd, yn ei dro, yn helpu i ariannu eu gwasanaethau cyhoeddus hwy yn ôl adref. Cymru fel man dirprwyol, endid sydd o fudd i eraill, nid iddi hi ei hun.
Ac ar yr un mater, rwyf am orffen drwy ddweud gair am blannu coed. Mae llwybr Cymru tuag at sero net yn cynnwys targed o blannu 180,000 hectar ychwanegol o goed erbyn 2050, ond daeth pryderon i'r amlwg am ffermydd Cymru yn cael eu prynu gan gorfforaethau rhyngwladol o'r tu allan i Gymru i blannu coed fel ffordd o wrthbwyso eu hallyriadau carbon. Unwaith eto, mae hyn yn cloi ein tirweddau o dan reolaeth pobl na fyddant byth yn gosod troed yng Nghymru o bosibl. A gall y plannu coed hwn effeithio'n ddifrifol ar gynhyrchiant bwyd, ystyriaethau cymdeithasol a'r amgylchedd ehangach. Mae George Monbiot wedi cyfeirio ato fel yr ymgyrch fawr i fachu tir oherwydd yr hinsawdd, tra bo'r academydd Dr Thomas Crowther yn ei disgrifio fel ymgyrch dorfol gorfforaethol i blannu coed sy'n niweidio natur. Mae fel rhywbeth allan o nofel ddystopaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod problem yma. Mae'n ffenomenon sy'n rhan o duedd fyd-eang ehangach. Ac yn sicr, mae angen adolygu'r gofynion asesu effaith amgylcheddol er mwyn cryfhau'r amddiffyniadau i ystyriaethau dynol, amaethyddol, cymdeithasol a hyd yn oed ieithyddol. Yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rydym cyn gyfoethoced mewn adnoddau naturiol ag yr ydym gyda'n diwylliant a'n hanes. Caiff yr adnoddau naturiol hynny eu defnyddio ar hyn o bryd fel ffordd o gyfyngu ar ein potensial. Ni allwn adael i'r ymgyrch fawr i fachu enillion barhau. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.