– Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
Eitem 8 y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar adnoddau Cymru. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Cynnig NDM7912 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r enghreifftiau niferus o gyfoeth sy'n deillio o adnoddau Cymru yn cael ei fwynhau y tu allan i Gymru, fel asedau Ystâd y Goron, ynni adnewyddadwy, cynhyrchu bwyd a phlannu coed ar dir amaethyddol.
2. Yn cytuno:
a) bod hyn yn cynrychioli tuedd hanesyddol a chyfoes o echdynnu a manteisio ar adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol;
b) y dylid cadw'r asedau hyn, a'r manteision sy'n deillio ohonynt, yng Nghymru, er budd pawb sy'n byw yng Nghymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar bosibilrwydd, ar faint o botensial sydd wedi'i wreiddio yn ein cenedl a'n hadnoddau naturiol, ond potensial a gedwir allan o'n cyrraedd. Byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau, wrth agor ein dadl, ar y camau y gallem eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a chyflawni ein potensial ynni.
Gadewch i ni ystyried Ystâd y Goron. Mae yna thema a fydd yn codi dro ar ôl tro yn y ddadl hon fod pethau'n wahanol yn yr Alban. Yn y wlad honno, cafodd Ystâd y Goron ei datganoli i Lywodraeth yr Alban yn 2017. Pe baem yn dilyn yr un llwybr, byddai refeniw proffidiol o brydlesi Ystâd y Goron yn mynd i Drysorlys Cymru yn hytrach na San Steffan, a choffrau'r Frenhines yn wir. Yn hytrach, mae rheolaeth Ystâd y Goron dros ein gwely môr a darnau mawr o dir yn golygu y gallai Cymru fod yn colli cyfle i elwa ar y rhuthr am aur gwyrdd sy'n creu budd i'r Alban ar hyn o bryd. Mae rhai amcangyfrifon yn dangos y gallai Llywodraeth y DU godi hyd at £9 biliwn dros y degawd nesaf yn unig o werthu lleiniau gwely môr i ddatblygwyr ffermydd gwynt—y cyfan yn botensial, yn arian na allwn ni fanteisio arno. Cynhyrchodd tiroedd Ystâd y Goron £8.7 miliwn mewn refeniw y llynedd, ac mae prisiad portffolio morol Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Mae hwn yn arian a fyddai'n galluogi Cymru i adeiladu a datblygu ein diwydiant ynni adnewyddadwy ein hunain yng Nghymru a chadw cyfoeth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na gwerthu ein hasedau gwerthfawr i'r cynigydd tramor uchaf. Mae'n warthus fod yr adnoddau hyn wedi'u cloi rhagom ac o fudd i eraill yn lle hynny, oherwydd nid yn unig y mae Ystâd y Goron yn atal perchnogaeth leol ar dir Cymru ac yn mynd â refeniw allan o Gymru, mae hefyd yn cefnogi economïau eraill i elwa ar asedau Cymru.
Talodd Ystâd y Goron £345 miliwn i Lywodraeth y DU yn 2019-20. Gostyngodd refeniw net yr ystâd 29.9 y cant yn 2020 oherwydd y pandemig, er na welodd y frenhines ostyngiad yn y grant sofran, gan nad yw'r grant yn gostwng pan fydd elw'n gostwng, er ei fod yn codi pan fydd elw'n cynyddu. A thrwy'r amser, y bobl sy'n dioddef o ganlyniad yw pobl Cymru. Mae'n dilyn, Ddirprwy Lywydd, y dylem adnewyddu galwadau am ddatganoli pwerau ynni'n llawn, gan ein bod ar hyn o bryd yn cael ein llyffetheirio gan seilwaith grid annigonol a threfn reoleiddio sy'n galw am feddwl mwy strategol. Mae angen inni reoli ac elwa o adnoddau naturiol ein gwlad a chael gallu i ddatblygu prosiectau mwy os ydym am gyrraedd sero net a chyflawni dros ein pobl a'n cymunedau. Oherwydd bydd hyd yn oed yr argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn cael ei waethygu yng Nghymru gan y ffaith nad oes gennym bwerau dros adnoddau naturiol. Un eironi sylfaenol am farchnad ynni ryddfrydig newydd y DU yw ei bod yn gweld cwmnïau ynni a gefnogir gan wladwriaethau o bob rhan o dir mawr Ewrop yn ennill refeniw trwy ddefnyddio adnoddau Cymru, sydd, yn ei dro, yn helpu i ariannu eu gwasanaethau cyhoeddus hwy yn ôl adref. Cymru fel man dirprwyol, endid sydd o fudd i eraill, nid iddi hi ei hun.
Ac ar yr un mater, rwyf am orffen drwy ddweud gair am blannu coed. Mae llwybr Cymru tuag at sero net yn cynnwys targed o blannu 180,000 hectar ychwanegol o goed erbyn 2050, ond daeth pryderon i'r amlwg am ffermydd Cymru yn cael eu prynu gan gorfforaethau rhyngwladol o'r tu allan i Gymru i blannu coed fel ffordd o wrthbwyso eu hallyriadau carbon. Unwaith eto, mae hyn yn cloi ein tirweddau o dan reolaeth pobl na fyddant byth yn gosod troed yng Nghymru o bosibl. A gall y plannu coed hwn effeithio'n ddifrifol ar gynhyrchiant bwyd, ystyriaethau cymdeithasol a'r amgylchedd ehangach. Mae George Monbiot wedi cyfeirio ato fel yr ymgyrch fawr i fachu tir oherwydd yr hinsawdd, tra bo'r academydd Dr Thomas Crowther yn ei disgrifio fel ymgyrch dorfol gorfforaethol i blannu coed sy'n niweidio natur. Mae fel rhywbeth allan o nofel ddystopaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod problem yma. Mae'n ffenomenon sy'n rhan o duedd fyd-eang ehangach. Ac yn sicr, mae angen adolygu'r gofynion asesu effaith amgylcheddol er mwyn cryfhau'r amddiffyniadau i ystyriaethau dynol, amaethyddol, cymdeithasol a hyd yn oed ieithyddol. Yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rydym cyn gyfoethoced mewn adnoddau naturiol ag yr ydym gyda'n diwylliant a'n hanes. Caiff yr adnoddau naturiol hynny eu defnyddio ar hyn o bryd fel ffordd o gyfyngu ar ein potensial. Ni allwn adael i'r ymgyrch fawr i fachu enillion barhau. Edrychaf ymlaen at glywed y ddadl.
Galwaf nawr ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i gynnig yn ffurfiol y gwelliant.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision mwyaf posibl o adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle mae penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.
2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid rhyngwladol.
3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r manteision economaidd sy’n gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu gwasgaru, gan gynnwys yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Yn ffurfiol.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Wrth gwrs, mae ein hadnoddau Cymreig yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi swyddi yng Nghymru. Er enghraifft, mae gan RWE, sy'n gweithredu tua 3 GW o gynhyrchiant ynni yng Nghymru ar draws 12 safle, bortffolio amrywiol o wynt ar y tir ac ar y môr, dŵr a nwy, ac mae'n cyflogi tua 200 o bobl yn uniongyrchol yn eu swyddfeydd ym Maglan, Llanidloes, Dolgarrog a phorthladd Mostyn. Yn wir, mae'r Ceidwadwyr Cymreig am adeiladu ar fanteision gwneud Cymru'n sero net drwy greu 15,000 o swyddi gwyrdd newydd.
Nawr, credwn fod Ystâd y Goron yn chwarae rhan bwysig ac allweddol yma yng Nghymru, megis rheoli tua 65 y cant o flaendraeth a gwely afon Cymru, ac mae hyn yn cynnwys nifer o borthladdoedd, megis Aberdaugleddau, perchnogaeth ar dros 50,000 erw o ucheldir a thir comin Cymru, ac maent yn gyfrifol am oddeutu 250,000 erw o fuddiannau mwynau crai ac yn rheoli'r hawliau i ddyddodion aur ac arian.
Nawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru fis diwethaf—ac rwy'n cytuno—'Os nad yw wedi torri, peidiwch â'i drwsio.' Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Plaid Cymru, heddiw, ddarparu unrhyw dystiolaeth ystyrlon nad yw Ystâd y Goron yn gweithredu'n effeithiol.
Nawr, rwyf wedi gwneud fy ymchwil ar hyn, a'r prif bethau a ddysgais oedd hyn: er enghraifft, yn ystod 2021, diolch i Ystâd y Goron, cynyddodd capasiti gweithredol cronnol yn y sector gwynt ar y môr i 9.61 GW. Roedd canlyniad rownd 4 yn darparu potensial ar gyfer hyd at 8 GW o gapasiti. Cynyddodd prisiad y portffolio morol yn sylweddol—[Torri ar draws.]—cewch eich tro mewn munud, Weinidog—o £49.2 miliwn i £549.1 miliwn. Cyrhaeddwyd carreg filltir i'r sector gwynt ar y môr yng Nghymru yn sgil llofnodi cytundeb prydles ar gyfer prosiect arddangos gwynt arnawf arfaethedig 96 MW Erebus.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, ewch chi.
Pam y mae'n gweithio i'r Alban ac na fyddai'n gweithio i Gymru?
Wel, gadewch inni fod yn onest, nid yw Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd—. Os meddyliwch am y peth, rydych yn eithaf aml yn—. Yma, clywn gymaint yn erbyn Llywodraeth y DU, rydym hyd yn oed yn clywed pethau yn erbyn y Goron. Felly, i mi, pam y credwch y byddai'n gweithio yma am ei fod yn gweithio yn yr Alban? Mae—. Rhun, dywedwch wrthyf os gwelwch yn dda: ble nad yw'n gweithio yma?
Wel, os derbyniwch ymyriad arall, mae Ystâd y Goron yr Alban newydd gyhoeddi prydlesi ar gyfer 25 GW—llwyth syfrdanol o gynhyrchiant gwynt ar y môr—oherwydd cânt eu hysgogi i wneud hynny am mai hwy sy'n elwa yn y pen draw o hynny. Fe gewch eich ysgogi i'w wneud am mai gennych chi y mae'r fantais a'r pwerau i'w wneud. Dyna pam y mae'n gweithio.
Lle y byddwn yn cytuno â chi yw nad yw Llywodraeth Cymru yn cael ei hysgogi'n arbennig i wneud unrhyw beth ar hyn, ond dyna ni. [Torri ar draws.]
Cyflawnwyd carreg filltir i sector gwynt ar y môr Cymru gyda llofnodi cytundeb ar gyfer prydlesu—. O, rwyf eisoes wedi dweud hynny. Cynigiwyd cyfle parhaus i gael mynediad at wely'r môr ar gyfer prosiectau tonnau neu ffrwd lanw, a chyflenwyd 683,000 tunnell o agregau morol i'n porthladdoedd yng Nghymru. Yn wir, ceir tystiolaeth real a dogfennol o Ystâd y Goron yn gweithio'n llwyr er lles gorau Cymru. Maent yn rhoi hawliau tirfeddianwyr dros y blaendraeth yn y Rhyl i Gyngor Sir Ddinbych i gynorthwyo mewn cynllun amddiffyn rhag llifogydd ar lan y môr sy'n werth £27.5 miliwn i ddiogelu 1,650 o gartrefi yn nwyrain y dref, a gwaith, er enghraifft, gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith ar weithredu cynllun morol cenedlaethol Cymru.
Mae Ystâd y Goron yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i reoli ein hadnoddau yng Nghymru, felly pam peryglu'r llwyddiant hwnnw drwy roi hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau gweinyddiaeth aflwyddiannus Llywodraeth Cymru sy'n amlwg yn cael ei chynnal gan Blaid Cymru? Dylai eich clymblaid ganolbwyntio ar y llanast y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi ei wneud. Mae gennych darged ar gyfer plannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050, ac eto gallai hynny arwain at goedwigo 3,750 o ffermydd teuluol yng Nghymru.
Nawr, pan fynegais bryderon am hyn yn y Senedd, dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, na ddylai cyrraedd targedau creu coetiroedd effeithio ar gymunedau na newid y math o dirfeddianwyr, ac eto mae'n gwneud hynny. Mae'r dystiolaeth yn cynyddu. Mae'r cymoedd yn newid i lystyfiant, mae coedwigoedd yn gwthio ffermwyr allan. Mae ffigurau a gafwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru wedi dangos bod 75 y cant o'r ceisiadau coedwigo yng Nghymru ar gyfer dros 50 hectar o blannu yn dod gan elusennau a chwmnïau preifat yn Lloegr. Bu cynnydd o 450 y cant yn nifer y ceisiadau asesu effaith amgylcheddol coedwigo i CNC rhwng 2015 a 2021, ac eto dim ond 20 y cant o geisiadau a ddaeth gan unigolion neu fusnesau preifat yma yng Nghymru.
Rydym yn anelu i'r un cyfeiriad â Seland Newydd, lle'r arweiniodd eu cynllun masnachu allyriadau at gynnydd cyflym yn y tir fferm da a brynwyd gan fuddsoddwyr carbon gyda'r bwriad o werthu gwrthbwysiadau carbon yn y dyfodol drwy greu coedwigoedd. O fewn cyfnod o dair wythnos, deallaf fod 80,000 o unedau stoc wedi'u colli yn y rhan ddeheuol o Ynys y Gogledd i blannu coed, gyda dwy ran o dair ohono'n eiddo i gwmnïau tramor a bydd yn costio tua $35 miliwn i'r ardal yn sgil cynhyrchiant a gollwyd. Nid dyna'r dyfodol rwyf ei eisiau i Gymru, felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a'r gwelliant heddiw. Ond hoffwn gloi drwy ofyn i'r Senedd weithio'n drawsbleidiol i fynd ar drywydd y syniad o sefydlu comisiwn pontio cyfiawn, er mwyn sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar ein cymunedau gwledig ac yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg, sy'n ffynnu'n hanesyddol yng nghefn gwlad Cymru, ac rwy'n ailadrodd: rydym yn llawer gwell ein byd trwy adael i Ystâd y Goron ofalu amdanom yng Nghymru, fel y maent yn ei wneud mor dda.
Gaf i ddechrau drwy ddatgan diddordeb fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Gaerfyrddin? Dwi'n hynod o falch o allu cyfrannu i'r ddadl hon. Mae ecsbloetio adnoddau naturiol Cymru gan San Steffan yn fater emosiynol a hanesyddol iawn. Mae'r math hwn o economi echdynnol, hynny yw, economi extractive, wedi digwydd ers canrifoedd, gyda'n glo, ein llechi, dŵr, trydan, tai ar gyfer twristiaid, ac yn fwy diweddar ein tir amaethyddol ar gyfer plannu coed. Mae creithiau ffisegol y rheibio hwn yn dal i nodweddu ein tirwedd trwy'r tipiau glo, y tomennu llechi, ein cronfeydd dŵr, y tai gwyliau gwag, di-olau yn ystod y gaeaf, ac yn y coed lle bu cymdogaeth.
Yn mhob un o'r enghreifftiau hyn, mae cyfoeth ein hadnoddau naturiol wedi mynd allan o Gymru, a'n gadael o hyd ymhlith un or gwledydd tlotaf yn Ewrop. Ond meddyliwch pa mor gyfoethog y gallai Cymru fod petai gennym reolaeth ddeddfwriaethol dros yr adnoddau naturiol hyn. Fel mater o egwyddor, yn fy marn i, wrth galon ein holl bolisïau fel Senedd, dylid adeiladu cyfoeth cymunedol a pherchnogaeth leol ar economi a chyfalaf naturiol Cymru.
Gadwech inni ystyried adnoddau Ystâd y Goron, fel rŷn ni wedi clywed yn barod, fel enghraifft. Yn fy marn i, dylid datganoli asedau tiriogaethol Ystâd y Goron i'r lle hwn, a dod â'n hadnoddau naturiol a'r rhenti sy'n cael eu codi yn nes at adref, er mwyn creu incwm i'w ddefnyddio er lles pobl Cymru. Gellid wedyn defnyddio'r elw a ddaw o'r ystâd er mwyn ymateb i flaenoriaethau economaidd a chymdeithasol Cymru.
Mae Ystâd y Goron, fel rŷn ni wedi clywed, yn berchen ar ryw 65 y can o wely'r môr a thiroedd ar hyd yr arfordir o gwmpas Cymru. Yn ôl yr amcangyfrif diwethaf, mae'r adnoddau hyn yn werth rhyw £600 miliwn. Dychmygwch am eiliad yr elw a fyddai'n gallu dod i Gymru drwy fuddsoddi mewn cynlluniau ynni gwyrdd cyffrous ar y môr fel tyrbinau gwynt a'r morlynnoedd llanw, y tidal lagoons ac yn y blaen. Ar hyn o bryd, Ystâd y Goron sy'n dal yr hawl ar y lleoliadau hyn. Dim ond pan gânt eu rheoli gan Gymru a'i phobl y gellir defnyddio a dosbarthu adnoddau naturiol Cymru a'r rhenti economaidd sy'n deillio o'u defnydd mewn ffordd y byddai'n elwa'n cymunedau.
Wedi'r cyfan, mae Ystâd y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i'r Alban ers 2017, ac maen nhw'n elwa o ryw £12 miliwn y flwyddyn i wario ar iechyd, addysg, trafnidiaeth cyhoeddus, ynni gwyrdd ac yn y blaen. Byddai Ystâd y Goron yn nwylo pobl Cymru yn rhoi ffynhonnell ariannol hirdymor inni, fyddai'n ein galluogi i fuddsoddi yn ein dyfodol a gwireddu ein amcanion newid hinsawdd.
Gadwech imi nesaf droi at ddŵr, sydd yn bwnc eithriadol o emosiynol inni yng Nghymru. Does dim ond rhaid i fi gyfeirio at Dryweryn er mwyn deall cymaint o effaith mae boddi Capel Celyn wedi ei gael ar ein seicoleg fel cenedl. Caiff miliynau ar filiynau o litrau o ddŵr eu tynnu o Gymru a'u hanfon dros y ffin bob dydd. Mae'r protocol dŵr presennol, sy'n amlinellu'r berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a San Steffan yn sicrhau bod gan San Steffan y feto dros benderfyniadau sy'n ymwneud â dŵr yng Nghymru. Gallwn ni byth a dylen ni byth setlo am addewidion gwag gan San Steffan, a chydag ofnau am brinder dŵr yn tyfu a chyfnodau o sychder yn debygol o ddod yn rhywbeth mwy cyffredin yn y dyfodol, mae'n bosib iawn y daw dŵr yn adnodd hynod o werthfawr i ni. Rhaid inni felly gael cytundeb cyfreithiol na ellir byth ddinistrio cymunedau Cymru eto ar gyfer anghenion dŵr, a bod unrhyw benderfyniadau am ddiwallu anghenion yn cael eu gwneud yma gan Lywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol.
Dwi am orffen drwy sôn am drydan. Mae Cymru'n cynhyrchu dwywaith mwy o drydan nag sydd ei angen arnom ni. Mae'r gweddill yn cael ei allforio. Yn Ewrop, dim ond Ffrainc, yr Almaen a Sweden sy'n allforio mwy o drydan na ni yng Nghymru, ond y broblem yw, er ein cryfder, ychydig iawn o fudd sy'n dod i bobl Cymru, gyda rhyw draean o gartrefi'n dioddef o dlodi tanwydd, a'n pobl yn wynebu'r costau tanwydd mwyaf uchel yn y Deyrnas Unedig. Dyw hynny, Llywydd, ddim yn dderbyniol.
Felly—a dwi'n cloi gyda'r paragraff byr hwn—er mwyn dyfodol lle nad yw Cymru unwaith eto'n cael ei gwasgu i gyflenwi ei hadnoddau i'r byd tra bod ei phobl ei hun yn dioddef, rhaid inni sicrhau bod gan ein cenedl, ein pobl, reolaeth dros ein hased mwyaf gwerthfawr, sef ein hadnoddau naturiol. Gadewch inni beidio â gadael gwaddol i genedlaethau'r dyfodol fel ein tipiau glo a'n cronfeydd dŵr o gyfleoedd a gollwyd sy'n glwyfau dolurus o'r ffordd mae Cymru wedi cael ei hecsbloetio dros y canrifoedd. Mae'n bryd i hynny ddod i ben. Mae'n bryd inni gael rheolaeth lwyr ar yr adnoddau hynny sydd ar dir Cymru.
Pan fyddaf yn teithio ar hyd gogledd Cymru, naill ai ar y trên neu ar y ffordd, yn cerdded llwybr yr arfordir neu'n ymweld â'r cyrchfannau glan môr hardd, yr olygfa allan i'r môr yw tyrbinau gwynt, ac mae'r tyrbinau hynny'n eiddo i gwmni o'r Almaen, RWE, sy'n cynhyrchu traean o holl drydan adnewyddadwy Cymru. Maent yn prydlesu'r tir gan Ystâd y Goron. Mae BP wedi ennill yr hawl i ddatblygu mwy o dyrbinau gwynt ar fôr Iwerddon ar ôl i Ystâd y Goron werthu mwy o'r ardal, gan wneud miliynau o bunnoedd mewn rhent dros y degawd nesaf. Yn wahanol i'r Alban, nid yw Ystâd y Goron wedi'i datganoli yng Nghymru, ac felly nid yw'r arian hwn, a gynhyrchir gan adnoddau naturiol Cymru, yn cael ei ailfuddsoddi'n uniongyrchol i ddarparu seilwaith gwell a fydd o fudd i bobl Cymru, ac nid yw'n cael ei ddefnyddio ychwaith i sicrhau bod prisiau'n cael eu cadw ar gyfradd y gall pobl gyffredin ei fforddio. Mae EDF, sy'n eiddo cyhoeddus yn Ffrainc, yn gwerthu trydan i'r DU am bris uchel. Mae hynny ar fin codi 54 y cant. Ond yn Ffrainc, mae'r Llywodraeth wedi sicrhau bod y cynnydd wedi'i gapio ar 4 y cant. Yn Ewrop, ac mewn gwledydd sydd â'u cwmnïau eu hunain sy'n eiddo cenedlaethol, mae'r pris draean yn is nag yn y DU.
Cawn ein hamgylchynu gan gwmnïau sy'n gwneud elw i gyfranddalwyr, ond yn anffodus, mae hyn yn dilyn hanes hir o adnoddau naturiol Cymru yn cael eu hysbeilio tra bod buddiannau'r Cymry'n cael eu bwrw o'r neilltu. Boed yn lo, yn ddŵr neu'n wynt, mae'n rhaid i'r patrwm hwn ddod i ben. Mae'r argyfwng ynni a wynebwn yn awr yn dangos sut y ceir anghydbwysedd llwyr yn y system. Sut y gall fod yn iawn, tra bod pobl ledled Cymru yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi, fod BP a Shell yn parhau i wneud biliynau o bunnoedd mewn elw ac nad yw eu gweithrediadau môr y Gogledd wedi talu unrhyw dreth ers nifer o flynyddoedd? Mae'r system gyfan o fudd i ychydig bach o gyfranddalwyr cyfoethog iawn ar draul y lliaws.
Mae preifateiddio grid ynni'r DU, y grid cenedlaethol, yn gwneud cam â chwsmeriaid. Telir 25 y cant o filiau ynni i gwmnïau rhwydwaith. Fe'i defnyddir i lenwi pocedi cyfranddalwyr, gyda biliynau o bunnoedd yn cael eu talu mewn difidendau. Mae angen inni harneisio ein hadnoddau naturiol ein hunain i greu ynni adnewyddadwy i bobl Cymru, a chredaf yn gryf y bydd angen perchnogaeth gyhoeddus i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn, ac ynni uniongyrchol os oes modd, a pheidio â'i gyfeirio at y grid cenedlaethol er mwyn iddynt hwy wneud elw. A gwyddom fod hyn yn bosibl. Yn fy rhanbarth i, sef Gogledd Cymru, mae gan brosiectau ynni yn Abergwyngregyn elfen gymdeithasol wedi'u cynnwys ynddynt i sicrhau bod elw o'r cynllun trydan dŵr o fudd i'r gymuned leol, ac mae Cynllun Ynni a Menter Cymunedol Abertawe, cynllun sydd wedi ennill gwobrau, yn brosiect solar sy'n eiddo i'r gymuned, sy'n gweithio i ddarparu trydan glanach a mwy fforddiadwy ar gyfer pob adeilad, yn ogystal ag adnodd addysg gwerthfawr i'r gymuned leol, ac mae'n enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni.
Ond mae rheoli adnoddau naturiol yn effeithiol yn ymwneud â mwy na chynhyrchiant ynni yn unig; mae'n ymwneud â diogelu'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig er budd cenedlaethau heddiw a'r rhai sydd eto i ddod, ac mae hyn yn galw am gynllunio sylweddol. Mae'n bwysig ein bod yn dechrau sefydlu strategaeth ystyriol lle y ceisir caniatâd ar gyfer defnydd tir. Tir yw un o'n hadnoddau mwyaf, ac ar hyn o bryd mae hefyd yn cael ei brynu gan fusnesau mawr i negyddu eu cyfrifoldeb corfforaethol drwy wrthbwyso carbon, a dylai'r Cymry benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio ein tir a hwy a ddylai elwa o hynny. I grynhoi, mae arnom angen Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle y gwneir penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yng Nghymru, a dylid datganoli'r pwerau i wneud penderfyniadau ar adnoddau naturiol Cymru i Gymru fel y gallwn greu llwybr sy'n sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu defnyddio er budd y lliaws ac nid ychydig rai. Diolch.
Ni waeth beth fo'ch damcaniaethau neu'ch credoau economaidd, credaf ei bod yn anodd dadlau nad oes gan Gymru economi echdynnol. Ceir tueddiadau hanesyddol a chyfoes o echdynnu economaidd ac ecsbloetio adnoddau Cymru gan fuddiannau allanol. Mae'r diwydiant glo yn enghraifft hanesyddol berffaith o echdynnu adnoddau o'r fath. Roedd Cymru'n pweru'r byd, gyda'r siec gyntaf £1 filiwn wedi'i llofnodi rownd y gornel o'r Senedd hon, ond yr holl lo wedi ei gludo allan a'r arian wedi'i wneud mewn mannau eraill. Rydym yn dlotach yn awr oherwydd y systemau a ganiataodd ar gyfer echdynnu economaidd a gadael fawr ddim cyfoeth ar ôl i'r Cymry. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi galw hyn yn goma economaidd a grëwyd gan San Steffan. Mae George Monbiot eisoes wedi disgrifio Cymru fel economi echdynnol glasurol, gan fod ein mapiau seilwaith yn debyg i gyfres o ddraeniau sy'n llifo tuag at y porthladdoedd a'r gororau gan wagio Cymru yn y pen draw o'i chyfoeth er budd i rywun arall.
Gallwn weld hefyd fod San Steffan yn dal i reoli 45 y cant o wariant Cymru, heb unrhyw sicrwydd y caiff ei wario'n unol ag anghenion a dyheadau pobl Cymru. A cheir llawer mwy o enghreifftiau, enghreifftiau mwy cyfoes, lle y caiff cyfoeth ei greu o adnoddau Cymru, a'i fwynhau y tu allan i Gymru, heb fawr ddim budd os o gwbl i bobl Cymru nac i economi Cymru, boed hynny drwy Ystâd y Goron, echdynnu ynni adnewyddadwy neu gynhyrchiant bwyd a phlannu coed ar dir amaethyddol. A dyma rywbeth i chi feddwl amdano: mae poblogaeth Cymru'n 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond yn 2020 dim ond 2 y cant o gyllideb ymchwil a datblygu y DU a gawsom. Mae gennym 6 y cant o filltiroedd trac rheilffordd y DU, ond dim ond 1 y cant o gyllideb bresennol Network Rail a gawsom, a hynny cyn ystyried effaith HS2. Ac mae'r rhestr yn parhau. Bydd gadael i draddodiad o economi echdynnol barhau yn niwed pellach i'n heconomi a bywoliaeth a safonau byw dinasyddion Cymru.
Bydd llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn ymwybodol o fath arall o echdynnu sy'n digwydd ar hyn o bryd. Rydym wedi siarad amdano yn y Siambr, a chynhyrchodd Gweinidog yr Economi strategaeth yn ddiweddar i fynd i'r afael ag ef, sef y draen dawn. Rhaid inni wella ein hymdrechion i gadw ein pobl ifanc a'n doniau medrus yng Nghymru ynghyd â'r asedau y maent yn eu sicrhau i'r wlad. Ni allwn ffynnu os na allwn unioni'r draen dawn. Gwelwyd tuedd hanesyddol a phroblem barhaus yn sgil allfudo pobl ifanc a thalent o Gymru i Loegr, rhannau eraill o'r DU, a gweddill y byd. Roedd y 'Strategy for Rural Wales', a ysgrifennwyd gan Gyngor Cymru 50 mlynedd yn ôl, ym 1971, yn trafod yr angen i fynd i'r afael ag allfudo pobl ifanc o gefn gwlad Cymru.
Yn 2017, roedd Cymru yn ddegfed allan o 12 rhanbarth y DU o ran colli graddedigion. Er enghraifft, credir y bydd tua 75 y cant o'r holl bobl ifanc yng Nghymru sydd am fynd i faes meddygaeth yn gweithio i GIG Lloegr yn y pen draw. Pan fydd pobl ifanc uchelgeisiol a doniau yn mudo'n barhaus o ardaloedd penodol yng Nghymru neu Gymru gyfan, mae'n ei gwneud yn anos mynd ar drywydd adferiad economaidd, ac mae'n bygwth mynediad Cymru at sgiliau a doniau a fyddai'n helpu i adeiladu economi gynaliadwy. Mae mynd i'r afael â'r mater yn gymhleth fodd bynnag, gan nad yw llawer o'r data a gesglir ar y draen dawn, megis arolygon graddedigion neu ddata cleifion y GIG, yn manylu ar y rhesymau pam y mae pobl wedi symud allan o Gymru, ac mae allfudo o gefn gwlad Cymru yn debygol o fod wedi ei ysgogi gan resymau gwahanol i'r allfudo o Gaerdydd. Er mwyn ymchwilio i'r mater, rhaid inni wella ein dealltwriaeth o achosion allfudo.
Ond mae'n rhaid inni fynd ati'n fwy gweithredol i wneud hyn. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, wedi comisiynu a chyhoeddi ymchwil i ffactorau sy'n dylanwadu ar benderfyniadau mudo yn yr Alban. Gellid defnyddio cymhellion ariannol i gadw llafur yng Nghymru, fel sydd wedi'i wneud yn yr Alban, drwy leihau ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr, er enghraifft, a fyddai yn ei hanfod yn gweithredu fel gostyngiad yn y cyfraddau treth cynyddol y mae graddedigion diweddar wedi bod yn eu hwynebu yn dilyn cynnydd i yswiriant gwladol a chynnydd yn y dreth gyngor. Mae'r Alban wedi llwyddo i wrthdroi ei draen dawn i weddill y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl yn symud o weddill y DU i'r Alban na'r ffordd arall.
I gloi, Lywydd, dylid cadw asedau a'u budd, boed yn adnoddau neu'n bobl, yng Nghymru, ac er budd pawb sy'n byw yng Nghymru. Hyd nes y gallwn sicrhau bod hynny'n digwydd, bydd Cymru'n parhau i fethu cyrraedd ei photensial.
Y Gweinidog nawr i gyfrannu i'r ddadl. Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon.
Fel Llywodraeth Lafur, credwn fod gan y wladwriaeth rôl hanfodol i sicrhau bod cyfoeth yn yr economi yn cael ei ddosbarthu'n deg. Mae dosbarthu cyfoeth yn fwy cyfartal yn mynd law yn llaw â ffyniant a gwaith teg. Fodd bynnag, nid ydym yn credu mewn creu gelyn cyfleus o fuddiannau allanol. Rydym yn byw mewn byd rhyng-gysylltiedig lle na ellir mynd i'r afael â llawer o'r heriau mwyaf dybryd a wynebwn heb gyfnewid a chydweithredu rhwng pobl a gwledydd.
Mae'n niweidiol iawn i fuddiannau pobl sy'n gweithio os yw ffigyrau cyhoeddus yn meithrin ymdeimlad o anfodlonrwydd a rhaniadau at ddiben manteision gwleidyddol tymor byr. Yn hytrach, dylem fod yn cynnig atebion real ac ymarferol i'r anfanteision y mae pobl yn eu hwynebu, oherwydd yn y pen draw bydd yr atebion hynny o fudd i bob un ohonom, yma yng Nghymru ac o amgylch y blaned rydym i gyd yn ei rhannu.
Rydym yn sicr yn rhannu'r pryder a fynegwyd yn y cynnig gwreiddiol fod cymunedau Cymru wedi bod dan anfantais yn economaidd, gan gynnwys drwy echdynnu cyfoeth o adnoddau naturiol, a bod anfanteision o'r fath yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â hwy. Fodd bynnag, nid ydym yn credu ei bod yn iawn nac yn gyfrifol ceisio awgrymu bod tynged cymunedau Cymru wedi ei phennu gan batrymau hanesyddol o wrthdaro sectyddol, neu fod honiadau o'r fath yn adlewyrchu hanes cymhleth Cymru mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Ac nid yw honiadau o'r fath yn cynnig unrhyw atebion ymarferol i'r materion a godwyd ychwaith.
Mae'r enghreifftiau penodol o echdynnu cyfoeth a godwyd yng nghynnig Plaid Cymru yn faterion go iawn y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu arnynt, gan fod cyhoeddiadau a datganiadau diweddar ar ynni, coedwigaeth a sero net i gyd wedi'u rhoi gerbron y Senedd. Nid gweithredwyr tramor gelyniaethus sy'n creu'r her a wynebwn wrth gyflawni'r newid y dymunwn ei weld, ond diffygion yn y setliad datganoli presennol, effaith y newidiadau eang yn yr amgylchedd polisi a grëwyd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, ac anhrefn yn y meysydd hyn a llawer o feysydd eraill a orfodir ar y wlad hon gan y Llywodraeth Geidwadol anfedrus a chywilyddus yn San Steffan.
Ni fydd ymdeimlad o erledigaeth neu bolisi economaidd llawgaead a gelyniaeth tuag at eraill yn sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol ar adnoddau naturiol, na gwaith teg a ffyniant i'n cymunedau. Ni fydd ychwaith yn denu ac yn cadw'r ddawn leol neu fyd-eang sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru.
Mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi cyflwyno cynigion radical, ymarferol ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig, fel bod mwy o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru, megis sut i ddosbarthu'r refeniw a godir gan Ystâd y Goron yng Nghymru, yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Gellid bwrw ymlaen â'r rhain yn awr, wrth gwrs. I esbonio i'n cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae ein perthynas ag Ystâd y Goron yma yng Nghymru yn dda iawn, ac maent yn rheoli nifer fawr o adnoddau yma yng Nghymru yn wir. Yr hyn na allant ei wneud yw rhoi'r refeniw a gynhyrchir gan yr adnodd hwnnw yn ôl i ni, na derbyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch manteisio ar yr adnodd hwnnw. Felly, roedd Janet yn iawn i ddarllen y nifer fawr o bethau y mae Ystâd y Goron yn eu gwneud yn dda; yr hyn y mae'n methu ei ddeall yw bod yr holl elw ohono'n mynd yn syth yn ôl i San Steffan ac nad oes dim ohono'n dod yma. Mae'n amlwg mai dyna'r hyn rydym am ei ddatganoli i Gymru, felly credaf mai camddealltwriaeth allweddol yn yr ymchwil y mae'r Aelod yn dweud ei bod wedi'i wneud yw hynny.
O fethu gwneud hynny, byddai ethol Llywodraeth newydd yn San Steffan, wrth gwrs, yn rhoi cyfle pellach i ddiwygio'r Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n ein gwneud yn gryfach yn wyneb ein heriau polisi domestig, ac yn gryfach yn wyneb yr heriau byd-eang sy'n wynebu pawb ohonom, yn enwedig newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Lywydd, ni allaf gofio sawl gwaith y bu'n rhaid i mi egluro wrth Janet Finch-Saunders na allwch gytuno bod yna argyfwng hinsawdd a mynd ati wedyn i ladd ar bob polisi sy'n angenrheidiol i wneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Ni wnaf eu hailadrodd yma, ond bydd yr Aelodau'n gwybod ei fod wedi'i gofnodi fy mod wedi gorfod dysgu'r Aelod gyferbyn na all neidio ar bob trol ac yna gwrthwynebu pob polisi a luniwyd i wneud i hynny ddigwydd.
Mae eironi hefyd yng nghynnig yr wrthblaid fod y dadleuon a gyflwynwyd yn adlewyrchu'r rhai a wnaed gan rai a ymgyrchodd dros dynnu'r DU o'r Undeb Ewropeaidd: yr ymdeimlad o gwyno am eraill ac addewid o ddigon ar ôl i'r pwerau tramor hynny gael eu rhoi'n ôl yn eu lle priodol. Wrth gwrs, mae'r realiti'n llawer mwy cymhleth, ac mae ein cymunedau a'n heconomi yn parhau i fod â chysylltiad agos â rhai ein cymdogion Ewropeaidd. Mae'r aflonyddwch economaidd sydd wedi deillio o ffordd anhrefnus Llywodraeth y DU o ymdrin â'n perthynas â'r UE wedi rhoi'r union gymunedau yr addawyd dyfodol gwell iddynt dan anfantais o ganlyniad, megis ffermwyr a physgotwyr Cymru. A defnyddiwyd hynny fel ffordd o danseilio sefydliadau y dibynnwn arnynt i ymateb i heriau byd-eang ein cyfnod ni, o Erasmus a'r confensiwn ar hawliau dynol, i fasnachu allyriadau a chadwraeth natur drawswladol drwy gynllun LIFE yr UE. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i annog Llywodraeth y DU i gael yr ymgynghoriad ar y cynllun masnachu allyriadau ar y gweill cyn gynted â phosibl. Nid oes dim o hyn yn anochel, ond efallai ei bod yn bosibl rhagweld na fyddai prosbectws sy'n seiliedig ar ragosodiadau ffug yn ceisio nac yn llwyddo i sicrhau'r manteision a addawyd gan y rhai sy'n ei gyflwyno.
Lywydd, er bod y frwydr dros gydraddoldeb yn real, nid yw dyfodol Cymru'n cael ei bennu gan anghyfiawnder y gorffennol na chan gynllwynion buddiannau allanol. Mae dyfodol gwell lle y caiff manteision adnoddau naturiol cyfoethog Cymru eu rhannu'n deg o fewn ein gafael os ydym yn barod gyda'n gilydd i anelu tuag ato; dyfodol lle y mae adnoddau naturiol Cymru wedi eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn unol â'n cyfrifoldebau byd-eang, gan feithrin cymunedau cryf a gwydnwch economaidd mewn byd cythryblus. Rydym yn gweithredu fel Llywodraeth, gan weithio gyda chymunedau a busnesau yng Nghymru, yn ogystal â chyda Llywodraethau eraill a phartneriaid rhyngwladol, i sicrhau'r dyfodol hwn, a byddwn yn gwrthwynebu'n ffyrnig yr honiadau fod gosod cymunedau yn erbyn ein gilydd yn ddim byd heblaw strategaeth ffug ar gyfer mantais wleidyddol tymor byr, yn erbyn buddiannau'r bobl rydym i gyd yma i'w gwasanaethu ac yn erbyn buddiannau'r amgylchedd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno ym mhob cwr o'r byd. Diolch.
Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am yr holl gyfraniadau. Mi wnaf i brosesu sylwadau'r Gweinidog a dod yn ôl at y rheini, o bosib, tuag at ddiwedd fy nghyfraniad i yn fan hyn.
Dwi a fy nghyd-Aelodau ar feinciau Plaid Cymru yn credu yng Nghymru. Rydyn ni'n uchelgeisiol dros Gymru, a dwi'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr yma yn dweud eu bod nhwythau'n cyd-fynd â hynny. Ond, beth sy'n ein gwahaniaethu ni, dwi'n meddwl, ar y meinciau yma ydy'n gweledigaeth ni am Gymru hyderus, deg a ffyniannus sy'n normal o annibynnol, sy'n gallu gwneud beth sy'n normal o ran defnyddio ei chryfderau a'i hadnoddau fel sylfaen i lunio'r dyfodol hwnnw. Ond, mae'r pwynt olaf yna'n un o'r pethau yna sy'n destun trafod wrth i bobl bwyso a mesur eu perthynas nhw efo'r drafodaeth ar ddyfodol Cymru. Mi wneith rhai ofyn efo diddordeb go iawn, wrth chwilio am ateb, 'Beth ydy'n hadnoddau ni? Oes gennym ni adnoddau o werth yma yng Nghymru?' Mi wneith eraill—a dwi'n edrych ar y meinciau sydd gyferbyn â fi, yn anffodus—rhoi o o fewn mwy o ddatganiad yn amlach na pheidio, 'Does gennym ni ddim adnoddau', neu i'w roi o'n blaen, 'Does gennym ni ddim byd gwerth ei gael, felly anghofiwch am lunio dyfodol gwell.' Mae'r ddadl y prynhawn yma, dwi'n meddwl, wedi bod yn fodd inni drafod beth ydy ein hadnoddau ni ac felly beth ydy'n potensial ni, fel y dywedodd Delyth Jewell yn ei geiriau agoriadol, ac o adnabod beth ydy rhai o'r adnoddau hynny, sut mae eu rheoli nhw er budd pobl Cymru a sut i atal y math o ecsbloetio, ie, rydyn ni yn anffodus wedi profi llawer gormod ohono fo dros y blynyddoedd.
Ni chyflwynwyd hon fel dadl ynglŷn ag annibyniaeth. Rydym ni ar feinciau Plaid Cymru yn gwbl glir yn ein fersiwn ni o Gymru annibynnol, ac mae ein hadnoddau, rheoli'r adnoddau hynny'n ofalus er budd holl bobl Cymru, yn rhan fawr o hynny. Ond wrth gwrs, byddwn yn dadlau bod rheoli'r adnoddau hynny yn y ffordd orau y gallwn, gan atal ecsbloetio'r adnoddau sydd gennym, yn aml gan eraill o'r tu allan i Gymru, yn elfen go bwysig, hyd yn oed yn y sefyllfa gyfansoddiadol lai na delfrydol rydym ynddi ar hyn o bryd. A byddwn yn gobeithio y byddai pawb yn cytuno â hynny hefyd.
Ond mae hi mor ddiddorol gweld bod Llywodraeth Cymru, yn ei gwelliant 'dileu popeth', yn penderfynu amddiffyn y sefyllfa gyfansoddiadol bresennol, gan groesawu, i bob pwrpas, y cyfyngiad ar reolaeth dros ein hadnoddau ni. Mae'r gwelliant hwnnw'n ddatganiad dryslyd sy'n dweud mai'r ffordd i gael y rheolaeth fwyaf ar ein hadnoddau yw peidio â chael rheolaeth lwyr arnynt. Maent yn dweud mai yn y DU y cawn ein gwasanaethu orau, gyda phenderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, pan fo'r un gwelliant yn dweud pa mor ofnadwy o wael y mae Llywodraeth y DU yn gwneud pethau.
Heddiw ddiwethaf yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Gymru nad oes awydd ymhlith y cyhoedd i ddatganoli Ystâd y Goron yng Nghymru. Gwn fod datganoli Ystâd y Goron yn rhywbeth y mae'r Gweinidog bellach yn ei gefnogi'n fawr, ac rwy'n gwerthfawrogi ei sylwadau ar hynny heddiw, ond gadewch imi ddweud wrthych—gadewch imi gyfieithu i chi, efallai—beth oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei olygu heddiw. Yr hyn a olygai oedd nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw awydd i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru. Fel y clywsom heddiw, byddai datganoli Ystâd y Goron yn dod â manteision enfawr i Gymru, fel y mae'r Alban yn ei weld—mae'r 25 GW o gynhyrchiant ynni ar brydles a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ystâd y Goron yr Alban yn rhyfeddol.
Credaf ei bod yn ddadlennol iawn mai'r hyn a ddysgais o sylwadau'r Aelod dros Aberconwy oedd ei bod yn credu nad ydym yn gallu rheoli'r adnoddau hynny. Byddaf yn ei groesawu os yw am amddiffyn hynny, ond yr hyn a glywais oedd nad yw'n credu y gallem wneud defnydd da o ddatganoli pwerau Ystâd y Goron.
Diolch am dderbyn ymyriad. Onid yw'n ffaith, lle y mae gennym ddatganoli'r holl bwerau gyda Llywodraeth Cymru yma yn awr—iechyd, addysg, trafnidiaeth, seilwaith; gallwn fynd ymlaen, Rhun—os edrychwch ar sut rydym wedi mynd tuag yn ôl mewn llawer o'r rheini, mae'r methiannau'n amlwg i bobl Cymru, ac Aberconwy yn wir?
Fe ofynnaf i chi ar unwaith a ydych am ddod yn ôl ar hyn. A ydych yn dweud yn awr yr hoffech gael gwared ar ddatganoli oherwydd nad ydych yn hoffi rhai pethau y mae plaid arall draw acw yn eu gwneud? Nid wyf i yn y blaid honno ychwaith. Byddwn wrth fy modd yn cael gwared arnynt o rym, ond mae gennym y pŵer yn ein dwylo ein hunain yng Nghymru ac mae gennym y potensial hwnnw, a dyna rydym yn ei geisio bob amser. Ewch amdani.
Gwrandewch, rydym wedi cael datganoli ers 22 mlynedd. Rydym hefyd wedi cael Llywodraeth Lafur yn cael ei chynnal gan Blaid Cymru ac ambell Ddemocrat Rhyddfrydol, a beth rydym wedi'i gyflawni? Mae'n bryd i bobl Cymru ganiatáu i'r Ceidwadwyr fod yma a chael yr ysgogiadau pŵer a'r cyllid i fynd gyda hynny. [Torri ar draws.]
Ni fyddech yn credu bod pedair blynedd a hanner i fynd cyn yr etholiad ar y pwynt hwn, fyddech chi? Rhun ap Iorwerth.
Onid yw'n ddadlennol eto, pan fyddwn yn sôn am rywbeth mor sylfaenol bwysig i ddyfodol Cymru, na allwch help ond ildio i'r demtasiwn o wleidydda hyn yn y modd hwnnw? A ninnau'n edrych ar ryddhau ein potensial, mae angen i chi fod ychydig yn fwy difrifol yn eich gwleidyddiaeth.
Yn ogystal ag edrych ar y rheolaeth y gallem ei gael drwy ddatganoli Ystâd y Goron, mae'r cynnig yn edrych ar elfennau eraill o reolaeth. Rydym wedi sôn am golli cannoedd o erwau o dir ar gyfer coedwigaeth, tir a blannwyd gan fuddsoddwyr o'r tu allan i Gymru i'w defnyddio fel credydau carbon. Mae'n ein hamddifadu ni o gredydau carbon sydd eu hangen arnom fel cenedl, ac mae'n ein hamddifadu hefyd o gyfanrwydd ein cymunedau—cyfleoedd i'n pobl ifanc ym myd ffermio, tanseilio iaith. Gwelwn yr un peth gyda datblygiadau solar ar Ynys Môn yn awr. Gall solar fod yn rhan bwysig iawn o'n cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, ond gadewch i ni fod yn arloesol yn y ffordd y'i gwnawn. Yr hyn sydd gennym ar Ynys Môn yw cynnig ar ôl cynnig ar gyfer miloedd o erwau o dir amaethyddol a glustnodwyd ar gyfer datblygiadau solar gan gwmnïau o'r tu allan i Gymru. 'Pam yma?' gofynnwn. 'O, mae eich tir yn rhatach na safleoedd tir llwyd, diolch yn fawr'. Clywn eu bod yn ymrafael dros dir fferm ym Môn Mam Cymru, sydd wedi bwydo'r genedl ers canrifoedd dirifedi. 'Beth am draffig adeiladu wrth iddo gael ei adeiladu?', gofynnodd un etholwr mewn cyfarfod cyhoeddus arall. 'O, peidiwch â phoeni, bydd llai o draffig fferm ar ôl iddo gael ei adeiladu', daeth yr ymateb anghredadwy. Ac roedd y cynnig budd cymunedol ariannol o'r fferm solar benodol honno yn £50,000 dros gyfnod oes fferm solar o 30 mlynedd. Mae'n sarhaus ac mae'n nodweddiadol o'r ecsbloetio a wynebwn.
Gadewch imi ymdrin â sylwadau'r Gweinidog i orffen, ac a wnaiff hi ychwanegu 'ecsbloetio' at y rhestr o eiriau nad yw'n gyfforddus â hwy. Teimlai ein bod yn rhy barod i leisio anfodlonrwydd, i fod yn ddioddefwyr. Gwrandewch, mae hyn yn ymwneud â dweud, 'Gadewch inni symud ymlaen o'r gorffennol'. Gadewch inni edrych ar ffordd o ymdrin â'n hadnoddau ein hunain mewn ffordd sy'n ein galluogi i gynllunio ein dyfodol fel cenedl o'i gwmpas—nid fel dioddefwyr, nid mewn anfodlonrwydd, ond yn wirioneddol benderfynol. A gadewch inni adeiladu partneriaeth yn y Senedd hon a all helpu i gyflawni'r dyfodol gwell hwnnw.
Yn y gorffennol, am ba reswm bynnag, nid ydym wedi teimlo'n ddigon hyderus i herio'r ecsbloetio—ac rwy'n defnyddio'r gair hwnnw eto. Gadewch inni ddweud bod y dyddiau hynny bellach wedi mynd, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn awr yw edrych ar ein hadnoddau yn eu holl agweddau, a sut i sicrhau y cânt eu defnyddio'n iawn—ie, yn rhyngwladol, mewn partneriaeth â phartneriaid o bob cwr o'r byd, ond er budd ein cymunedau a'n poblogaeth ni.
Lywydd, rydyn ni fel Aelodau Plaid Cymru yn falch o gael y cyfle i gyflwyno dadl fel hon yn Senedd ein gwlad ni. Rydyn ni wedi cael cyfle heddiw i amlinellu rhai o'r pethau sylfaenol yna rydyn ni'n meddwl a all ein galluogi ni i gryfhau seiliau Cymru y dyfodol. Ond, mae angen i'r Senedd yma weithredu ar ddiwedd y dydd—sylweddoli mai gennym ni, fel cynrychiolwyr pobl Cymru a chymunedau Cymru, y mae'r cyfrifoldeb i fynnu yr hawl i warchod ein hadnoddau amhrisiadwy. Does yna ddim ffiniau gwleidyddol na phleidiol ddylai ein gwahanu ni rhag ceisio gwireddu yr uchelgais hwnnw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. Rŷn ni nawr yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond mae angen inni gymryd toriad byr gyntaf er mwyn paratoi yn dechnegol. Toriad, felly.