8. Dadl Plaid Cymru: Adnoddau Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cytuno mai'r ffordd orau o sicrhau'r manteision mwyaf posibl o adnoddau naturiol yng Nghymru yw mewn Teyrnas Unedig ddiwygiedig lle mae penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru.

2. Yn cydnabod ein cyfrifoldeb byd-eang i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan weithio mewn cymunedau lleol a chyda phartneriaid rhyngwladol.

3. Yn gresynu at gamreolaeth ddi-drefn Llywodraeth y DU ar ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ac effaith hynny ar sut y mae’r manteision economaidd sy’n gysylltiedig ag adnoddau naturiol yng Nghymru yn cael eu gwasgaru, gan gynnwys yr effaith ar gymunedau gwledig a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd.