Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 9 Chwefror 2022.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon.
Fel Llywodraeth Lafur, credwn fod gan y wladwriaeth rôl hanfodol i sicrhau bod cyfoeth yn yr economi yn cael ei ddosbarthu'n deg. Mae dosbarthu cyfoeth yn fwy cyfartal yn mynd law yn llaw â ffyniant a gwaith teg. Fodd bynnag, nid ydym yn credu mewn creu gelyn cyfleus o fuddiannau allanol. Rydym yn byw mewn byd rhyng-gysylltiedig lle na ellir mynd i'r afael â llawer o'r heriau mwyaf dybryd a wynebwn heb gyfnewid a chydweithredu rhwng pobl a gwledydd.
Mae'n niweidiol iawn i fuddiannau pobl sy'n gweithio os yw ffigyrau cyhoeddus yn meithrin ymdeimlad o anfodlonrwydd a rhaniadau at ddiben manteision gwleidyddol tymor byr. Yn hytrach, dylem fod yn cynnig atebion real ac ymarferol i'r anfanteision y mae pobl yn eu hwynebu, oherwydd yn y pen draw bydd yr atebion hynny o fudd i bob un ohonom, yma yng Nghymru ac o amgylch y blaned rydym i gyd yn ei rhannu.
Rydym yn sicr yn rhannu'r pryder a fynegwyd yn y cynnig gwreiddiol fod cymunedau Cymru wedi bod dan anfantais yn economaidd, gan gynnwys drwy echdynnu cyfoeth o adnoddau naturiol, a bod anfanteision o'r fath yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â hwy. Fodd bynnag, nid ydym yn credu ei bod yn iawn nac yn gyfrifol ceisio awgrymu bod tynged cymunedau Cymru wedi ei phennu gan batrymau hanesyddol o wrthdaro sectyddol, neu fod honiadau o'r fath yn adlewyrchu hanes cymhleth Cymru mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Ac nid yw honiadau o'r fath yn cynnig unrhyw atebion ymarferol i'r materion a godwyd ychwaith.
Mae'r enghreifftiau penodol o echdynnu cyfoeth a godwyd yng nghynnig Plaid Cymru yn faterion go iawn y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu arnynt, gan fod cyhoeddiadau a datganiadau diweddar ar ynni, coedwigaeth a sero net i gyd wedi'u rhoi gerbron y Senedd. Nid gweithredwyr tramor gelyniaethus sy'n creu'r her a wynebwn wrth gyflawni'r newid y dymunwn ei weld, ond diffygion yn y setliad datganoli presennol, effaith y newidiadau eang yn yr amgylchedd polisi a grëwyd drwy adael yr Undeb Ewropeaidd, ac anhrefn yn y meysydd hyn a llawer o feysydd eraill a orfodir ar y wlad hon gan y Llywodraeth Geidwadol anfedrus a chywilyddus yn San Steffan.
Ni fydd ymdeimlad o erledigaeth neu bolisi economaidd llawgaead a gelyniaeth tuag at eraill yn sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol ar adnoddau naturiol, na gwaith teg a ffyniant i'n cymunedau. Ni fydd ychwaith yn denu ac yn cadw'r ddawn leol neu fyd-eang sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru.
Mae fy nghyd-Aelod, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi cyflwyno cynigion radical, ymarferol ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol i'r Deyrnas Unedig, fel bod mwy o'r penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru, megis sut i ddosbarthu'r refeniw a godir gan Ystâd y Goron yng Nghymru, yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Gellid bwrw ymlaen â'r rhain yn awr, wrth gwrs. I esbonio i'n cyd-Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae ein perthynas ag Ystâd y Goron yma yng Nghymru yn dda iawn, ac maent yn rheoli nifer fawr o adnoddau yma yng Nghymru yn wir. Yr hyn na allant ei wneud yw rhoi'r refeniw a gynhyrchir gan yr adnodd hwnnw yn ôl i ni, na derbyn cyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch manteisio ar yr adnodd hwnnw. Felly, roedd Janet yn iawn i ddarllen y nifer fawr o bethau y mae Ystâd y Goron yn eu gwneud yn dda; yr hyn y mae'n methu ei ddeall yw bod yr holl elw ohono'n mynd yn syth yn ôl i San Steffan ac nad oes dim ohono'n dod yma. Mae'n amlwg mai dyna'r hyn rydym am ei ddatganoli i Gymru, felly credaf mai camddealltwriaeth allweddol yn yr ymchwil y mae'r Aelod yn dweud ei bod wedi'i wneud yw hynny.
O fethu gwneud hynny, byddai ethol Llywodraeth newydd yn San Steffan, wrth gwrs, yn rhoi cyfle pellach i ddiwygio'r Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n ein gwneud yn gryfach yn wyneb ein heriau polisi domestig, ac yn gryfach yn wyneb yr heriau byd-eang sy'n wynebu pawb ohonom, yn enwedig newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Lywydd, ni allaf gofio sawl gwaith y bu'n rhaid i mi egluro wrth Janet Finch-Saunders na allwch gytuno bod yna argyfwng hinsawdd a mynd ati wedyn i ladd ar bob polisi sy'n angenrheidiol i wneud unrhyw wahaniaeth i hynny. Ni wnaf eu hailadrodd yma, ond bydd yr Aelodau'n gwybod ei fod wedi'i gofnodi fy mod wedi gorfod dysgu'r Aelod gyferbyn na all neidio ar bob trol ac yna gwrthwynebu pob polisi a luniwyd i wneud i hynny ddigwydd.
Mae eironi hefyd yng nghynnig yr wrthblaid fod y dadleuon a gyflwynwyd yn adlewyrchu'r rhai a wnaed gan rai a ymgyrchodd dros dynnu'r DU o'r Undeb Ewropeaidd: yr ymdeimlad o gwyno am eraill ac addewid o ddigon ar ôl i'r pwerau tramor hynny gael eu rhoi'n ôl yn eu lle priodol. Wrth gwrs, mae'r realiti'n llawer mwy cymhleth, ac mae ein cymunedau a'n heconomi yn parhau i fod â chysylltiad agos â rhai ein cymdogion Ewropeaidd. Mae'r aflonyddwch economaidd sydd wedi deillio o ffordd anhrefnus Llywodraeth y DU o ymdrin â'n perthynas â'r UE wedi rhoi'r union gymunedau yr addawyd dyfodol gwell iddynt dan anfantais o ganlyniad, megis ffermwyr a physgotwyr Cymru. A defnyddiwyd hynny fel ffordd o danseilio sefydliadau y dibynnwn arnynt i ymateb i heriau byd-eang ein cyfnod ni, o Erasmus a'r confensiwn ar hawliau dynol, i fasnachu allyriadau a chadwraeth natur drawswladol drwy gynllun LIFE yr UE. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i annog Llywodraeth y DU i gael yr ymgynghoriad ar y cynllun masnachu allyriadau ar y gweill cyn gynted â phosibl. Nid oes dim o hyn yn anochel, ond efallai ei bod yn bosibl rhagweld na fyddai prosbectws sy'n seiliedig ar ragosodiadau ffug yn ceisio nac yn llwyddo i sicrhau'r manteision a addawyd gan y rhai sy'n ei gyflwyno.
Lywydd, er bod y frwydr dros gydraddoldeb yn real, nid yw dyfodol Cymru'n cael ei bennu gan anghyfiawnder y gorffennol na chan gynllwynion buddiannau allanol. Mae dyfodol gwell lle y caiff manteision adnoddau naturiol cyfoethog Cymru eu rhannu'n deg o fewn ein gafael os ydym yn barod gyda'n gilydd i anelu tuag ato; dyfodol lle y mae adnoddau naturiol Cymru wedi eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac yn unol â'n cyfrifoldebau byd-eang, gan feithrin cymunedau cryf a gwydnwch economaidd mewn byd cythryblus. Rydym yn gweithredu fel Llywodraeth, gan weithio gyda chymunedau a busnesau yng Nghymru, yn ogystal â chyda Llywodraethau eraill a phartneriaid rhyngwladol, i sicrhau'r dyfodol hwn, a byddwn yn gwrthwynebu'n ffyrnig yr honiadau fod gosod cymunedau yn erbyn ein gilydd yn ddim byd heblaw strategaeth ffug ar gyfer mantais wleidyddol tymor byr, yn erbyn buddiannau'r bobl rydym i gyd yma i'w gwasanaethu ac yn erbyn buddiannau'r amgylchedd naturiol rydym i gyd yn dibynnu arno ym mhob cwr o'r byd. Diolch.