Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 9 Chwefror 2022.
Onid yw'n ddadlennol eto, pan fyddwn yn sôn am rywbeth mor sylfaenol bwysig i ddyfodol Cymru, na allwch help ond ildio i'r demtasiwn o wleidydda hyn yn y modd hwnnw? A ninnau'n edrych ar ryddhau ein potensial, mae angen i chi fod ychydig yn fwy difrifol yn eich gwleidyddiaeth.
Yn ogystal ag edrych ar y rheolaeth y gallem ei gael drwy ddatganoli Ystâd y Goron, mae'r cynnig yn edrych ar elfennau eraill o reolaeth. Rydym wedi sôn am golli cannoedd o erwau o dir ar gyfer coedwigaeth, tir a blannwyd gan fuddsoddwyr o'r tu allan i Gymru i'w defnyddio fel credydau carbon. Mae'n ein hamddifadu ni o gredydau carbon sydd eu hangen arnom fel cenedl, ac mae'n ein hamddifadu hefyd o gyfanrwydd ein cymunedau—cyfleoedd i'n pobl ifanc ym myd ffermio, tanseilio iaith. Gwelwn yr un peth gyda datblygiadau solar ar Ynys Môn yn awr. Gall solar fod yn rhan bwysig iawn o'n cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, ond gadewch i ni fod yn arloesol yn y ffordd y'i gwnawn. Yr hyn sydd gennym ar Ynys Môn yw cynnig ar ôl cynnig ar gyfer miloedd o erwau o dir amaethyddol a glustnodwyd ar gyfer datblygiadau solar gan gwmnïau o'r tu allan i Gymru. 'Pam yma?' gofynnwn. 'O, mae eich tir yn rhatach na safleoedd tir llwyd, diolch yn fawr'. Clywn eu bod yn ymrafael dros dir fferm ym Môn Mam Cymru, sydd wedi bwydo'r genedl ers canrifoedd dirifedi. 'Beth am draffig adeiladu wrth iddo gael ei adeiladu?', gofynnodd un etholwr mewn cyfarfod cyhoeddus arall. 'O, peidiwch â phoeni, bydd llai o draffig fferm ar ôl iddo gael ei adeiladu', daeth yr ymateb anghredadwy. Ac roedd y cynnig budd cymunedol ariannol o'r fferm solar benodol honno yn £50,000 dros gyfnod oes fferm solar o 30 mlynedd. Mae'n sarhaus ac mae'n nodweddiadol o'r ecsbloetio a wynebwn.
Gadewch imi ymdrin â sylwadau'r Gweinidog i orffen, ac a wnaiff hi ychwanegu 'ecsbloetio' at y rhestr o eiriau nad yw'n gyfforddus â hwy. Teimlai ein bod yn rhy barod i leisio anfodlonrwydd, i fod yn ddioddefwyr. Gwrandewch, mae hyn yn ymwneud â dweud, 'Gadewch inni symud ymlaen o'r gorffennol'. Gadewch inni edrych ar ffordd o ymdrin â'n hadnoddau ein hunain mewn ffordd sy'n ein galluogi i gynllunio ein dyfodol fel cenedl o'i gwmpas—nid fel dioddefwyr, nid mewn anfodlonrwydd, ond yn wirioneddol benderfynol. A gadewch inni adeiladu partneriaeth yn y Senedd hon a all helpu i gyflawni'r dyfodol gwell hwnnw.
Yn y gorffennol, am ba reswm bynnag, nid ydym wedi teimlo'n ddigon hyderus i herio'r ecsbloetio—ac rwy'n defnyddio'r gair hwnnw eto. Gadewch inni ddweud bod y dyddiau hynny bellach wedi mynd, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn awr yw edrych ar ein hadnoddau yn eu holl agweddau, a sut i sicrhau y cânt eu defnyddio'n iawn—ie, yn rhyngwladol, mewn partneriaeth â phartneriaid o bob cwr o'r byd, ond er budd ein cymunedau a'n poblogaeth ni.