Part of QNR – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.
Mae dadansoddiadau ardaloedd megis Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ynghyd â data rhaglenni yn helpu i lywio ein hymateb i dlodi mewn ardaloedd gwledig. Gwyddom y bydd cynnydd mewn chwyddiant a phrisau ynni, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer cynnyddu trethi, yn golygu bod mwy o aelwydydd yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, gan gynnwys y rheini yn ardaloedd gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru.