Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

QNR – Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o dlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

Mae dadansoddiadau ardaloedd megis Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ynghyd â data rhaglenni yn helpu i lywio ein hymateb i dlodi mewn ardaloedd gwledig. Gwyddom y bydd cynnydd mewn chwyddiant a phrisau ynni, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer cynnyddu trethi, yn golygu bod mwy o aelwydydd yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, gan gynnwys y rheini yn ardaloedd gwledig Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Photo of Joel James Joel James Conservative

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda heddluoedd ledled Cymru ynghylch y cysylltiadau rhwng caethwasiaeth fodern a lleoliadau golchi ceir anrheoleiddiedig?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

I have not met police forces on the specific issue of unregulated car washes.  However, we regularly engage the police and other partners on the Modern Slavery agenda, including in regular meetings of the Wales Anti-Slavery Leadership Group, Operational Delivery Group and Regional Anti-Slavery Groups. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Pa gamau ychwanegol mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad ydi pobl yn llwgu yn wyneb yr argyfwng costau byw?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

Fel rhan o’r gronfa Cymorth i Aelwydydd, cyhoeddais gyllid refeniw gwerth £500,000 i helpu sefydliadau bwyd cymunedol sy’n gweld cynnydd yn y galw o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr ymgodiad o £20 ar gyfer y rheini sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith.