Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal. Mae hwn yn Fil mawr a chymhleth, sydd, er ei fod yn gymwys i Loegr yn unig i raddau helaeth, yn cynnwys rhai darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru, a nifer o ddarpariaethau sy'n gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Mae rhai o'r meysydd hynny, fel systemau gwybodaeth am feddyginiaethau, gordewdra a chytundebau iechyd rhyngwladol yn cynnwys darpariaethau y bydden ni am i ddinasyddion Cymru elwa ohonyn nhw.
Yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a osodwyd ar 1 Medi a'r ail femorandwm a osodwyd ar 17 Rhagfyr, ni allwn argymell cydsyniad i'r Bil gan fod gen i bryderon y byddai'r Bil, fel y mae wedi’i ddrafftio, yn cael effaith andwyol ar gymhwysedd datganoledig mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, rydym ni wedi dod â'r Bil i sefyllfa lle gallaf argymell cydsyniad fel sydd wedi’i nodi yn fy nhrydydd memorandwm, a osodwyd ar 28 Ionawr. Nid yw amser, mae arnaf fi ofn, yn caniatáu i mi redeg drwy bob un o'r cymalau hyn sy'n ymgysylltu â'r broses cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Yn hytrach, byddaf yn amlinellu consesiynau'r DU i'n prif feysydd sy'n peri pryder a lle mae'r DU wedi ymestyn darpariaethau i Gymru ar fy nghais.
Yn gyntaf, roedd nifer o gymalau'r Bil yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer pwerau mewn perthynas â Chymru mewn rhai meysydd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mewn tri o'r meysydd hynny, cyrff hyd braich, rheoleiddio proffesiynol ac adrodd gorfodol, rydym ni wedi sicrhau consesiynau pwysig gan Lywodraeth y DU i'w gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud deddfwriaeth o dan y darpariaethau hynny o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig.
O ran cytundebau gofal iechyd rhyngwladol, mae'r Bil wedi'i ddiwygio i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig er mwyn gweithredu cytundebau o'r fath. Ac mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar ymgysylltu â'r Llywodraethau datganoledig wrth ddatblygu cytundebau gofal iechyd cyfatebol newydd a diwygiedig eisoes wedi'i gytuno ac wedi’i ddarparu i'r pwyllgorau craffu i'w helpu i ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil.
O ran systemau gwybodaeth am feddyginiaethau, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud deddfwriaeth o dan y darpariaethau hynny o fewn meysydd cymhwysedd datganoledig. Nawr, bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd yn cael ei gefnogi gan femorandwm cyd-ddealltwriaeth, wedi'i ddatblygu a'i gytuno â'r Llywodraethau datganoledig, gan nodi manylion ar sut y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal.
Fy ail faes pryder cyffredinol fu'r pwerau a geir mewn nifer o gymalau—149, 144 a 91—sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud diwygiadau canlyniadol i ddarpariaethau mewn Mesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru. Nawr, er y gall fod gennym ni bryder am y rhain, maen nhw mewn gwirionedd yn gymalau safonol, ac mae'n ffaith ein bod ni yn yr un modd yn cymryd pwerau yn Neddfau'r Senedd i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU wedi darparu enghreifftiau o sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn. Byddai'r diwygiadau'n debygol o fod o natur fach, er enghraifft, newid enw sefydliad yn Lloegr y cyfeirir ato yn neddfwriaeth y Senedd.
Ar 9 Chwefror, fe wnaeth yr Arglwydd Kamall ddatganiad ger bron y blwch dogfennau ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hyn. Yng ngoleuni'r holl sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU, a'r datganiad ger bron y blwch dogfennau, rwyf yn ystyried bod y risg a gyflwynir i Gymru gan y darpariaethau hyn yn dderbyniol. Mae consesiynau nodedig eraill wedi'u trafod mewn perthynas â chofrestrau meddyginiaethau cleifion ledled y DU, lle'r ydym ni wedi sicrhau gwelliannau pwysig o ran casglu a defnyddio data cleifion o Gymru.
Yn olaf, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cytuno i'm cais i ymestyn nifer o ddarpariaethau pwysig i Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys troseddoli profion gwryfdod a'r arfer cysylltiedig o hymenoplasti. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn cefnogi'r gwaith o wahardd yr arferion gwrthun hyn yng Nghymru. Gyda'i gilydd, rwy'n fodlon bellach y gall y Senedd roi ei gydsyniad i'r Bil. Diolch yn fawr, Llywydd.